Â鶹´«Ã½ÍŶÓ

En

Digwyddiadau Agored Coleg

College event visitors

DIGWYDDIAD AGORED NESAF

Dydd Mawrth 28 Ionawr
Archebu slot rhwng 5yp – 7.30yp
Cyrsiau i gyd, Pob campws

Digwyddiadau Agored Â鶹´«Ã½ÍŶÓ

P’un a ydych chi’n chwilio am Lefelau A,  cyrsiau galwedigaethol, prentisiaethau neu gyrsiau addysg uwch, mae gan Â鶹´«Ã½ÍÅ¶Ó rywbeth at ddant pawb.

Mynychu digwyddiad agored yw’r ffordd orau o ddysgu am Â鶹´«Ã½ÍŶÓ, ein cyrsiau, a sut beth yw astudio yn un o golegau gorau Cymru ar gyfer dewis.

Pam fod mynd i ddigwyddiad agored yn syniad da?

A ydych chi erioed wedi pendroni beth sy’n digwydd mewn Digwyddiad Agored Â鶹´«Ã½ÍŶÓ?

Student Ambassadors at an open event
play

Cwestiynau Cyffredin

Sut allaf gofrestru ar gyfer digwyddiad agored?

Gallwch gofrestru trwy wasgu’r botwm ‘Cofrestru nawr’ ar unrhyw un o’r digwyddiadau a restrir ar ein gwefan. Mae ein digwyddiadau hefyd i’w gweld ar ein .

Nid oes angen i deulu a ffrindiau sy’n ymweld â chi gofrestru, felly cofrestrwch dim ond os oes gennych ddiddordeb mewn astudio gyda ni. Os byddwch yn anghofio cofrestru – peidiwch â phoeni, gallwch dal i fynychu a chofrestru ar y diwrnod.

Beth alla i astudio ymhle?

Nid yw pob campws yn cynnig yr un cyrsiau, felly er mwyn osgoi siom, gwiriwch lle gallwch astudio’r cwrs o’ch dewis ac ymweld â’r campws perthnasol. Os nad ydych yn siŵr, gallwch hidlo fesul campws ar opsiwn chwilio cyrsiau isod.

BG
Parth Dysgu Blaenau Gwent
C
Campws Crosskeys
DC
Campws Dinas Casnewydd
T
Parth Dysgu Torfaen
B
Campws Brynbuga
Campus
Maes pwnc BG C DC T B
Lefel A red tick red tick red tick
Mynediad i Addysg Uwch red tick red tick red tick red tick
Gofal Anifeiliaid, Ceffylau ac Astudiaethau Tir red tick
Prentisiaethau red tick red tick red tick red tick red tick
Celf, Cyfryngau, Dylunio a Ffotograffiaeth red tick red tick red tick red tick
Modurol red tick red tick red tick
Busnes a Chyfrifeg red tick red tick red tick red tick
Arlwyo a Lletygarwch red tick
Cyfrifiadura a Thechnoleg Ddigidol red tick red tick red tick red tick
Adeiladu red tick red tick
Peirianneg red tick red tick red tick
ESOL (Saesneg ar gyfer siaradwyr ieithoedd eraill) red tick
Trin Gwallt, Harddwch a Therapïau Cyflenwol red tick red tick red tick
Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant red tick red tick red tick red tick
Sgiliau Byw’n Annibynnol red tick red tick red tick red tick
Cerddoriaeth a Chelfyddydau Perfformio red tick red tick
Gwasanaethau Cyhoeddus red tick red tick red tick
Gwyddoniaeth red tick red tick red tick
Chwaraeon a Ffitrwydd red tick red tick red tick red tick
Dysgu ac Addysg red tick red tick red tick red tick
Teithio a Thwristiaeth red tick

Yw'r campysau'n hygyrch?

Ydynt, mae pob un o’n campysau yn addas i gadeiriau olwyn. Gadewch inni wybod os gennych chi unrhyw ofynion penodol a byddwn ni’n gwneud ein gorau i’w bodloni.

Galla i ddod â ffrind neu aelod o fy nheulu â mi?

Wrth gwrs. Noder hefyd nad oes rhaid i deulu a ffrindiau sy’n ymweld â chi gofrestru ar gyfer y digwyddiad.

Oes yna barcio ar gael?

Mae gennym ni barcio am ddim ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent, Campws Casnewydd, Brynbuga a Champws Crosskeys.

Anogwn ymwelwyr i Barth Dysgu Blaenau Gwent ddefnyddio’r parcio am ddim ym Maes Parcio Aml-lawr Lime Avenue.

Os ydych chi’n ymweld â Pharth Dysgu Torfaen, mae yna lawer o opsiynau parcio o gwmpas canol dref Cwmbrân.

Mynediad Campws Brynbuga

Os ydych yn ymweld â’n campws ym Mrynbuga, bydd angen i chi barcio yn ein prif dderbynfa – defnyddiwch y maes parcio y tu ôl i’r dderbynfa. Gallwch ddod o hyd iddo yma:
Côd post:Ìý
What3words:

Mae gennym ddau safle; mae’r prif safle yn gartref i’n cyfleusterau chwaraeon, ystafelloedd ddosbarth a ein llyfrgell.

Mae ein hail safle yn cynnal ein darpariaeth Ceffylau, Astudiaethau tir a Gofal Anifeiliaid. Bydd bws mini gwennol yn cludo ymwelwyr i’r prif safle ac oddi yno i’r safle Ceffylau, Diwydiannau’r Tir a Gofal Anifeiliaid.

Galla i ganslo os nad oes modd imi fynychu rhagor?

Os nad ydych yn gallu mynychu’r digwyddiad mwyach, canslwch eich cofrestriad ar Eventbrite ac archebwch le ar y digwyddiad agored nesaf sydd ar gael.

Beth os bydda i'n hwyr?

Peidiwch â phoeni. Bydd eich cod QR yn parhau i fod yn ddilys ar gyfer y slot amser rydych chi wedi cofrestru ar ei gyfer.

Amserlen Digwyddiadau Agored

Rydym yn cynnal nifer o ddigwyddiadau agored trwy gydol y flwyddyn, cymerwch olwg ar ein hamserlen ar gyfer digwyddiadau ar y gweill. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein digwyddiadau, cysylltwch â ni ar hello@coleggwent.ac.uk neu ffoniwch ni ar 01495 333 777.

Students laughing on campus
28
01

Noson Agored Coleg Ionawr 2025

5pm - 7.30pm
Manylion: Cyrsiau i Gyd
Lleoliad: Pob campws
Student Ambassador at BGLZ
22
03

Diwrnod Agored Coleg Mawrth 2025

10am - 12.30pm
Manylion: Cyrsiau i Gyd
Lleoliad: Pob campws
Students with popcorn
24
06

Noson Agored Coleg Mehefin 2025

5pm - 7.30pm
Manylion: Cyrsiau i Gyd
Lleoliad: Pob campws

Beth oedd gan ymwelwyr ein digwyddiadau agored ei ddweud?