麻豆传媒团队

En

Tiwtoriaid 麻豆传媒团队 yn troi adfyd yn gamau gweithredu i rymuso menywod


11 Mawrth 2025

Mae 麻豆传媒团队 yn falch o dynnu sylw at ddau aelod nodedig o staff, sef Tracey Jones ac Alison Stewart 鈥 am eu gwaith yn dylanwadu ar fywydau yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt.

A hwythau鈥檔 aelodau gweithgar o 鈥 gr诺p cymunedol sy’n ymroddedig i rymuso menywod a sbarduno newid cymdeithasol 鈥 mae Tracey ac Alison nid yn unig yn addysgwyr angerddol ond hefyd yn eiriolwyr dros gynhwysiant cymdeithasol.

Ochr yn ochr 芒’u swyddi bob dydd ym maes Gwallt a Harddwch ac ESOL (Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill), mae eu gwaith o fewn y gr诺p wedi helpu i greu cyfleoedd i fenywod lleol, meithrin prosiectau cymunedol, a chefnogi unigolion sy’n goresgyn adfyd.

Yn wir, mae menter ddiweddaraf y gr诺p 鈥 arddangosfa ffotograffiaeth bwerus ar y cyd 芒 鈥 yn anelu at newid y naratif ynghylch digartrefedd ymhlith menywod drwy gyfrwng arddangosfa ffotograffiaeth bwerus.

Mae’r arddangosfa, a gynhelir yn , yn cynnwys portreadau o fenywod sydd wedi cael profiad o ddigartrefedd 鈥 gyda’r nod o chwalu stereoteipiau, herio canfyddiadau, a rhoi gobaith y gall digartrefedd fod yn rhywbeth prin, am gyfnod byr, ac mai dim ond unwaith y bydd yn digwydd.

Gweithiodd aelodau Women of Newport gyda’i gilydd i ddod o hyd i chwe menyw a oedd wedi cael profiad o ddigartrefedd ac a oedd yn falch o rannu eu straeon am eu hadferiad. Yna tynnodd Kamila Jarczak (sefydlydd y gr诺p cymunedol) luniau ohonynt mewn gwahanol leoliadau o amgylch y ddinas.

A hithau wedi cael ei magu mewn gofal maeth cyn rhedeg i ffwrdd yn 15 oed, bydd stori Alison yn rhan ganolog o’r arddangosfa ffotograffiaeth. Dywedodd hi: 鈥淔el merch ifanc anniddig, mewn dim o dro roeddwn i yng nghanol byd caled dibyniaeth, gan lithro i ffwrdd oddi wrth gymdeithas. Roedd angen ymdrech aruthrol i oroesi 鈥 nes i weithred hael newid y llwybr yr oeddwn i arno.鈥

Diolch i gefnogaeth Canolfan Adsefydlu Hope House, ailadeiladodd Alison ei bywyd ac mae hi bellach yn Diwtor ac yn ofalwr maeth, sy’n ymroddedig i helpu eraill i ddod o hyd i obaith a phwrpas.

Aeth yn ei blaen i ddweud: “Mae brwydrau’r rhai o’m cwmpas yn ysbrydoli tosturi dwfn, gan fy ysgogi i gynnig cariad a chefnogaeth i’r rhai sydd mewn angen 鈥 yn union fel y gwnaeth eraill i mi unwaith.”

Yn y cyfamser, cafodd Tracey 鈥 sydd wedi treulio chwe blynedd yn gwirfoddoli i gefnogi pobl fregus a mynd i’r afael 芒 digartrefedd yn y gymuned leol 鈥 ymdeimlad o berthyn pan ymunodd 芒 Women of Newport yn 2023.

Mae hi bellach yn aelod o’r bwrdd, a hi sy’n arwain y gwaith ar yr arddangosfa ffotograffiaeth. Wrth fyfyrio ar ei r么l, dywedodd Tracey: “Rwy’n credu bod gan bob menyw y p诺er i wneud gwahaniaeth. Trwy Women of Newport, Homewards a’r gwaith rydym yn ei wneud yng Ngholeg Gwent, rydym yn profi y gellir trawsnewid bywydau, gyda’r gefnogaeth gywir, gwytnwch a chymuned.

“Mae’r ffordd rydyn ni’n trin pobl eraill yn diffinio pwy ydyn ni. Rwy’n dysgu fy myfyrwyr i gadw uniondeb ac urddas ym mhopeth a wn芒nt. Mae dysgu yn daith gydol oes, a gallwn bob amser ddysgu pethau doeth oddi wrth ein gilydd.”

Dywedodd Nicola Gamlin, Pennaeth 麻豆传媒团队: “Rydym yn hynod o falch ein bod wedi chwarae rhan fach yn nheithiau anhygoel y menywod hyn. Nid yn unig maen nhw’n ysbrydoli aelodau o’r gymuned leol, ond maen nhw hefyd yn bileri o bositifrwydd i’n holl fyfyrwyr.

“Mae eu gwaith a’u profiadau yn brawf byw y gall pethau newid er gwell, a bod yna bobl ar gael i’ch cefnogi drwy鈥檙 adegau anodd.

“Byddem yn erfyn ar bawb i fynd i weld arddangosfa Women of Newport os gallant, a dysgu mwy am y gwaith gwych maen nhw’n ei wneud 鈥 rydyn ni鈥檔 eu cefnogi gant y cant.”

I gael rhagor o wybodaeth am yr arddangosfa rad ac am ddim sy’n cael ei chynnal rhwng 8 Mawrth a 25 Mawrth, ewch .