15 Awst 2024
Mae myfyrwyr yn Coleg Gwent – un o golegau gorau Cymru o ran y dewis sydd ar gael yno – yn dathlu heddiw (15 Awst) wrth iddynt gasglu canlyniadau BTEC, UG a Safon Uwch ar gampysau鈥檙 coleg ym Mlaenau Gwent, Crosskeys, Casnewydd, Brynbuga a Thorfaen.听
Llwyddodd 96% o fyfyrwyr y coleg i ennill graddau A*-E (67% A*-C) mewn Safon Uwch, tra bod mwy na 1,000 o ddysgwyr wedi cwblhau cymhwyster BTEC – gan alluogi dysgwyr i gymryd eu camau cyntaf i fyd addysg uwch a gyrfaoedd newydd.
Mae Molly McAlorum o Gasnewydd yn un o’r dysgwyr sydd wrth eu boddau ac sy鈥檔 paratoi i ddechrau pennod newydd ar 么l cael canlyniadau eithriadol (Rhagoriaeth*, Rhagoriaeth, Rhagoriaeth). Wedi dwy flynedd yn 麻豆传媒团队, bydd y myfyriwr Diploma Busnes Lefel 3 yn awr yn cychwyn ar brentisiaeth busnes nodedig yn GE Aerospace.听
Dywedodd Molly: “Dechreuais fy nghyfnod yn 麻豆传媒团队 heb wybod yn iawn beth roedd arna i eisiau ei wneud fel gyrfa – ond yn ystod fy nghyfnod yn y coleg fe ges i lond gwlad o gyfleoedd na fyddwn i wedi’u cael fel arall. 听
“Ar 么l clywed fy mod am gael cyfweliad gyda GE Aerospace cefais gefnogaeth anhygoel gan fy nhiwtor personol, a dreuliodd oriau yn fy helpu i baratoi. Rhoddodd hyn y cyfle gorau oll i mi lwyddo, ac wrth i mi sefyll yma heddiw gyda chanlyniadau yr un mor llwyddiannus yn fy niploma, rwy’n teimlo mor falch a diolchgar.”听
Fodd bynnag, ni fu taith Molly tuag at lwyddiant yn un rwydd ar ei hyd. Fel llawer o bobl ifanc yng Nghymru heddiw, fe wnaeth ei haddysg gyd-daro 芒 thaith anodd o ran iechyd meddwl.听听
O ganlyniad i symptomau cynyddol gorbryder, trosglwyddodd Molly i addysg gartref yn ystod ei blwyddyn olaf yn yr ysgol – gan olygu bod y ffaith ei bod wedi dychwelyd i’r coleg a chael y fath ganlyniadau hyd yn oed yn fwy nodedig.听
Aeth yn ei blaen i ddweud: “Roeddwn i’n bryderus iawn ynghylch dechrau yn y coleg – ond cwrddais 芒’r t卯m iechyd meddwl yn 麻豆传媒团队 ymlaen llaw ac fe dawelwyd fy meddwl yn syth.”听
Dywedodd Sarwat Hamid, tiwtor personol Molly yn 麻豆传媒团队: “Yn wyneb brwydrau personol sylweddol, mae Molly wedi dangos cryfder a dyfalbarhad rhyfeddol – nid yn unig yn rhagori鈥檔 academaidd ond hefyd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol cadarnhaol, fel hyfforddwr i鈥檙 t卯m p锚l-droed merched lleol.听
“Trwy gydol ei thaith, mae Molly wedi dangos parodrwydd canmoladwy i ofyn am gefnogaeth ac i ddefnyddio arferion hunanofal i reoli ei hiechyd meddwl yn effeithiol. Mae鈥檙 ffaith ei bod wedi defnyddio鈥檙 gefnogaeth a gynigir yn 麻豆传媒团队 drwy gwnsela a’n t卯m Cymorth CG yn brawf o hyn. 听
“Drwyddi draw, mae taith Molly a鈥檙 brentisiaeth hynod o gyffrous sydd ganddi ar y gweill yn ein hatgoffa mewn ffordd rymus bod modd goresgyn yr heriau anoddaf, hyd yn oed, gyda phenderfyniad, cefnogaeth a meddylfryd cadarnhaol.”听
Yn ogystal 芒 llwyddiant mewn BTEC a Safon Uwch, mae dros 150 o ddysgwyr sy’n oedolion wedi cwblhau eu cyrsiau Mynediad i Addysg Uwch yn llwyddiannus gyda 麻豆传媒团队 a byddant yn symud ymlaen i gyrsiau gradd ar lefel prifysgol.听
Maent yn cynnwys Kamal Shah, a fydd, ar 么l astudio ar y cwrs Mynediad i Addysg Uwch mewn Biowyddoniaeth yn 麻豆传媒团队, yn astudio Bioleg ym Mhrifysgol Caerfaddon. Meddai:听 “Wnes i ddim parhau 芒 fy ail flwyddyn o鈥檙 cwrs Safon Uwch oherwydd salwch difrifol – felly roedd cwblhau’r cwrs mynediad yn ymddangos fel opsiwn da ar gyfer dal i allu mynd i’r brifysgol. 听
“Os oes gennych chi鈥檙 amser i wneud y cwrs a’ch bod am fynd i brifysgol, yna mae’r cwrs hwn yn berffaith.”听
Dywedodd Nicola Gamlin, Dirprwy Bennaeth: “A minnau鈥檔 mynd i fod yn Bennaeth newydd ar 麻豆传媒团队, rwy’n falch o weld llwyddiannau eithriadol ein myfyrwyr unwaith eto eleni. Mae’r canlyniadau hyn yn dyst i’w gwaith caled, eu penderfyniad a chefnogaeth ddiwyro ein staff ymroddedig.听
“Edrychwn ymlaen at weld y talentau a ddatblygwyd yn 麻豆传媒团队 yn symud ymlaen i’w camau nesaf – boed hynny drwy addysg bellach neu drwy fynd i fyd gwaith. Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr am eu llwyddiannau eithriadol.”听
Darllenwch fwy am ein straeon听llwyddiant dysgwyr!