Â鶹´«Ã½ÍŶÓ

En

Mynediad i Addysg Uwch
(Llwybr at Radd neu Brifysgol)

Mae gradd brifysgol yn gyraeddadwy hyd yn oed os nad oes gennych unrhyw gymwysterau blaenorol

Bydd cwrs Mynediad at Addysg Uwch (AU) yn eich helpu i ddatblygu’r wybodaeth, yr hyder a’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i’ch paratoi at y brifysgol.

Efallai eich bod yn teimlo ychydig yn nerfus ynghylch dychwelyd i astudio – yn enwedig os nad ydych wedi bod mewn dosbarth ers peth amser. Mae ein tiwtoriaid yn ymwybodol o hyn ac yn ei gymryd i ystyriaeth yn eu haddysgu; ni fyddwn yn ceisio eich baglu, nac yn eich profi ar bethau rydych wedi’u hanghofio flynyddoedd yn ôl. Bwriad y cwrs yw eich herio chi, ond yn y pen draw, y nod yw eich helpu i lwyddo.

Rydym ni’n gwybod bod gennych chi, fel oedolyn, gyfrifoldebau ac ymrwymiadau y mae angen eu hystyried ochr yn ochr â’ch astudiaeth, boed hynny’n ymwneud â magu plant, gofalu am eich teulu, neu ennill arian i dalu’r biliau. Mae ein tiwtoriaid yn ymwybodol o ymrwymiadau eraill, felly maen nhw’n garedig, yn gefnogol ac yn hyblyg. Efallai y byddwch yn gymwys i gael grantiau a chymorth ariannol i’ch helpu gyda chostau astudio hyd yn oed.

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr i gael rhagor o wybodaeth.

Cyrsiau Mynediad Rhan Amser

Roedd ysgol yn anodd gan nad oedd gennyf gefnogaeth. Ers bod yn Â鶹´«Ã½ÍÅ¶Ó rwyf wedi gwneud ffrindiau, magu hyder, a nawr fy nod hirdymor yw bod yn Nyrs A&E

Cait Griffin
Mynediad i Addysg Uwch (Nyrsio)

Ddim yn siŵr os yw’r pwnc hwn ar eich cyfer chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr

Gwnewch gais nawr
Darganfod mwy

Digwyddiadau ar
y gweill

Gweld holl ddigwyddiadau