麻豆传媒团队

En

Cyflwyniad i gyflogwyr lleol yn nodi carreg filltir ar gyfer y prosiect HiVE


15 Chwefror 2024

Cyflwyniad i gyflogwyr lleol yn nodi carreg filltir ar gyfer y prosiect HiVE.

Arddangosodd 麻豆传媒团队, mewn partneriaeth 芒 Chyngor Sirol Blaenau Gwent, gynlluniau ar gyfer y cyfleuster HiVE newydd yng Nglyn Ebwy cyn gofyn i gyflogwyr ymuno 芒 Bwrdd Cynghori’r HiVE.

Menter gydweithredol rhwng Cyngor Sirol Blaenau Gwent, 麻豆传媒团队 a phartneriaid diwydiant yw HiVE. Nod y cyfleuster yw darparu hyfforddiant ac addysg arloesol mewn roboteg, deunyddiau a gweithgynhyrchu uwch a thechnolegau digidol a galluogi.

Gyda buddsoddiad swmpus o dros 拢12 miliwn a sicrhawyd gan raglen Cymoedd Technoleg Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, bydd HiVE, sef cyfleuster 21,808 troedfedd sgw芒r o faint, yn anadlu bywyd newydd i’r hen Adeilad Monwel Hankinson ar Ffordd Letchworth.

Amlygodd y cyflwyniad, a ddigwyddodd ar 31 Ionawr, y technolegau newydd a’r offer gweithgynhyrchu a fydd yn cymryd canol y llwyfan yn HiVE, a phwysigrwydd cydweithio rhwng y byd academaidd a diwydiant.

Ar 么l y cyflwyniad, croesawodd cadeirydd Bwrdd Cynghori’r HiVE, sef Bill Peaper, gwestiynau oddi wrth fusnesau lleol a fynychodd, a mynegodd diddordeb mewn ffurfio bwrdd cynghori gyda’r gallu i hwyluso deialog parhaol rhwng y byd academaidd a diwydiant, gan ddod a mewnwelediadau a safbwyntiau gwerthfawr ynghyd.

Cynhyrchodd y cyflwyniad ddiddordeb cadarnhaol ymysg busnesau lleol, gyda’r drafodaeth yn cwmpasu鈥檙 buddion i economi Blaenau Gwent a Chymru gyfan.

Dywedodd John Sexton, Pennaeth Cynorthwyol 麻豆传媒团队: 鈥淢ae’r economi lleol yn mynnu rhagor o weithwyr proffesiynol gydag arbenigedd ym meysydd STEM. Wrth i ni baratoi gweithlu’r dyfodol mewn technolegau digidol arbenigol, rydym ni’n awyddus i glywed oddi wrth gyflogwyr ynghylch sut y gallent ein helpu i ddatblygu talent fedrus yn yr ardal a phontio’r bylchau sgiliau sydd yn bodoli.

鈥淏ydd Bwrdd Cynghori’r HiVE yn chwarae r么l ganolog mewn llunio dyfodol HiVE a phontio’r bwlch rhwng dysgu academaidd ac anghenion y diwydiant. Edrychwn ymlaen at weld beth y gallem ni gyflawni gydag ein gilydd.鈥澨

Dywedodd Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet Lle ac Adfywio a Datblygu Economaidd Cyngor Sirol Blaenau Gwent: 鈥淢ae hwn yn brosiect cyffrous a hwyluswyd gan y cyngor, ac mi roedd hi’n wych croesawu cynrychiolwyr o鈥檙 gymuned fusnes a chael diweddariad ar gynlluniau’r cyfleuster HiVE newydd.听

鈥淏ydd y cyfleuster newydd ffantastig hwn yn datblygu’r genhedlaeth newydd o beirianwyr, gan roi mynediad i bobl ifanc at y sgiliau sydd eu hangen arnynt i gael gyrfeydd sy鈥檔 talu鈥檔 dda yn niwylliannau’r dyfodol.

鈥淢ae’n hanfodol bod gennym lein bibell o bobl ifanc a thalentog i feithrin canolfan dechnoleg uchel ym Mlaenau Gwent a’r Cymoedd yn gyffredinol, ac i ddenu buddsoddwyr i ddefnyddio’r sgiliau a ddatblygwyd drwy’r prosiect HiVE.鈥

Bydd y cyfleuster arloesol yn gartref i ofodau addysgu o ansawdd uchel, gan gynnwys ystafelloedd dosbarth, mannau astudio a gweithdai sy’n gallu cynnal hyd at 600 myfyriwr.

Bydd ysgolion cynradd ac uwchradd lleol ledled Blaenau Gwent hefyd yn elwa o HiVE, gyda chyfleoedd ar gyfer darlithoedd gwadd ac arddangosiadau gyda’r nod o ddarparu profiadau byd go iawn y tu hwnt i leoliadau ystafell ddosbarth traddodiadol. Bydd busnesau hefyd gyda mynediad at y cyfleuster er mwyn creu a darparu cynhyrchion i’w defnyddio yn y farchnadfa.

Y bwriad yw cyflwyno myfyrwyr i HiVE o Hydref 2024 ymlaen.

I gael rhagor o wybodaeth ac i fynegi diddordeb mewn ymuno 芒 Bwrdd Cynghori’r HiVE, cysylltwch 芒 Tara Lane: tara.lane@blaenau-gwent.gov.uk

Darllenwch fwy am ein听datblygiad adeiladu HiVE听yma.