Â鶹´«Ã½ÍŶÓ

En

Sgiliau ar gyfer Cyflogaeth

Eich Sgiliau, Eich Dyfodol!

Yn Â鶹´«Ã½ÍŶÓ, os ydych chi’n astudio ar gyfer cwrs galwedigaethol lefel 1, 2 neu 3 amser llawn, byddwch chi’n cael budd o gymhwyster a arweinir gan gyflogadwyedd, yn ogystal â’r cwrs rydych chi wedi’i ddewis. Mae’r cymhwyster newydd sbon, y cyntaf o’i fath yng Nghymru, wedi cael ei ddatblygu a’i arloesi gan arbenigwyr pwnc a chyflogwyr. Nod y cymhwyster yw rhoi cymhwyster ychwanegol i chi ochr yn ochr â’r cwrs rydych chi wedi’i ddewis er mwyn eich helpu chi i ennill y sgiliau a’r wybodaeth y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt pan fyddwch chi’n gadael y coleg.

Mae’r cynnwys wedi’i arwain yn ddigidol ac mae wedi cael ei ddatblygu gan gadw pob pwnc mewn cof felly gallwch chi ddatblygu sgiliau perthnasol a hanfodol sy’n seiliedig ar eich maes astudio. Bydd y cymhwyster Sgiliau ar gyfer Cyflogaeth yn eich cynorthwyo chi o ran datblygu sgiliau cyflogadwyedd craidd mewn meysydd y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt megis; rheoli arian, newid yn yr hinsawdd, diwylliant Cymru, modiwlau sy’n ymwneud â byd gwaith, gan gynnwys cyfathrebu yn y gweithle a llawer mwy!

Mae cymhwyster Sgiliau ar gyfer Cyflogaeth yn unigryw i Â鶹´«Ã½ÍŶÓ, felly ni fyddwch chi’n dod o hyd i’r cymhwyster hwn ochr yn ochr ag astudiaethau galwedigaethol yn unman arall!

Sgiliau Galwedigaethol

Bydd modiwl sgiliau galwedigaethol y cymhwyster yn darparu prif bwysoliad y cymhwyster a bydd yn seiliedig ar eich maes astudio. Byddwch chi’n ymdrin â meysydd megis; dealltwriaeth o’r sgiliau angenrheidiol ar gyfer eich maes astudio, Iechyd a Diogelwch, dealltwriaeth o’r offer a’r cyfarpar angenrheidiol a llawer mwy!

Ymwneud â Byd Gwaith

Mae dwy ran i’r modiwl Ymwneud â Byd Gwaith a chaiff ei gyflwyno fel a ganlyn:

Rhan 1 – Byddwch chi’n dysgu am ddeall cyfathrebu, datblygu cyfathrebu derbyniol a deall effaith cyfathrebu effeithiol.

Rhan 2 – Byddwch chi’n ennill dealltwriaeth o ddiben Proffil Personol, datblygu ffyrdd o gasglu’r dystiolaeth angenrheidiol ar gyfer Proffil Personol a datblygu’r gallu i lunio Proffil Personol at ddiben penodol.

Cynhesu Byd-eang

Bydd elfen cynhesu byd-eang y cymhwyster yn darparu dealltwriaeth sylfaenol o newid yn yr hinsawdd a chynhesu byd-eang, bydd yn eich helpu chi i ddeall sut mae cynhesu byd-eang yn effeithio ar newid yn yr hinsawdd ac yn rhoi gwybodaeth i chi am ffactorau hanesyddol a phresennol sy’n cyfrannu at newid yn yr hinsawdd.

Rheoli Arian

Bydd y modiwl rheoli arian yn eich helpu chi i ddeall yr angen am gyllidebu ariannol personol er mwyn eich cynorthwyo chi i reoli eich incwm a’ch gwariant eich hun gan ddefnyddio cynllun cyllidebu. Mae hwn yn ddefnyddiol ar gyfer y rhai sy’n dymuno dechrau eu busnes eu hunain ar ôl gorffen eu hastudiaethau galwedigaethol.

Gweithgaredd Cymru

Bydd elfen Gymreig y cwrs naill ai’n seiliedig ar ‘Ddiwylliant Cymru’ neu ‘Yr Iaith Gymraeg’. Ar gyfer y rhai sy’n astudio’r modiwl Diwylliant Cymru, byddwch chi’n astudio hanes a thraddodiadau Cymru a datblygiadau dysgu’r iaith Gymraeg. Ar gyfer y rhai sy’n astudio modiwl yr iaith Gymraeg, bydd yn eich galluogi chi i gyflwyno gwybodaeth syml ar lafar i bobl eraill, ymateb i wybodaeth mewn erthygl sy’n ymwneud â gwaith a gallu darllen a phwysleisio gwybodaeth allweddol mewn hysbyseb swydd.

Os oes gennych chi gwestiynau ynghylch y cymhwyster, cysylltwch â’n tîm recriwtio myfyrwyr cyfeillgar drwy e-bostio helo@coleggwent.ac.uk (croesawir cyfathrebu yn Gymraeg) neu drwy ffonio 01495 333 777.

Student working in a bar
play