Â鶹´«Ã½ÍŶÓ

En

Dewch i weithio i ni

Crosskeys Campus
play

Gyrfaoedd a swyddi

Yn ogystal â chynnig cyfleoedd gwych i’w fyfyrwyr, mae Â鶹´«Ã½ÍÅ¶Ó hefyd yn gwneud hynny i’w staff. Rydym yn sefydliad cynhwysol ac amrywiol, ac mae gweithio gyda ni’n brofiad boddhaus, cyffrous a difyr, gan eich bod yn helpu i lywio dyfodol pobl ifanc.

Pam ddylech weithio i ni?

Fel aelod o’n staff gwerthfawr, byddech yn mwynhau popeth sydd gan Â鶹´«Ã½ÍÅ¶Ó i’w gynnig:

  • Cyflog cystadleuol o fewn y sector Addysg Bellach
  • Hawl gwyliau blynyddol hael – isafswm o 28 diwrnod yn ogystal â gwyliau banc
  • Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol neu Gynllun Pensiwn Athrawon
  • Cyfleoedd gyrfa a datblygiad personol rhagorol
  • Dysgu am ddim ar gyrsiau a ariennir gan yr Adran Addysg a Sgiliau
  • Cyfle i ddysgu Cymraeg
  • Mynediad at ddau gynllun gofal iechyd • Rhaglen Cymorth i Staff am ddim
  • Mynediad at Daleb Gofal Plant a Chynlluniau Beicio i’r Gwaith
  • Darpariaeth iechyd galwedigaethol
  • Cyfle i ddod yn rhan o’n 6 rhwydwaith affinedd staff
  • Mynediad at gymorth iechyd meddwl sy’n sensitif yn ddiwylliannol i bobl o gymunedau Du Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig
  • Mynediad at Lesiant Ariannol a Hyfforddiant Gwytnwch Personol ar gyfer pob aelod o staff (rhaglen lesiant 3 sesiwn o hyd)
  • Mynediad i flwyddyn o danysgrifiad am ddim i’r ap llesiant Headspace
  • Gostyngiadau ar aelodaeth o ganolfan hamdden
  • Parcio am ddim ar ein prif gampysau

Ein hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant

Rydym wedi ymrwymo i gynnal cymuned barchus, lle gall bawb ddysgu, gweithio, datblygu a thyfu mewn lleoliad urddasol a diogel. Mae Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn flaenoriaeth yn Â鶹´«Ã½ÍŶÓ, ac rydym yn cydnabod yr angen am gamau gweithredu cadarnhaol, er mwyn sicrhau bod:

  • pawb yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i gyflawni hyd eithaf eu gallu
  • pawb yn mwynhau eu cyfnod yn y Coleg, gyda neb yn cael ei drin yn llai ffafriol ar sail rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, oedran, ffydd neu gred, statws mamolaeth/beichiogrwydd, ffordd o fyw, cefndir cymdeithasol, gwlad enedigol, iaith neu unrhyw ddosbarthiad arall o’n cymdeithas

Rydym wedi ymrwymo i gyfiawnder cymdeithasol – mewn geiriau eraill, rhoi cyfle i bob unigolyn gyflawni hyd at eithaf ei allu – ac rydym yn mynd ati’n weithredol i geisio amrywio ein gweithlu.

Rydym wedi ymrwymo i herio’r gwahaniaethu y mae rhai grwpiau o gymdeithas yn ei brofi, beth bynnag yw ei ffurf, gan wneud yn siŵr bod cydraddoldeb wrth wraidd popeth a wnawn. Rydym wedi datblygu arferion cynhwysol ym mhob maes er mwyn sicrhau bod pob grŵp ac unigolyn yn gallu gweithio a dysgu mewn amgylchedd sy’n rhydd rhag gwahaniaethu ac aflonyddu ar sail rhywedd, hil, ethnigrwydd, lliw, cenedligrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, oed, statws priodasol, cyfrifoldeb teuluol, gweithgareddau undeb llafur, cred grefyddol neu wleidyddol.

Rydym yn hyrwyddo diwylliant sy’n gwerthfawrogi cyfleoedd cyfartal ac amrywiol drwy raglen o ddigwyddiadau dynamig, heriol a chraff drwy gydol y flwyddyn. Bydd y digwyddiadau hyn yn hyrwyddo ymwybyddiaeth ac yn uno myfyrwyr a staff i ddysgu, cymdeithasu ac atgyfnerthu ein cysylltiadau cymunedol. Gyda’n gilydd, rydym yn anelu at fod yn gymuned oddefgar lle mae pawb yn dathlu’r gwahaniaethau rhwng unigolion a’r buddion mae hynny’n ei gynnig i’r coleg.

Dysgwch fwy am gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ein coleg.

Adroddiad ar y Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau – Mawrth 2022

Gwneud cais am ein swyddi gwag ar-lein

Mae ein swyddi gwag ar hyn o bryd yn cynnwys Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, Ffurflen Cydraddoldeb ac Amrywiaeth a Chanllaw ar Geisiadau Datgelu.

I wneud cais ar-lein, cliciwch ar y botwm isod.

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cwblhau’r holl adrannau a defnyddiwch hwy i ddarparu gwybodaeth i ni am sut mae eich sgiliau, gwybodaeth, profiad ac agwedd yn cyd-fynd â manyleb person y swydd. Yna cliciwch ‘Cyflwyno cais’ i gwblhau’r broses.

Os cewch eich rhoi ar y rhestr fer, byddwn yn rhoi gwybod i chi drwy e-bost neu dros y ffôn.  O ganlyniad i’r lefel o geisiadau a dderbyniwn, fel rhan o’n polisi ni fyddwn yn rhoi gwybod i chi os na fuoch yn llwyddiannus yn y broses llunio rhestr fer. Bydd ein tîm AD yn barod i helpu gydag unrhyw ymholiadau, neu gyda chwblhau eich ffurflen gais.  Gellir cysylltu â nhw ar vacancies@coleggwent.ac.uk

Eich Preifatrwydd - GDPR

Rydym yn cymryd diogelu data personol o ddifrif, felly bydd yr wybodaeth a ddarperir gennych ar eich ffurflen gais yn cael ei defnyddio i brosesu eich cais o dan sail gyfreithiol cyflawni contract â chi. Ni chedwir ceisiadau aflwyddiannus am fwy na chwe mis. Mae’n bosibl y cedwir ceisiadau llwyddiannus am gyfnod hirach. Dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych ychydig o hawliau i’r data yr ydym yn ei brosesu amdanoch.

Am fwy o wybodaeth, gweler ein hysbysiad preifatrwydd llawn.

Swyddi gwag

Mae gennym bum campws yn ne-ddwyrain Cymru yn Crosskeys, Casnewydd, Cwmbrân, Brynbuga a Glyn Ebwy.  Cliciwch ar y ddolen i weld union leoliad y swydd wag.