Wedi i chi ddod o hyd i brentisiaeth sydd o ddiddordeb i chi, mae ymgeisio yn broses rwydd – cysylltwch â ni dros y ffôn neu ebost i ofyn am ffurflen gais, ac fe eglurwn y broses yn llawn i chi.
Os hoffech fwy o wybodaeth, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, ffoniwch ein Tîm Recriwtio Myfyrwyr cyfeillgar ar 01495 333777. Gallwch hefyd gysylltu drwy e-bostio apprenticeships@coleggwent.ac.uk.
Sicrhewch fod eich cyfeiriad e-bost yn gywir ar eich cais, gan y byddwn yn anfon diweddariadau rheolaidd i’r cyfeiriad y byddwch yn ei ddarparu.
Beth fydd eich cyflogwr yn ei wneud
Ar ôl cyflwyno eich cais, bydd ein Haseswyr Dysgu Seiliedig ar Waith yn siarad gyda’ch cyflogwr i drafod y gwaith y bydd angen i chi ei wneud i gyflawni eich Prentisiaeth. Hefyd, bydd angen iddynt lofnodi Cytundeb Tair Ffordd a bodloni’r gwiriadau iechyd a diogelwch hanfodol cyn y gallwch gofrestru.
Cofrestru ar eich cwrs
Pan fydd popeth yn ei le, byddwn yn darparu amser a lle i chi gofrestru. Bydd angen i chi ddod â’r dogfennau canlynol gyda chi:
- Cerdyn Yswiriant Gwladol plastig, llythyr CThEM neu Basbort Llawn
- Tystysgrif eich Cymhwyster Uchaf
- Slip cyflog diweddaraf / cytundeb cyflogaeth / gohebiaeth gan gyflogwr
- Trwydded yrru (lawn neu dros dro) neu dystysgrif geni
- Tystiolaeth o gyfeiriad cartref
Os ydych yn ansicr ynghylch beth sydd angen i chi ddod gyda chi, cysylltwch â ni ar 01495 333777 neu apprenticeships@coleggwent.ac.uk.