English

Datblygiadau Ystadau

Fel un o'r colegau sy'n perfformio orau yng Nghymru, rydym yn falch o gael cyfleusterau o'r radd flaenaf ac offer sydd o safon diwydiant ar gyfer ein dysgwyr. Rydym yn ceisio gwella ein cynnig i ddysgwyr yn gyson, ac yn ceisio dilyn y datblygiadau a'r gofynion diweddaraf, felly mae gennym nifer o brosiectau cyffrous ar y gweill i'n helpu i arwain y ffordd wrth addysgu gweithlu'r dyfodol.

Select a development:

Architect's impression of The HiVE Centre
HiVE
Impression of new Crosskeys entrance
Campws Crosskeys
Artists impression of Newport Knowledge Quarter
Ardal Wybodaeth Casnewydd

HiVE

Gyda’r angen cynyddol am wybodaeth a sgiliau STEM yn yr economi leol, uchelgais Â鶹´«Ã½ÍÅ¶Ó yw addysgu gweithlu’r dyfodol mewn adeilad pwrpasol lle bydd myfyrwyr yn cael eu hamgylchynu gan arloesedd a thechnoleg sy’n adlewyrchiad o’r diwydiant. Bydd ein Canolfan Beirianneg Gwerth Uchel (HiVE) newydd yng Nglynebwy yn agor ar hen safle ffatri Monwel yn 2025.

Mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent, Llywodraeth Cymru, y Cymoedd Technoleg, ac addysg, rydym yn buddsoddi mewn Canolfan Beirianneg Uwch yn agos at gampws Parth Dysgu Blaenau Gwent, a fydd yn cynnig addysg peirianneg o ansawdd uchel er mwyn rhoi’r sgiliau angenrheidiol i bobl ifanc ar gyfer y dyfodol.

Mae’r prosiect ar hyn o bryd yn y cyfnod adeiladu, gyda disgwyl i’r gwaith adeiladu gael ei gwblhau mewn pryd i groesawu myfyrwyr, yn cynnwys rhai sydd wedi cofrestru ar gyrsiau peirianneg yn Â鶹´«Ã½ÍÅ¶Ó o Hydref 2025.

Bydd y cyfleuster addysg carbon-niwtral a chwbl ddigidol, yn hyfforddi gweithlu’r dyfodol mewn disgyblaethau peirianneg uwch megis roboteg, deallusrwydd artiffisial, seiberddiogelwch, gweithgynhyrchu awtonomaidd, efelychiad a realiti estynedig. Bydd y cwricwlwm yn cael ei gynllunio a’i arwain gan arbenigwyr yn y diwydiant. Cyflwynir cyrsiau newydd ar lefelau 3, 4, 5 a 6, gan ddod â rhagoriaeth ac arbenigedd i’r ardal a rhoi hwb i’r economi leol.

Bydd HiVE, drwy ddod â diwydiant ac addysg at ei gilydd i faes peirianneg gwerth uchel, yn cynnig cyfleoedd ymchwil a datblygu i bartneriaid yn y diwydiant. Bydd yn ganolfan ar gyfer rhaglenni allgymorth ysgolion a chyflogwyr, a fydd o fudd i’r gymuned ehangach.

Architect's impression of The HiVE Centre

Lle i tua 600 o ddysgwyr

Cyfleuster glân, cynllun agored a chwbl awtomataidd.

Labordai awtomeiddio

Ystafelloedd realiti rhithwir ac estynedig

Cyfleusterau gweithgynhyrchu uwch

Gweithdai cerbydau awtonomaidd

Canolfan Deunyddiau Uwch Dennison (DAMC)

Cyfleusterau chwaraeon modur ac awyrennol arbenigol

Cyfleusterau cysylltiedig â'r gofod, dronau a cherbydau awtonomaidd

Â鶹´«Ã½ÍÅ¶Ó yn arwain ymestyn rhaglen beirianneg i ysgolion yn ne Cymru

22 o ysgolion ychwanegol yn ne Cymru yn cael budd o brosiectau addysg beirianneg (HiVE).

