Mae cymhwyster lefel prifysgol o fewn eich gafael!
Mae gennym nifer cynyddol o gyrsiau lefel prifysgol yn Â鶹´«Ã½ÍÅ¶Ó felly gallwch arbed amser ac arian ac astudio cwrs addysg uwch yma ar eich stepen drws.
Mae ein cyrsiau wedi’u dilysu gan bartneriaid ein prifysgol, ac yn rhoi hawl i chi ddefnyddio cyfleusterau’r brifysgol, gan gynnwys canolfannau dysgu’r campws, adnoddau ar-lein a’r Undeb Myfyrwyr. Bydd eich tystysgrif yn cael ei gyflwyno gan y brifysgol, a chewch eich gwahodd i’w seremoni raddio!
Mae astudio yn Â鶹´«Ã½ÍÅ¶Ó yn golygu y byddwch wedi’ch lleoli mewn amgylchedd dosbarth bach, cyfeillgar ac, fel myfyriwr addysg uwch, gallwch fod yn gymwys i wneud cais am gymorth ariannol a chymorthdaliadau i’ch helpu chi gyda chost astudio.
Poeni ynghylch gofynion mynediad? Nid oes gennym ofynion mynediad llym a does dim rhaid gwneud cais drwy UCAS ar gyfer y rhan fwyaf o’n cyrsiau, sy’n gwneud y broses ymgeisio mor rhwydd ag sy’n bosibl.
Eisiau dysgu mwy? Cymerwch gip ar yr opsiynau isod i ddysgu mwy am ein cyrsiau lefel prifysgol yn Â鶹´«Ã½ÍŶÓ.