Ein Gwerthoedd Craidd
Mae ein gwerthoedd yn bwysig iawn i ni. Maent yn amlinellu’r hyn yr ydym yn sefyll drosto, sut ydym yn ymddwyn a’r pethau sy’n bwysig i ni.
Fel myfyriwr yng Ngholeg Gwent, mae’n bwysig eich bod chi’n cynnal y gwerthoedd hyn hefyd, tra byddwch chi yma, a gobeithio y tu hwnt i’ch amser gyda ni.
Parch at Bawb
Beth ddylech chi ei wneud…
- Ceisio gwneud yn si诺r bod pawb yn cael eu cynnwys a bod eu llais yn cael ei glywed ym mhob rhyngweithiad 芒 chyd-weithwyr a dysgwyr
- Gwrando ar gwestiynau ac ymateb heb ragfarn
- Bod yn ymwybodol o, ac yn gyfrifol am, sut mae eich agwedd a’ch emosiynau yn gallu cael effaith ar bobl eraill
- Cymryd amser i wrando ac ymdrechu i ddeall barn pobl eraill
Beth na ddylech ei wneud
- Neidio i gasgliadau a gwneud rhagdybiaethau
- Mynegi barn anadeiladol, negyddol neu bersonol am bobl eraill a’u barn
- Dangos ffafriaeth
- Annog neu gymryd rhan mewn hel clecs
Yn cael ein gyrru gan ddatrysiadau
Beth ddylech chi ei wneud…
- Cofleidio gweledigaeth a strategaeth y Coleg
- Wynebu pob her yn gadarnhaol
- Ymgysylltu 芒 phawb i ganfod atebion
- Mynd i’r afael 芒 phroblemau ac ysgwyddo cyfrifoldeb
Beth na ddylech ei wneud
- Anwybyddu problemau a gobeithio y byddant yn diflannu
- Pasio’r bai i eraill
- Derbyn bod yr ail orau yn iawn
- Cau eich meddwl i syniadau gan bobl eraill
Y Dysgwr yn Gyntaf Bob Tro
Beth ddylech chi ei wneud…
- Trin pob dysgwr gyda pharch ac fel unigolion
- Ystyried yr effaith ar ddysgwyr wrth wneud pob penderfyniad
- Cynnwys dysgwyr yn y penderfyniadau rydych yn eu gwneud
- Gwerthfawrogi safbwynt ein dysgwyr – cydymdeimlo 芒 nhw
Beth na ddylech ei wneud
- Beio dysgwyr am y pethau rydym ni’n gyfrifol amdanynt
- Blaenoriaethu anghenion gweithredol cyn anghenion y dysgwyr
- Ymgymryd ag agwedd sydd ddim yn canolbwyntio ar y dysgwyr
- Peidio 芒 gwrando ar, a gweithredu ar, adborth y dysgwyr
Gweithredu'n Onest
Beth ddylech chi ei wneud…
- Bod yn deg, yn onest ac yn dryloyw
- Bod yn batrwm i eraill
- Delio 芒 sgyrsiau a sefyllfaoedd anodd
- Bod yn gyfrifol ac yn ddibynadwy
Beth na ddylech ei wneud
- Ymroi i ragfarn neu ffafriaeth
- Anwybyddu sylwadau ac ymddygiad amhriodol gan eraill
- Methu 芒 gweithredu yn unol 芒’n holl werthoedd, hyd yn oed pan fo hynny’n anodd
- Beio pobl eraill am bethau sy’n mynd o chwith