Rydyn ni鈥檔 un. Ni yw 麻豆传媒团队
Cefnogi Amrywiaeth a Chynhwysiant
Yn 麻豆传媒团队, mae ein gwerthoedd craidd yn hyrwyddo parch a derbyniad i bawb. Rydym yn benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod ein coleg yn fan y bydd pawb, yn staff ac yn ddysgwyr, yn teimlo’n ddiogel a’u bod yn cael eu parchu. Dylai pob un ohonom ddisgwyl i leoliad dysgu fod yn gynhwysol ac yn llawn potensial i newid bywydau pobl er gwell.
I ddarllen ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol diweddaraf, ewch i’n tudalen Llywodraethiant.
Ein Datganiad Amrywiaeth:
Rydym yn goleg cynhwysol ac amrywiol, lle mae croeso i bawb. Yn rhywle lle allwch chi fod yn chi eich hun, heb ofni cael eich beirniadu. Amgylchedd parchus, sy’n croesawu gwahanol ddiwylliannau, agweddau, credoau a safbwyntiau, lle mae pawb yn perthyn.
Drwy groesawu amrywiaeth, rydym yn meithrin amgylchedd agored a chroesawgar, lle gall pobl o bob cefndir ddysgu a chydweithio. Rydym wedi ymrwymo i gydraddoldeb, cynhwysiant, a llesiant, ac mae ein campysau amrywiol yn cynnig budd academaidd a chymdeithasol, yn ogystal 芒 budd cymunedol ehangach.
Mae amrywiaeth yn cyfoethogi cymuned ein coleg, ac yn un o’r agweddau sy’n ein gwthio tuag at gyflawni ein cenhadaeth, felly byddwn yn parhau i ymateb i newidiadau yn ein byd sy’n dod yn fwyfwy cysylltiedig. Drwy gydweithio, byddwn yn mynd i’r afael 芒 heriau鈥檙 dyfodol er mwyn cael gwared ar rwystrau at lwyddiant, wrth hyrwyddo diwylliant o gynhwysiant, tosturi, a pharch at bawb.
Yn ein barn ni, os ydych yn meithrin t卯m o bobl dalentog o gefndiroedd amrywiol, bydd pob un yn gallu cyfrannu eu ffordd unigryw o feddwl, ymateb a datrys problemau. Yn y pen draw, yn naturiol, y canlyniad fydd arloesedd, ac ynghyd 芒’r amrywiaeth o brofiadau ledled ein campysau, bydd yn eich paratoi chi – ein dysgwyr a’n staff – i ffynnu’n bersonol ac yn broffesiynol, mewn cymdeithas fyd-eang
Ein Siarter Amrywiaeth:
Er mwyn cefnogi鈥檙 Coleg i fod yn gymuned barchus, mae gr诺p llywio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant newydd wedi cael ei greu. Gwyliwch i ddarganfod pam eu bod nhw mor angerddol am gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Rhaid i ni anfon neges o gefnogaeth at ein cydweithwyr a dysgwyr mewn cymunedau o leiafrifoedd ethnig a rhaid i ni barhau i ymdrechu i wneud ein Coleg yn groesawgar i bawb, waeth beth fo鈥檜 cefndir.
Nicola Gamlin
Pennaeth