麻豆传媒团队

En

Taith 麻豆传媒团队 Tuag at Garbon Sero Net


25 Mawrth 2024

Yn 麻豆传媒团队, rydym yn falch o fod yn llysgenhadon ar ran yr amgylchedd. Fel y sefydliad addysg bellach mwyaf yng Nghymru, rydym yn cydnabod yr effaith ddwys y gall ein gweithredoedd ei chael ar yr amgylchedd. Dyna pam ein bod ni wedi ymrwymo i weithredu strategaethau arloesol i leihau ein h么l troed carbon a gweithio tuag at gyflawni allyriadau carbon sero net erbyn 2030.

Rydym yn integreiddio cynaliadwyedd yn rhan o鈥檔 prosesau gwneud penderfyniadau i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn ffocws canolog ym mhob agwedd ar ein gweithredoedd, ac, felly, rydym wedi dechrau sawl menter newydd i wella ein cynnydd tuag at ein nodau cynaliadwyedd.

  1. Egwyddorion dylunio adeiladau cynaliadwy: Wrth i ni gynnal nifer o brosiectau cyfalaf, gan gynnwys HiVE a datblygiad campws Crosskeys, rydym yn ymdrechu i ymgorffori atebion effeithlonrwydd ynni yn rhan o bob prosiect adeiladu newydd a phob prosiect adnewyddu i optimeiddio defnydd ynni a chadw allyriadau carbon i isafswm.
  2. Pweru ein hadeiladau: Darperir yr ynni ar gyfer ein holl gampysau gan gyfuniad y nwy, paneli solar a boeleri biomas. Rydym ni’n cynyddu’r ynni solar a gynhyrchir ar ein campws yn raddol wrth i ni gyflwyno mwy o Baneli Ffotofolt盲ig ac rydym yn ceisio defnyddio cymaint o awyru naturiol 芒 phosibl. Mae’r holl brosiectau newydd yn cynnwys goleuadau ynni isel a thrwy gyllid grant rydym wedi llwyddo i ddisodli symiau mawr o oleuadau presennol gyda math LED. Hefyd, trwy drawsnewid ein Campws Crosskeys, rydym ni yn creu campws carbon sero net modern a deinamig a fydd yn fodel ar gyfer dysgu cynaliadwy.
  3. Cau campysau dros wyliau鈥檙 Pasg: Wrth i lai o adeiladau fod yn weithredol, gallwn leihau yn sylweddol ddefnydd ynni sy鈥檔 gysylltiedig 芒 gwresogi, oeri, goleuo a chyfleusterau eraill. Mae hyn, nid yn unig, yn lleihau ein hallyriadau carbon ond hefyd yn helpu i gadw adnoddau gwerthfawr. Er bod cynnal cyfnod prawf o gau campysau dros wyliau鈥檙 Pasg yn gam ymlaen sylweddol, mae鈥檔 un elfen yn unig o鈥檔 strategaeth gynaliadwyedd ehangach. Rydym yn archwilio atebion arloesol yn barhaus gan roi arfer gorau ar waith ar draws pob agwedd ar ein gweithrediadau.
  4. Gwahanu Gwastraff: Rydym yn gweithio i wella gwahanu gwastraff ar y campws. Ar hyn o bryd, rydym yn cynhyrchu 440 o dunelli o wastraff pob blwyddyn gan gynhyrchu 8.86 tCO2e. Er bod y gwastraff hwn yn cael ei wyro o safle tirlenwi, 17% yn unig sy鈥檔 cael ei ailgylchu a chaiff y gweddill ei losgi at ddiben cynhyrchu ynni. Er mwyn cyrraedd ein targed ailgylchu o 90% erbyn 2030 ac i gydymffurfio 芒 rheoliadau newydd Llywodraeth Cymru, rydym yn rhoi mesurau ar waith i wahanu gwastraff a chynyddu ymdrechion ailgylchu yn sylweddol.

Bydd ein llinell ff么n (01495 333777) a鈥檔 sgwrs we yn parhau i fod ar agor yn 么l yr arfer drwy gydol gwyliau鈥檙 Pasg os hoffech chi siarad ag aelod o staff.