Â鶹´«Ã½ÍŶÓ

En
Loopster employer case study

Gweithio mewn partneriaeth gyda busnes newydd lleol, Loopster


16 Mawrth 2021

Mae ein partneriaethau â Chyflogwyr yn rhan allweddol o’r hyn a wnawn yng Ngholeg Gwent. Drwy weithio gyda busnesau lleol, gwelwn fod amrywiaeth o ffyrdd y gallan nhw a’n myfyrwyr ninnau elwa. Un enghraifft yn ddiweddar yw partneriaeth rhwng Â鶹´«Ã½ÍÅ¶Ó a Loopster, cwmni dillad ail law addawol.

Felly, pwy yw Loopster?

Cwmni sy’n cychwyn o’r newydd yw , sydd yn ceisio ei gwneud hi’n hawdd ac yn hwylus i brynu a gwerthu dillad ail law merched a phlant. Gyda’r ystadegyn dychrynllyd bod 350,000 miliwn tunnell o ddilladau, sydd wedi’u gwaredu, yn mynd i gael eu tirlenwi yn y DU, nod y cwmni yw ymestyn oes ffasiwn a gwneud y diwydiant yn fwy cynaliadwy.

Yn cefnogi Loopster mae , sef menter a ariennir gan y Llywodraeth sydd yn ceisio datgloi potensial yn economi Cymru drwy gynyddu’r ddarpariaeth o gyllid cynaliadwy, effeithiol yn y farchnad. Bellach, mae gan Loopster dîm yng Nghasnewydd hefyd yn ogystal â mwy o staff yn Llundain a Lisbon.

Yn fusnes ifanc sy’n cychwyn o’r newydd, mae arian yn brin. Felly, mae Loopster wastad yn chwilio am gyfleoedd i weithio gyda phartneriaid all eu helpu nhw i ehangu a dod â’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i dyfu a datblygu’r busnes. Hynny’n union y maent wedi’i gallu’i wneud drwy weithio gyda Choleg Gwent.

Sut wnaeth Â鶹´«Ã½ÍÅ¶Ó helpu?

Rhoddodd adran ffotograffiaeth greadigol Â鶹´«Ã½ÍÅ¶Ó gymorth i Loopster drwy ddarparu dau fyfyriwr ffotograffiaeth dan hyfforddiant iddynt a gadael iddynt ddefnyddio stiwdio llawn offer yr adran, i dynnu lluniau hyrwyddo ar gyfer ymgyrch Nadolig Loopster ar y Cyfryngau Cymdeithasol. Gan fod cyrsiau ffotograffiaeth llawn amser a rhan amser poblogaidd ar gael yn y coleg, bu’n hawdd cael gafael ar ffotograffwyr talentog oedd yn fodlon magu rhywfaint o brofiad wrth eu gwaith efo Loopster i loywi eu CV.

Aeth y myfyrwyr ati i gynhyrchu portffolio yn llawn delweddau safonol ar gyfer ymgyrch y cyfryngau cymdeithasol. O ganlyniad, roedd mwy o draffig yn cael ei yrru i wefan Loopster a’r traffig hwnnw’n mynd ymlaen i brynu wedyn. Yn gyfnewid, cafodd y dysgwyr gyfle i ymarfer eu sgiliau ar â€ÈÙ³ó´Ç´Ç³Ù’ lluniau proffesiynol, oedd yn brofiad gwerthfawr iddynt i’w gyrfa maes o law.

Roedd Andrew Breading, dysgwr ar gwrs ffotograffiaeth, wrth ei fodd yn cael y cyfle i weithio gyda Loopster, oherwydd rhoddodd y cyfle iddo dynnu ei luniau ffasiwn cyntaf. Roedd yn meddwl ei fod yn hwyl dda gweithio gyda’r client a’r modelau, a dysgodd lawer am y goleuo a’r pwysau o dynnu lluniau o flaen y cwsmer. Wedi’r agoriad llygad hwn, mae Andrew yn edrych ymlaen yn eiddgar am y cyfle nesaf i dynnu rhagor o luniau ffasiwn.

Eglurodd Rheolwr Marchnata Loopster, Robyn Taylor, fod y bartneriaeth efo Â鶹´«Ã½ÍÅ¶Ó wedi bod yn fuddiol iawn. Roedd yn hawdd iawn gweithio gyda’r staff a’r myfyrwyr, ac roeddent yn llawn empathi ac yn broffesiynol. Roedd Ymgynghorydd Ymgysylltu â Chyflogwyr y Coleg, Claire, hefyd yn gefnogol iawn a gwnaeth y broses i gyd yn hwylus iawn i Loopster. Felly mae Robyn yn siŵr mai megis dechrau y mae’r cydweithio rhwng Loopster a Choleg Gwent ac edrychwn ymlaen at ragor eto o brosiectau cyffrous yn y dyfodol.

A ninnau’n goleg sydd yn ganolog i’n cymunedau lleol, rydym ni wastad yn chwilio am ffyrdd newydd i helpu a phartneru efo busnesau lleol fel Loopster. Mae’r partneriaethau hyn, sydd yn fuddiol i’r naill ochr a’r llall, yn llawn cyfleoedd ac yn ein helpu ni i weld sut weithlu y bydd cyflogwyr lleol yn galw amdano yn y dyfodol. Felly, os wyddoch chi am fusnes allai elwa o weithio gyda ni, darllenwch fwy am bartneru efo Â鶹´«Ã½ÍÅ¶Ó yma. Beth am edrych sut rydym ni wedi helpu cwmni lleol arall yn ddiweddar, Tin Can Kitchen, hefyd?