Ailosod Cyfrinair Hunanwasanaeth
Gall defnyddwyr ailosod a newid cyfrinair mewngofnodi eu cyfrif coleg yn ddiogel eu hunain. Golyga hyn nad oes rhaid i chi ddibynnu mwyach ar y tîm TGCh i’w newid i chi; gallwch ei wneud eich hun o unrhyw le ac ar unrhyw adeg drwy borth Microsoft diogel. Nid yw’n orfodol i chi gofrestru ar gyfer y gwasanaeth hwn, ond rydym yn eich annog i’w ddefnyddio.
Er mwyn gallu ailosod eich cyfrinair, rhaid i chi gofrestru ar gyfer y gwasanaeth yn gyntaf. Mae hyn yn cynnwys cofrestru eich cyfeiriad e-bost personol a/neu rif ffôn symudol. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei chadw’n ddiogel ar y cwmwl Microsoft. Dim ond at y diben o ailosod eich cyfrinair y defnyddir yr wybodaeth a gallwch ddewis optio allan o’r gwasanaeth ar unrhyw adeg drwy gysylltu â’r tîm TGCh. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw’n unol ag amserlen cadw cofnodion y Coleg.
Cyn i chi ddechrau byddwch angen mynediad at y canlynol:
- cyfrif e-bost personol – rhaid iddo fod yn wahanol i’ch cyfeiriad e-bost Â鶹´«Ã½ÍŶÓ
- mynediad at ffôn symudol
Sut i gofrestru
- Ewch i:
/sspr
neu
Ìý - Bydd gofyn i chi gadarnhau eich cyfrinair presennol – i brofi mai chi sy’n ei osod
- Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrîn
Sut i ailosod eich cyfrinair
- Gwnewch yn siŵr fod gennych fynediad at y cyfrif e-bost a’r ffôn y defnyddioch i gofrestru ar y dechrau
- Ewch i:
/pwdreset
neu:
- Rhowch eich cyfeiriad e-bost coleg (e.e. ABC01234@coleggwent.ac.uk) yn y maes Rhif Adnabod Defnyddiwr
- Byddwch nawr yn mynd drwy broses ddilysu dau gam – dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrîn
Unwaith y byddwch wedi ailosod eich cyfrinair, cofiwch y bydd angen i chi ddiweddaru eich manylion mewn mannau eraill e.e. CG Connect, eduroam ayyb.