Gwella eich rhagolygon, gwella eich Mathemateg a Saesneg
Mae 麻豆传媒团队 yn cymryd datblygiad Mathemateg a Saesneg o ddifrif. Rydym yn cydnabod fod Mathemateg a Saesneg da yn asedau hanfodol ym marchnad swyddi heddiw, yn ogystal 芒 bywyd bob dydd.
Mae’r rhan fwyaf o gyflogwyr a phrifysgolion yn chwilio am ymgeiswyr sydd 芒 Graddau A*-C mewn TGAU Mathemateg a Saesneg ac, os nad oes gennych y cymwysterau hyn, mae’n debyg y byddwch yn ddi-waith am fwy o amser. Felly os na wnaethoch gael y graddau sydd eu hangen arnoch mewn TGAU Mathemateg a Saesneg ar gyfer y dyfodol yr ydych yn ei ddymuno, gallwn roi ail gyfle i chi eu gwella ochr yn ochr 芒’ch cwrs, yn ogystal 芒’ch helpu i gyflawni’r lefel sy’n ofynnol i:
- Wella eich rhagolygon cyflogaeth
- Ehangu eich cyfleoedd gyrfa
- Ennill mwy o arian yn y dyfodol o bosibl
Fel dysgwr llawn amser yn y Coleg, bydd Mathemateg a Saesneg yn rhan o’ch rhaglen ddysgu, byddwn yn eich cefnogi i ennill y cymwysterau Mathemateg a Saesneg sydd eu hangen ar gyfer datblygiad eich cwrs, cyflogwyr a’r brifysgol. Os na lwyddoch i ennill gradd C, neu uwch, mewn Mathemateg a Saesneg Iaith ar lefel TGAU, byddwch yn parhau i astudio’r pynciau hyn yn y Coleg. Yn dibynnu ar eich cyrhaeddiad, bydd hyn naill ai’n ail-sefyll arholiadau TGAU, neu astudio Sgiliau Hanfodol. Os byddwch chi’n ennill gradd C, neu uwch yn y pynciau hyn, byddwch yn parhau i ddatblygu’r sgiliau hanfodol hyn yn eich prif raglen neu drwy鈥檙 Dystysgrif Her Sgiliau.
Dyma pam fod Mathemateg a Saesneg mor bwysig
Mathemateg | Saesneg | |
---|---|---|
Cyfrifeg a Busnes | I wneud yn si诺r nad ydych yn gwario mwy na’ch cyllideb | I gyfathrebu’n effeithiol 芒 staff a thrafod gyda chleientiaid |
Celf a Dylunio, y Cyfryngau, Ffotograffiaeth | I fesur ffabrigau ym maes dylunio ffasiwn i sicrhau bod dillad yn ffitio | I gyflwyno eich gwaith yn llwyddiannus i gleientiaid |
Moduro | Darparu amcangyfrifon cost cywir ar gyfer atgyweiriadau neu wasanaethau cynnal a chadw | Cyfathrebu 芒 chwsmeriaid i esbonio materion technegol ac opsiynau atgyweirio |
Arlwyo a Lletygarwch | I gyfrifo cynhwysion rys谩it a gweithio allan pa mor hir y mae angen i chi ei goginio | I ddarparu gwasanaeth cwsmer rhagorol a chael archebion yn gywir |
Cyfrifiadura a Thechnoleg Ddigidol | Rhoi fformiwl芒u mewn taenlenni | Cofnodi data pwysig yn gywir |
Adeiladu | Defnyddio ffracsiynau i roi cymalau yn eu lle gyda’r un pellter rhyngddynt ar hyd wal stydiau | I ddarparu dyfynbrisiau cywir a phroffesiynol i ddarpar gleientiaid |
Peirianneg | Mesur deunyddiau ac onglau i sicrhau bod dyluniadau yn cael eu gwneud yn gywir | Deall rheoliadau iechyd a diogelwch i wneud yn si诺r bod mannau gweithio yn ddiogel |
Trin Gwallt a Therapi Harddwch | Gweithio allan y cymarebau cywir ar gyfer lliwio gwallt neu arlliwio aeliau | Cyfathrebu 芒 chleientiaid a threfnu apwyntiadau |
Iechyd, Gofal a’r Blynyddoedd Cynnar | Gwneud yn si诺r eich bod yn sicrhau’r gymhareb gywir ar gyfer y nifer o blant neu gleifion i ofalwyr, gan helpu pawb i gadw’n ddiogel | Rheoli cofnodion cleifion neu gleientiaid |
Astudiaethau Tir, Gofal Anifeiliaid a Cheffylau | Sicrhau nad ydych yn tanfwydo neu’n gorfwydo anifeiliaid | Deall gwybodaeth am driniaethau i anifeiliaid |
Cerddoriaeth, Drama a Dawns | I gyfrifo amseroedd llwyfan | Dysgu sgriptiau ar gyfer clyweliadau |
Gwasanaethau Cyhoeddus | Cyfrifo cyflymder cerbydau sy鈥檔 rhan o ddamweiniau trwy ddefnyddio marciau sgidio, pellteroedd a mesuriadau eraill | Llunio adroddiadau gan roi manylion am ddigwyddiadau ac ymchwiliadau |
Science | I ddadansoddi data yn gywir | I gadw cofnodion cywir o brosiectau ac i ysgrifennu adroddiadau |
Chwaraeon, Ffitrwydd a Hamdden | Cyfrifo sgoriau a faint o bwyntiau sydd eu hangen arnoch i ennill | Cyfathrebu ag aelodau t卯m a chytuno ar dactegau |
Teithio a Thwristiaeth | Cyfrifo cyfraddau cyfenwid arian i daro’r fargen orau | CYmchwilio i gyrchfannau i roi cyngor i gleientiaid |
Mae Mathemateg a Saesneg yn sail i gymaint o yrfaoedd gwahanol, felly p’un a ydych eisiau dod yn athro, newyddiadurwr, seicolegydd, neu hyd yn oed yn wyddonydd fforensig, mae llwyddo mewn Mathemateg a Saesneg yn hanfodol i chi achub y blaen.聽 Mae nifer o gyflogwyr, gan gynnwys Prifysgol De Cymru, yn disgwyl i ymgeiswyr nad ydynt wedi astudio hyd at lefel gradd, gael Gradd C neu uwch yn eu TGAU.
