Gosod yr app CG Connect (Myfyrwyr cyfredol):
Cwestiynau Cyffredin Mewngofnodi
Wrth wneud cais am eich cwrs, byddwch wedi creu cyfrif gan ddefnyddio’ch cyfeiriad e-bost personol a chyfrinair o’ch dewis. Ar ôl i chi gael cynnig cwrs, caiff eich cyfrif ei drosglwyddo i gyfrif Â鶹´«Ã½ÍÅ¶Ó gydag enw defnyddiwr a chyfrinair newydd. Dyma’r un manylion sydd eu hangen i fynd ar CG Connect, MS Office 365 a chyfrifiaduron ac argraffwyr y coleg.
Beth yw fy enw defnyddiwr?
Eich enw defnyddiwr yw’ch rhif adnabod coleg ac yna @coleggwent.ac.uk. Mae’ch rhif adnabod coleg yn rif 8 digid ac mae i’w gael ar eich holl ohebiaeth cais.
Bydd eich enw defnyddiwr yn debyg i hyn – 12345678@coleggwent.ac.uk
Beth yw fy nghyfrinair?
Bydd eich cyfrinair wedi’i anfon i’ch cyfeiriad e-bost personol.
Ar ôl i chi fewngofnodi, dylech newid eich cyfrinair i rywbeth sy’n hawdd ei gofio.
Y tro cyntaf i chi fewngofnodi, byddwch yn cael eich gofyn i osod dilysu aml-ffactor i gadw eich gwybodaeth yn ddiogel.
Rwyf wedi anghofio fy nghyfrinair
Os ydych wedi cofrestru ar gyfer hunanwasanaeth ailosod cyfrinair (SSPR) gallwch ddefnyddio hyn i ailosod eich cyfrinair.
Os nad ydych wedi cofrestru ar gyfer SSPR, e-bostiwch passwordreset@coleggwent.freshservice.com gan ddefnyddio’ch cyfrif e-bost personol a chadwch lygad am yr atebion o’r Ddesg Gymorth y Coleg.
Sut ydw i'n cofrestru ar gyfer hunanwasanaeth ailosod cyfrinair?
Os oes gennych gyfrif TG Â鶹´«Ã½ÍÅ¶Ó gallwch ailosod a newid eich cyfrinair mewngofnodi coleg yn ddiogel eich hun. Golyga hyn nad oes rhaid i chi ddibynnu mwyach ar y tîm TGCh i’w newid i chi; gallwch ei wneud eich hun o unrhyw le ac ar unrhyw adeg drwy borth Microsoft diogel. Nid yw’n orfodol i chi gofrestru ar gyfer y gwasanaeth hwn, ond rydym yn eich annog i’w ddefnyddio.
Er mwyn gallu ailosod eich cyfrinair, rhaid i chi gofrestru ar gyfer y gwasanaeth yn gyntaf. Mae hyn yn cynnwys cofrestru eich cyfeiriad e-bost personol a/neu rif ffôn symudol. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei chadw’n ddiogel ar y cwmwl Microsoft. Dim ond at y diben o ailosod eich cyfrinair y defnyddir yr wybodaeth a gallwch ddewis optio allan o’r gwasanaeth ar unrhyw adeg drwy gysylltu â’r tîm TGCh. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw’n unol ag amserlen cadw cofnodion y Coleg.
Cyn i chi ddechrau byddwch angen mynediad at y canlynol:
- cyfrif e-bost personol – rhaid iddo fod yn wahanol i’ch cyfeiriad e-bost Â鶹´«Ã½ÍŶÓ
- mynediad at ffôn symudol
Sut i gofrestru
- Ewch i:
/sspr
neu
- Bydd gofyn i chi gadarnhau eich cyfrinair presennol – i brofi mai chi sy’n ei osod
- Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrîn
Sut i ailosod eich cyfrinair
- Gwnewch yn siŵr fod gennych fynediad at y cyfrif e-bost a’r ffôn y defnyddioch i gofrestru ar y dechrau
- Ewch i:
/pwdreset
neu:
- Rhowch eich cyfeiriad e-bost coleg (e.e. ABC01234@coleggwent.ac.uk) yn y maes Rhif Adnabod Defnyddiwr
- Byddwch nawr yn mynd drwy broses ddilysu dau gam – dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrîn
Unwaith y byddwch wedi ailosod eich cyfrinair, cofiwch y bydd angen i chi ddiweddaru eich manylion mewn mannau eraill e.e. CG Connect, eduroam ayyb.