BTEC Diploma Sylfaen Genedlaethol mewn Cerddoriaeth (llwybr Technoleg) Lefel 3
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cerddoriaeth, Drama a Dawns
Lefel
3
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2025
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
Byddwch angen o leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, gan gynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg, neu gymhwyster Diploma Lefel 2 priodol.
Yn gryno
Cwrs ymarferol yw hwn sy鈥檔 datblygu eich sgiliau ar gyfer gyrfa yn y diwydiant cerddoriaeth neu鈥檙 celfyddydau perfformiadol.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Oes gennych gariad at gerddoriaeth a thechnoleg cerdd
... Ydych eisiau gwella eich sgiliau cerddorol presennol
... Ydych eisiau cynyddu eich cyfleoedd am waith yn y maes hwn
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae hwn yn gwrs ymarferol lle byddwch yn astudio pynciau megis:
- Gweithio mewn stiwdio recordio gan ddefnyddio Pro Tools / Logic Pro X
- Trefnu a chyfansoddi gan ddefnyddio Logic Pro X
- Goleuo a sain fyw
- Technoleg cerddoriaeth mewn perfformiadau, gan gynnwys Ableton Live a sgiliau DJ
- Technegau cynhyrchu cerddoriaeth a sgiliau cymysgu
- Y diwydiant cerddoriaeth
Mae'n well os ydych yn chwarae offeryn neu 芒 gwybodaeth dda am hanfodion cynhyrchu cerddoriaeth. Bydd angen ichi ddangos hynny yn eich cyfweliad/clyweliad.
Darperir y cwrs drwy gyfuniad o'r canlynol:
- Sesiynau a gweithdai ymarferol
- Gweithgareddau ystafell ddosbarth
- Gwaith grwp, fel dosbarth cyfan neu mewn grwpiau arbenigol
- Astudio annibynnol
- Tiwtorialau personol
Bydd myfyrwyr y flwyddyn gyntaf yn rhedeg y stiwdio fel busnes drwy gydol y flwyddyn, gan ennill profiad o waith realistig yn y diwydiant a gweithio ar wahanol brosiectau Cyfryngau/Dylunio Gemau/Celfyddydau Perfformio. Creu deunydd cerddoriaeth yn Logic Pro X a datblygu sgiliau DJ / Ableton live ar gyfer sioe fyw ar ddiwedd y flwyddyn.
听
Mae myfyrwyr yr ail flwyddyn yn cymryd cyfrifoldeb am osod a rhedeg system sain lawn a system oleuo ar gyfer gweithdai wythnosol yn y theatr. Ceir hefyd 6 noson gerddoriaeth sydd ar agor i'r cyhoedd. Myfyrwyr yr ail flwyddyn fydd yn cynnal y rhain hefyd. Bydd myfyrwyr hefyd yn creu a rhyddhau eu cerddoriaeth eu hunain, gan ei chyhoeddi drwy wefan wedi ei chreu gan y myfyrwyr yn unigol.
Byddwch yn cael eich asesu'n barhaus, yn bennaf drwy aseiniadau ymarferol; gyda gwaith ysgrifenedig i ategu'r sgiliau y byddwch yn eu datblygu fel myfyriwr cerddoriaeth. Byddwch yn cyflawni:
听
- Lefel 3 mewn Technoleg Cerddoriaeth
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg
- Cymwysterau perthnasol eraill i gyfoethogi eich set sgiliau.
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Bydd angen o leiaf 5 TGAU Gradd neu uwch arnoch, gan gynnwys naill ai Mathemateg/Llythrennedd mewn Mathemateg neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf, neu gymhwyster Diploma Lefel 2 gyda Gradd Teilyngdod a TGAU yn cynnwys naill ai Mathemateg/Llythrennedd mewn Mathemateg neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf Gradd C neu uwch.
Mae ymroddiad llwyr i bresenoldeb yn ofynnol, ynghyd 芒 pharch at eraill, brwdfrydedd dros y pwnc, hunanysgogiad, gallu creadigol ac awydd i lwyddo.听
Beth sy'n digwydd nesaf?
Bydd cwblhau diploma 90-credyd Blwyddyn 1 yn llwyddiannus yn eich galluogi i symud ymlaen i鈥檙 ail flwyddyn a chwblhau鈥檙 Diploma Estynedig llawn. O鈥檙 fan honno, mae llwybrau cynnydd yn cynnwys:听
- Gradd Sylfaen mewn Technoleg Cerdd (ar gael ar Gampws Crosskeys)
- Gradd neu gyrsiau diploma cenedlaethol uwch mewn sefydliadau AU eraill
- Gwaith yn y diwydiant cerddoriaeth ar lefel iau
Gwybodaeth Ychwanegol
Fel rhan o鈥檙 gofynion mynediad bydd disgwyl i chi fynychu sesiwn brofi lle byddwch yn cymryd rhan mewn clyweliad.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
CFBE0007AB
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2025
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a鈥檜 canslo os tybir nad yw鈥檔 bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu鈥檔 ansicr ai hwn yw鈥檙 cwrs addas i chi?
Cysylltwch 芒鈥檔 T卯m Recriwtio Myfyrwyr