Â鶹´«Ã½ÍŶÓ

En

Hyb Ymgysylltu ag Ysgolion

Ymgysylltu ag Ysgolion yn Â鶹´«Ã½ÍŶÓ

Yn Â鶹´«Ã½ÍŶÓ, rydym wedi ymrwymo i fagu perthnasoedd cryf â’n hysgolion lleol ac ysgogi myfyrwyr i archwilio’r ystod o lwybrau sydd ar gael iddynt.

Os ydych chi’n chwilio am wasanaeth ysgol i gyflwyno disgyblion i fyd addysg bellach neu weithdy ymarferol pwrpasol wedi’i deilwra i bynciau a llwybrau gyrfa penodol, mae gennym sesiwn sy’n bodloni amcanion eich ysgol.

Sesiynau sydd ar gael:

A) Cyflwyniad i Â鶹´«Ã½ÍÅ¶Ó (gwasanaeth)

Yn y gwasanaeth 30 munud hwn sy’n ennyn diddordeb, a arweinir gan ein Penaethiaid Gwasanaethau Dysgwyr, bydd disgyblion yn profi cyflwyniad i fywyd yn Â鶹´«Ã½ÍŶÓ.

Hyd: 30 munud

Lleoliad: Yr ysgol

Cynulleidfa: Blwyddyn 9 / Blwyddyn 10 / Blwyddyn 11

Cyflwynir gan: Pennaeth Gwasanaethau Dysgwyr

Uchafbwyntiau:

  • Fideo wedi’i animeiddio ar BontioÌýÌý
  • Trosolwg o fywyd yn y ColegÌýÌý
  • Cymorth, Cyllid a ThrafnidiaethÌýÌý
  • Arddangos Digwyddiadau sydd Ar DdodÌýÌý
  • Sut i gyflwyno cais?ÌýÌýÌý

Yr hyn i’w ddisgwylÌý

Mae’r gwasanaeth wedi’i ddylunio i roi trosolwg o Â鶹´«Ã½ÍŶÓ, ein campysau, ein cyfleusterau a’r mathau o opsiynau astudio.

Gall disgyblion ddisgwyl cael gwybodaeth am bontio o’r ysgol, cymorth, cyllid a’r broses cyflwyno cais.

B) Clinig y Coleg (cymhorthfa ar gyfer cymorth ac arweiniad wrth gyflwyno cais)

Mae’r sesiynau hyn yn fwyaf addas ar gyfer disgyblion sy’n dymuno mynd i’r coleg ar gyfer astudio pellach. Bydd ein tîm cyfeillgar a phrofiadol yn helpu myfyrwyr o ran cyflwyno cais i’r coleg wrth gynnig cyngor amhrisiadwy ar gyllid a thrafnidiaeth.ÌýÌý

Hyd: Hyd at 1 awrÌý

Lleoliad: Yr ysgol – bydd angen ystafell gyfrifiaduronÌýÌý

Cynulleidfa: Blwyddyn 10/Blwyddyn 11Ìý

Cyflwynir gan: Pennaeth Gwasanaethau Dysgwyr, Tîm Cymorth CGÌý

Uchafbwyntiau:ÌýÌý

  • Cymorth un i un ar gyfer cyflwyno caisÌýÌý
  • Arweiniad pwrpasol ar grantiau a thrafnidiaethÌý
  • Cyngor gan Gymorth CG sef ein tîm cymorth Â鶹´«Ã½ÍŶÓÌýÌý
  • Sesiynau grŵp bachÌý

Yr hyn i’w ddisgwylÌý

Mae ein staff wrth law i roi arweiniad i’ch disgyblion o ran y broses gyflwyno cais a gallant hefyd eu cynghori ynghylch y pynciau gorau yn seiliedig ar y gyrfaoedd y dymunir eu dilyn.ÌýÌýÌý

Bydd gan ddisgyblion gyfle i ofyn cwestiynau ynghylch opsiynau cyllid a thrafnidiaeth, gan gynnwys cyflwyno cais am Lwfans Cynhaliaeth Addysg a thocyn bws Â鶹´«Ã½ÍŶÓ.Ìý

C) Gweithdy Pwnc Pwrpasol

Mae ein gweithdai pwnc pwrpasol, a arweinr gan ein staff addysgu profiadol, yn sesiynau rhagarweiniol sy’n para rhwng 1 a 3 awr. Gall y gweithdai gael eu teilwra i gyd-fynd ag anghenion ac oedrannau’r disgyblion, o oedran ysgol gynradd i ddisgyblion Blwyddyn 11.Ìý

Hyd: Rhwng 1 a 3 awrÌý

Lleoliad: Yn yr ysgol neu ar un o gampysau Â鶹´«Ã½ÍŶÓÌý

Cynulleidfa: Disgyblion ysgol gynradd i ddisgyblion Blwyddyn 11Ìý

Cyflwynir gan: Tiwtoriaid pwncÌý

Uchafbwyntiau:ÌýÌý

  • Archwilio PynciauÌýÌý
  • Cyfleoedd GyrfaÌýÌýÌý
  • Cyrsiau yn Â鶹´«Ã½ÍŶÓÌýÌý
  • Sesiynau RhyngweithiolÌýÌý
  • Cyflwyno ar y campws neu yn yr ysgolÌýÌý

Pam dylech chi fynychu?ÌýÌý

Mae gweithdy pwrpasol yn cynnig cyfle i fyfyrwyr archwilio eu diddordebau academaidd a’u diddordebau gyrfa trwy sesiwn ymarferol dan arweiniad ein tiwtoriaid profiadol.ÌýÌý

Ymhlith y sesiynau a gynhaliwyd yn ddiweddar mae gweithdai a oedd yn canolbwyntio ar STEM a Pheirianneg, sgyrsiau ar yrfaoedd, rhagflas ar Godio a TGCh, cyflwyniad i faes gofal plant a llawer mwy!Ìý

D) Noson Rhieni / Gyrfaoedd / Noson Opsiynau

Gallwn fynychu digwyddiad uchod gyda staff yn barod i roi arweiniad a chyngor am ddechrau yn Â鶹´«Ã½ÍŶÓ.

Hyd: Rhwng 1 a 3 awr

Lleoliad: Yn eich ysgol

Cynulleidfa: Blwyddyn 9+

Cyflwynir gan: Tîm Gwasanaethau Dysgwyr neu Tîm Allgymorth

Uchafbwyntiau:

  • Archwilio Pynciau
  • Cyfleoedd Gyrfa
  • Cyrsiau yn Â鶹´«Ã½ÍŶÓ
  • Arweiniad Penodol
Staff member talking to parent and young student

Archebion

I drefnu sesiwn, llenwch y ffurflen a bydd aelod o’n tîm yn cysylltu â chi.

Cylchlythyr

Gweld beth rydym yn ei wneud yn eich Cylchlythyr Digwyddiadau ac Allgymorth!

Hand holding mobile phone
Beth and Brandon

Cysylltu â ni!

Brandon Ham a Beth O’Sullivan
Swyddogion Digwyddiadau ac Allgymorth

schools@coleggwent.ac.uk