21 Ebrill 2021
Rydym wedi bod yn edrych ymlaen at agor Parth Dysgu Torfaen ers cryn amser, ac ar 么l blwyddyn anodd yng nghanol pandemig byd-eang sydd wedi effeithio ar bob un ohonom, rydym yn teimlo鈥檔 gyffrous i agor, yn swyddogol, ein campws newydd sbon, o’r radd flaenaf, yng nghanol Cwmbr芒n. Ar 么l misoedd lawer o addysgu a dysgu o bell, rydym wrth ein bodd yn croesawu dysgwyr a staff drwy鈥檙 drysau ac yn nodi’r achlysur gyda seremoni agoriadol fach.
Mae’r campws newydd yn cynnig ystod eang o gyrsiau i bob math o ddysgwyr yn Nhorfaen, gyda chyfleusterau o safon diwydiant yn un o golegau gorau Cymru. Bydd y Parth Dysgu yn rhoi cyfleoedd gwych i ddysgwyr ar gyfer addysg 么l-16 yn rhanbarth Torfaen. Mae ein Parth Dysgu ym Mlaenau Gwent yng Nglynebwy eisoes wedi chwyldroi canlyniadau i’n dysgwyr yn yr ardal honno, ac edrychwn ymlaen at weld yr un llwyddiant ym Mharth Dysgu Torfaen.
Mae Parth Dysgu Torfaen yn rhan o raglen Ysgolion a Cholegau 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru. Mae’r Parth Dysgu sy’n cael ei reoli a’i redeg gan Goleg Gwent mewn partneriaeth 芒 Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, yn disodli tri chweched dosbarth mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn y fwrdeistref a bydd yn gartref i’r holl addysg Safon Uwch yn Nhorfaen. Bydd hefyd yn cynnig y cymhwyster Bagloriaeth Cymru ac ystod o gymwysterau lefel 2 a 3 cyflenwol, gan ddod 芒 gwasanaethau addysg bellach yn Nhorfaen ynghyd o dan un to.
Er gwaethaf ansicrwydd COVID-19, mae’r gwaith o adeiladu鈥檙 campws newydd wedi gwneud cynnydd da ac mae wedi dod yn bell ers y cyhoeddiad gwreiddiol a wnaed i鈥檙 holl staff, dysgwyr a鈥檙 gymuned ehangach yn 么l ym mis Mehefin 2018.
Y Daith i Barth Dysgu Torfaen
Dywedodd y Pennaeth Guy Lacey 鈥渞ydym i gyd yn teimlo鈥檔 gyffrous iawn yn y Coleg ynghylch agor Parth Dysgu newydd Torfaen. Bydd yn lle gwych i ddysgu ac astudio ac rydym ar bigau i weld ein myfyrwyr yn ei ddefnyddio. Mae wedi bod yn broses hir i gyrraedd yma – efallai bod y pandemig wedi gohirio pethau, ond nid yw wedi ein rhwystro rhag cyrraedd y nod o gael Coleg newydd anhygoel i holl bobl ifanc ac oedolion sy’n ddysgwyr yn Nhorfaen.鈥
Gan ddilyn model tebyg i Barth Dysgu Blaenau Gwent yng Nglynebwy, bydd yr adeilad yn gwbl hygyrch a bydd yn cynnwys cyfleusterau arbenigol ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Mae’r campws yn llachar, yn olau, yn cael digon o awyr a gydag amwynderau a chyfleusterau modern – amgylchedd delfrydol ar gyfer dysgu ac ysbrydoli meddyliau ifanc. Mae lleoliad cyfleus y Parth Dysgu wrth ymyl siop Morrisons yng nghanol y dref hefyd yn hygyrch i ddysgwyr a staff, gyda chysylltiadau rhagorol 芒 thrafnidiaeth gyhoeddus a chyfleusterau lleol.
Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt, arweinydd Cyngor Torfaen: “Bydd Parth Dysgu Torfaen yn helpu i sicrhau ffordd fwy cynaliadwy o gyflwyno addysg 么l-16 yn Nhorfaen. Ein cymhelliant fel bob amser yw ein dysgwyr, a sicrhau y byddant yn gallu cyrchu’r cwricwlwm ehangaf posibl ac ansawdd y ddarpariaeth yn y dyfodol.’
Os hoffech wybod mwy am ein campws newydd a’r cyrsiau sy’n cael eu cynnig ym Mharth Dysgu Torfaen fis Medi yma, cofrestrwch nawr ar gyfer ein digwyddiad agored rhithwir nesaf lle gallwch archwilio鈥檙 campws a chwrdd 芒鈥檔 tiwtoriaid arbenigol!