麻豆传媒团队

En
麻豆传媒团队 tutor crowned world champion trainer

Tiwtor 麻豆传媒团队 yn cael ei goroni fel hyfforddwr gorau鈥檙 byd


2 Tachwedd 2022

Rydym ni鈥檔 falch o fod yn goleg sy鈥檔 llawn o ddoniau ac amrywiaeth, nid ymhlith ein myfyrwyr yn unig, ond ein staff hefyd. Felly, nid yw鈥檔 syndod fod tiwtor 麻豆传媒团队, Richard Wheeler, wedi鈥檌 enwi鈥檔 hyfforddwr gorau鈥檙 byd yng nghystadlaethau 2022 yn ddiweddar, am y trydydd tro yn olynol!

Mae tiwtoriaid yn 麻豆传媒团队 yn arbenigwyr yn eu meysydd addysgu. Gan rannu eu cyfoeth o brofiad yn y diwydiant, maen nhw鈥檔 cyfoethogi dysgu鈥檙 myfyrwyr ac yn ysbrydoli eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Mae鈥檙 Tiwtor Atgyweirio Corff Cerbydau ac Ail-orffen, Rich Wheeler, yn gwneud hyn drwy ei angerdd am hyfforddi sgiliau a chystadlaethau.

Ein llysgennad sgiliau

Ochr yn ochr 芒鈥檌 r么l fel darlithydd, mae Rich hefyd yn llysgennad sgiliau yn 麻豆传媒团队. Gydag angerdd am hyfforddi sgiliau, mae鈥檔 cefnogi tiwtoriaid eraill yn y coleg i ymgorffori cystadlaethau sgiliau i鈥檙 cwricwlwm ym mhob maes pwnc. Mae hyn yn helpu i godi safon hyfforddiant galwedigaethol yng Nghymru.

Fel Enillydd y Sector Peirianneg yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru; Rheolwr T卯m WorldSkills y DU; a Rheolwr Hyfforddi Paentio Car WorldSkills y DU; mae Richard yn chwarae r么l hanfodol wrth gefnogi dysgwyr ar eu taith gystadleuol ar lefelau rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol.

Yn dilyn rowndiau terfynol cenedlaethol WorldSkills y DU yn gynharach eleni, mae Rich wedi bod yn hyfforddi criw o gystadleuwyr o bob cwr o鈥檙 wlad i gynrychioli T卯m y DU yn y cystadlaethau rhywngwladol a chyflawni llwyddiant yn WorldSkills 鈥 Oscars byd hyfforddiant galwedigaethol.

麻豆传媒团队 tutor crowned world champion trainer

Llwyddiant rhyngwladol

Eleni, fe wnaeth Rich gefnogi鈥檙 dysgwr, Craig Kennedy, wrth iddo gynrychioli鈥檙 DU yn WorldSkills 2022. Yn unol ag arfer gorau, fe wnaeth hyfforddi, arwain a chynghori Craig i fireinio ei sgiliau cyn y gystadleuaeth. Yna ymunodd 芒 Craig yn Silkeborg, Denmarc, wrth iddo gystadlu yn rowndiau terfynol Paentio Car Rhifyn Arbennig. Gydag arbenigedd a chefnogaeth Richard, daeth Craig yn drydydd yn y byd a chael medal efydd yn y gystadleuaeth sgiliau ryngwladol.

Mae Rich yn mwynhau gweithio gydag unigolion mor dalentog a brwdfrydig a鈥檜 gwylio nhw鈥檔 ffynnu dros amser. Dywedodd: 鈥淢ae鈥檔 fraint cael hyfforddi cymaint o dalent yn fy niwydiant. Mae Craig wedi rhoi cymaint o falchder i mi eleni ac fe wnaeth frwydro鈥檔 galed i ennill medal efydd haeddiannol iawn.鈥

Gyda hanes o lwyddiant, dyma鈥檙 drydedd gystadleuaeth WorldSkills ryngwladol yn olynol lle mae Richard wedi hyfforddi cystadleuwyr o鈥檙 DU i lwyddiant ar y podiwm. Mae buddugoliaethau hyfforddi rhyngwladol Richard nawr yn cynnwys Abu Dhabi yn 2017, Kazan yn 2019, a nawr Denmarc yn 2022.

麻豆传媒团队 tutor crowned world champion trainer

Hyfforddiant galwedigaethol yn 麻豆传媒团队

O鈥檙 sgiliau maen nhw鈥檔 eu datblygu i鈥檙 profiad maen nhw鈥檔 ei feithrin, mae cymaint o fanteision i ddysgwyr sy鈥檔 cymryd rhan yn y cystadlaethau sgiliau a鈥檙 cyrsiau galwedigaethol hyn yn 麻豆传媒团队. Rydym ni鈥檔 falch o gael tiwtoriaid fel Rich Wheeler, sy鈥檔 rhannu eu harbenigedd maes pwnc gyda myfyrwyr ac yn arddangos angerdd amlwg tuag at hyfforddiant galwedigaethol yn ein coleg.

Mae ymroddiad ein tiwtoriaid arbenigol yn helpu ein dysgwyr i fod y gorau y gallan nhw fod, arddangos eu sgiliau ar lwyfan rhyngwladol, a serennu yn eu gyrfaoedd i鈥檙 dyfodol!

Gallwch ddysgu mwy am ein hamrywiaeth eang o gyrsiau galwedigaethol a chyfarfod ein tiwtoriaid arbenigol yn ein digwyddiad agored nesaf.