Darllen mwy

Ffurfiwyd Bwrdd Cynghori Cyflogwyr

Cyflwynodd Â鶹´«Ã½ÍÅ¶Ó a Chyngor Sirol Blaenau Gwent eu cynlluniau ar gyfer y cyfleuster HiVE newydd i ddarpar gyflogwyr cyn ymestyn gwahoddiad iddyn nhw ymuno â Bwrdd Cynghori’r HiVE.

Darllen mwy

Dechreuodd y gwaith adeiladu

Mae’r contractwyr ISG wedi dechrau gwaith ar safle hen ffatri Monwel Hankison.

Darllen mwy

Offer a brynwyd

£500,000 o offer peirianneg gwerth uchel wedi ei brynu i'w brofi ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent.

Cynllun peilot allgymorth ysgolion

Mae prosiect hyb peirianneg allgymorth peilot i ysgolion gwerth £100,000 wedi dechrau yn Ysgol Gyfun Tredegar.

Dyddiad agor amcanol

Y nod yw y bydd Canolfan HiVE wedi ei chwblhau ac ar agor ym mis 2024.

Dyddiad dechrau disgwyliedig

Disgwylir i'r gwaith ddechrau ar y safle ym mis Medi 2023.

Prosiect allan i dendr

Gwahoddir ceisiadau i dendro ar gyfer y prosiect yn ddiweddarach y mis hwn (Mai 2022).

Cyfnod cynllunio manwl

Mae'r prosiect o dan reolaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ac yn y cyfnod cynllunio manwl ar hyn o bryd.

Caniatâd cynllunio wedi'i roi

Mae caniatâd cynllunio ar gyfer prosiect HiVE wedi'i roi.

Cyflwyno cais cynllunio

Mae'r cais cynllunio ar gyfer canolfan Beirianneg Gwerth Uchel gwerth £8.5M wedi'i gyflwyno.

Trawsnewid Campws Crosskeys

Byddwn ni’n dechrau ar y rhaglen fuddsoddiad fwyaf ers ei sefydliad yn y 1960au. Ein gweledigaeth yw campws Crosskeys sy’n fwy o faint, yn fwy mentrus ac yn well, ac sy’n diwallu anghenion cwricwlwm amrywiol. Mae’r isadeiledd presennol yn cyflwyno problemau sylweddol o ran cynnal a chadw ac mae angen buddsoddiad sylweddol ar rai adeiladau er mwyn moderneiddio’r adeiladau a bodloni ein targedau sero net.

Mae’r gwaith trawsnewid yn dechrau trwy adleoli’r brif dderbynfa i Floc X a fydd yn dechrau’r gwaith o baratoi ar gyfer datblygiad aml-gyfnod. Mae’r cyfnod cyntaf yn cynnwys adeiladu adeiladau newydd gyferbyn â Bloc X ac yna’n dymchwel Bloc B a Bloc F. Ar ôl hynny, bydd Bloc K a Bloc Z yn cael eu disodli a bydd cyfnodau’r dyfodol yn canolbwyntio ar adleoli’r gampfa, gweithdai peirianneg a gweithdai cerbydau modur i flaen y campws.

Mae ein gweledigaeth yn ymestyn y tu hwnt i adnewyddu isadeiledd er mwyn croesawu cynaliadwyedd. Bydd pob adeilad newydd a phob adeilad sydd wedi’i adnewyddu yn sicrhau lefelau uchel o ran effeithlonrwydd ynni neu garbon isel gan alinio â thargedau carbon sero net Llywodraeth Cymru.

Rydym yn gwerthfawrogi mewnbwn gan ein rhanddeiliaid ac rydym yn cynnal proses ymgynghori ag aelodau staff, preswylwyr a phartneriaid allweddol eraill.

Rydym yn cydweithio i greu campws sy’n fodern, yn gynaliadwy ac yn ddeinamig er mwyn i ni allu parhau i gynnig profiad gwych i fyfyrwyr ac aelodau staff am genedlaethau i ddod.

Impression of new Crosskeys entrance

Y broses ymgynghori

Cyfres o ddigwyddiadau ymgynghori sydd ar agor i’r cyhoedd a gynhelir ar 13eg a 14eg

Cyfnod 1

Bydd y brif fynedfa yn symud i Floc X yn barhaol yr haf hwn cyn i’r gwaith ddechrau. Prosiect uchelgeisiol ac aml-gam fydd hwn, a fydd yn trawsnewid y campws yn amgylchedd dysgu mwy modern, o'r radd flaenaf a fydd hefyd yn cyflawni'r nod hollbwysig o fodloni ein hymrwymiadau carbon sero net. Uwch-gynllun Crosskeys fydd conglfaen ein cais cyfalaf 9 mlynedd i Lywodraeth Cymru fis Ebrill.