Mae’r rhan fwyaf o brifysgolion yn gofyn am Radd C mewn TGAU Mathemateg a Saesneg, ac weithiau uwch ar gyfer cwrs penodol.聽 Felly, bydd llwyddo yn y cymwysterau hyn yn eich galluogi i gael mynediad at ystod eang o gyrsiau prifysgol.
Efallai eich bod yn gweld Mathemateg a Saesneg yn heriol, neu efallai nad ydynt ymhlith eich hoff bynciau, ond maent mor bwysig o hyd i’ch dyfodol, felly daliwch ati! Gofynnwch am gymorth a pheidiwch 芒’i cholli hi oherwydd bydd y pynciau yn agor drysau i chi ar gyfer astudio a gyrfa yn y dyfodol.
Mae astudio Mathemateg a Saesneg yn rhoi ystod o sgiliau trosglwyddadwy i chi, megis sgiliau cyfathrebu a datrys problemau, sy’n ofynnol, nid yn unig yn y dosbarth neu’r gweithle, ond hefyd mewn nifer o agweddau eraill ar fywyd bob dydd. 聽Mae cael sylfaen gadarn mewn Saesneg a Mathemateg yn agor y drysau i ystod o gyfleoedd gyrfa.
Ni waeth pa lwybr fyddwch yn ei ddewis – Prentisiaeth, cyflogaeth neu addysg bellach/uwch – mae gallu arddangos sgiliau Saesneg a Mathemateg gyda chymhwyster cydnabyddedig yn hynod bwysig ac yn eich helpu i fynd ymlaen mewn bywyd.
Mae Mathemateg a Saesneg yn hanfodol i’ch cael chi drwy fywyd, p’un a yw’n golygu ysgrifennu e-bost neu neges destun, neu reoli arian i gynnal cartref neu gyllideb yn y gwaith – rydym yn defnyddio’r arfau hanfodol hyn heb sylweddoli.
Efallai fod rhaid i chi astudio’n galed iawn i gyflawni’r graddau C hollbwysig hyn mewn Mathemateg a Saesneg, ond bydd werth yr holl ymdrech.聽 Unwaith y bydd gennych y cymwysterau hyn, bydd gennych fwy o gyfleoedd yn y dyfodol.
Dw i’n gweld llawer o geisiadau am swyddi ac un peth dw i’n edrych arno yw a oes gan yr ymgeisydd radd TGAU mewn Mathemateg a Saesneg.聽 Dylai pobl ifanc edrych ar addysg fel cyfle a fydd yn sicrhau bod mwy o ddrysau ar agor iddynt.
Byddwch yn cau drws drwy beidio 芒 gwneud TGAU mewn Saesneg neu Fathemateg a bydd adeg yn eich bywyd pan fyddwch yn ymgeisio am swydd ac yn canfod y gall peidio 芒 meddu ar y cymwysterau hyn eich dal yn 么l.
Dw i’n defnyddio Mathemateg a Saesneg bob dydd heb sylweddoli – ar y ff么n ac wrth ddelio 芒 chwsmeriaid ac aelodau o’r cyhoedd.聽 Ni ddylai pobl ifanc danseilio pwysigrwydd y pynciau hyn.聽 Efallai nad ydych yn gweithio mewn amgylchedd swyddfa – efallai eich bod yn fecanydd neu’n trin gwallt – ond mae’r ddau yn gofyn am sgiliau rhyngweithio 芒 phobl a chraffter busnes sy’n dibynnu ar y pynciau pwysig hyn.