Ardal Wybodaeth Casnewydd

Mae Campws Dinas Casnewydd, sydd wedi’i leoli ar heol Nash, angen buddsoddiad sylweddol er mwyn addysgu gweithlu’r dyfodol i’r safon uchaf a darparu cyfleusterau addysgu a dysgu rhagorol. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Casnewydd wedi cyhoeddi cynnig adfywio i symud Canolfan Casnewydd i safle canolfan hamdden newydd ar Lan yr Afon, gyda safle presennol Canolfan Casnewydd yn cael ei ddatblygu’n gampws newydd i Goleg Gwent ac yn rhan o Ardal Wybodaeth Casnewydd.

Mae hyn yn rhoi cyfle i ni greu cyfleuster newydd sbon, modern ac addas i’r diben mewn lleoliad sy’n haws i’n dysgwyr a’n staff gyrraedd iddo. Bydd y campws modern gwerth £90m yn symud darpariaeth ystod eang o gyrsiau addysg bellach o Heol Nash, gan ddod â thua 2,000 o fyfyrwyr a staff i ganol y ddinas. Bydd yr amgylchedd dysgu gwell hwn yn agos at gampws Prifysgol De Cymru – darpariaeth addysg uwch bresennol y ddinas – ac yn ffurfio Ardal Wybodaeth Casnewydd.

Bydd y cyfleuster addysg newydd sbon yng nghanol y ddinas yn cynnig cyfleoedd dysgu mwy hygyrch er mwyn gwella canlyniadau addysgol ac adnoddau cymunedol yr ardal ac, ar yr un pryd, yn rhoi hwb i’r economi leol a chynyddu nifer yr ymwelwyr yng nghanol y ddinas.

Artists impression of Newport Knowledge Quarter

Llyfrgell a chanolfan astudio

Mannau gweithio hyblyg

Ystafelloedd tawel a mannau ymlacio

Mannau cymdeithasol, loceri i fyfyrwyr a wi-fi am ddim

Ystafell weddi

Gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr

Cymorth TG ar y safle

Cyfleusterau ADY arbenigol

Mannau addysgu modern

Labordai gwyddoniaeth a thechnoleg

Cyfleusterau gwallt, harddwch ac arlwyo

Ystafelloedd staff a lles

Lle i ystod eang o gyrsiau gael gweithdy.

Cynigion a chynlluniau terfynol

Mae'r cynigion a'r cynlluniau terfynol bellach yn cael eu llunio cyn i'r cais cynllunio llawn gael ei gyflwyno.

Cytundeb y Cabinet

Cytunodd y Cabinet i barhau â'r cynlluniau i symud y ganolfan hamdden a throi safle presennol Canolfan Casnewydd yn gampws i Goleg Gwent.

Cymeradwyaeth y cyhoedd

Cafwyd cymeradwyaeth eang i'r cynlluniau yn sgil yr ymgynghoriad cyhoeddus.

Cyfnodau cynnar y prosiect

Mae prosiect Ardal Wybodaeth Casnewydd yng nghyfnod cynnar y gwaith o fodelu gofod, llunio’r cytundeb strategol a thrafod y materion cyfreithiol.

Cyhoeddi adroddiad y Cabinet

Cyhoeddwyd adroddiad gan y Cabinet ym mis Rhagfyr 2020 ar gyfer ailddatblygu safle presennol Canolfan Casnewydd er mwyn datblygu cyfleuster addysg bellach newydd sbon i Goleg Gwent o dan Raglen Ysgolion a Cholegau yr 21ain Ganrif.

Ymholiadau'r wasg

Ar gyfer ymholiadau'r wasg a'r cyfryngau ynglŷn â’r datblygiadau diweddaraf i'n hystadau, cysylltwch â news@coleggwent.ac.uk gydag amlinelliad o'r wybodaeth a'r manylion yr hoffech eu cael, a bydd ein tîm cyfathrebu yn cysylltu â chi cyn gynted â phosib.