27 Ebrill 2021
Ers blynyddoedd maith, mae’r Adran Geffylau ar Gampws Brynbuga 麻豆传媒团队 wedi bod yn cefnogi , cangen y ym Mrynbuga. A diolch i’n cefnogaeth barhaus, mae’r RDA wedi llwyddo i helpu dwsinau o bobl anabl leol sydd wedi mynychu eu sesiynau marchogaeth cynhwysol.
Gall yr RDA helpu’r rhan fwyaf o bobl sydd ag anableddau, yn amrywio o anableddau corfforol i Awtistiaeth, a phopeth yn y canol. Maent hefyd yn gweithio gyda phlant ysgol ac yn cwmpasu’r Cwricwlwm Cenedlaethol drwy gael hwyl, creu ymdeimlad o lwyddiant, a defnyddio ychydig o ddychymyg.
Drwy gydol y flwyddyn, mae ein Canolfan Farchogaeth ar Gampws Brynbuga yn cynnal digwyddiadau ceffylau yn cynnwys dressage a neidio ceffylau ar gyfer pob oedran a gallu, yn ogystal 芒 chynnig darlithoedd proffesiynol ysbrydoledig gyda gwybodaeth ynghylch y tueddiadau a’r technegau diweddaraf.
Mae’n ddelfrydol i unrhyw un sydd 芒 diddordeb mewn gweithio gyda cheffylau neu ddysgu mwy am ofalu am geffylau hefyd, ac mae cyfleusterau’r campws ar gael i ddysgwyr ar ein holl gyrsiau ceffylau, o Ddatblygu Sgiliau Marchogaeth Rhan amser a Diploma Llawn Amser mewn Gofal Ceffylau, i’n Gradd sylfaen mewn Astudiaethau Ceffylau!
Ymhellach i hynny, rydym wedi gwneud ein cyfleusterau ceffylau ar gael i’r RDA, fel y gallant barhau 芒’u gwaith gwych gyda phobl anabl yn y gymuned leol, gan ymestyn y budd y tu hwnt i’n dysgwyr.
Yn 麻豆传媒团队, gwyddom fod ceffylau a merlod yn gyfrwng arbennig a’u bod yn hynod empathetig i anghenion pobl. Mae hyn yn eu gwneud yn gyfeillion gwych i bobl anabl, ac rydym wedi gweld rhai straeon llwyddiant ysbrydoledig drwy ein gwaith 芒’r RDA!
Dyma Rachel Wolverson, Cadeirydd Gr诺p Cleidda RDA, yn dweud wrthym am rai o’i straeon mwyaf cofiadwy:
Cyfaill awtistiaeth
“Penderfynodd un bachgen sydd ar y Sbectrwm Awtistig ei fod am roi’r gorau i siarad. Felly, pan ddaeth yr ysgol ag ef atom ni, gofynasom beth fyddai’n fwyaf buddiol iddo ef heblaw am y cyfle i farchogaeth ceffyl, ac am iddo siarad eto oedd hynny.聽Aethom ati i weithio ar hyn ac egluro nad oedd rhaid iddo siarad 芒 ni (pobl), ond y byddai angen iddo ddweud wrth Des (y ceffyl) beth i’w wneud.
Ar 么l ychydig wythnosau o waith gyda’r bachgen hwn, byddai’n ddigon bodlon yn dweud wrth Des am “walk on” a mynd i’r dde neu’r chwith gan ddefnyddio ei gareiau ffrwyn hefyd. Daeth atom ym mis Medi, ac ar 么l treulio ychydig fisoedd gyda ni, daeth y gwyliau Nadolig a rhuthrodd tuag ataf a dweud 鈥渉ave a very happy Christmas, Miss鈥.聽Dyma oedd y tro cyntaf iddo siarad yn ddiarwybod ers amser maith!! Cyn hynny, dim ond ateb cwestiynau yr oedd wedi’i wneud ers dechrau marchogaeth gyda’r RDA. Roedd pawb ar ben eu digon ac erbyn gweld dim ond dod o hyd i’r allwedd gywir i ddatgloi ei leferydd eto a oedd ei angen arno, ac nid ydyw wedi edrych yn 么l byth wedyn!”
Adfer ar 么l str么c
“Rydym hefyd wedi bod yn gweithio 芒 merch a oedd wedi dioddef o str么c ddifrifol, ond cyn hynny roedd ganddi ei cheffylau ei hun a byddai’n marchogaeth drwy’r amser. Felly, roedd awydd ganddi i fynd yn 么l ar gefn ceffyl a daeth atom am sawl wythnos. Yn ystod y cyfnod hwn, gwnaethom ei helpu i ddod o hyd i ffyrdd newydd o fynd ar gefn ceffyl a gwella ei chryfder ar gyfer marchogaeth. Bu hyn yn gymorth iddi fagu hyder eto a’r gallu i ddod o hyd i geffyl tawelach a mynd ati i hacio gyda’i ffrindiau gartref.
Y straeon ysbrydoledig hyn yw’r rheswm pam bod ein gwaith cymunedol mor bwysig i ni yn 麻豆传媒团队. Ar y cyfan, mae’r RDA yn gweld bod dysgu i farchogaeth yn fonws ychwanegol i’r bobl maent yn gweithio gyda nhw. Ond rydym yn cytuno bod magu hyder ac annibyniaeth drwy farchogaeth yn llifo i fywydau bob dydd pobl ac nid oes modd rhoi gwerth ar hynny.
Mae’r RDA wedi cyflwyno rhai o’u marchogwyr mwyaf galluog i gystadlaethau hyd yn oed lle’r oedd rhaid iddynt oresgyn eu nerfau a dysgu nad ydynt yn curo bob tro, yn enwedig ar lefel Genedlaethol. Mae hwn yn ddatblygiad ac yn gyflawniad enfawr na fyddai’r rhan fwyaf o bobl anabl erioed wedi cael y cyfle hwnnw heblaw am yr RDA a’n cyfleusterau a’n ceffylau yn y Ganolfan Geffylau!
Ac yn 麻豆传媒团队, mae’r cyfleoedd hyn yn ymestyn y tu hwnt i astudiaethau ceffylau yn unig. Rydym yn croesawu dysgwyr o bob gallu ac anallu i wneud cais am ein hystod o gyrsiau, ac mae ein gwasanaethau cymorth wedi’u dylunio i’ch helpu chi i ffynnu a chael y mwyaf allan o’ch amser yn y coleg.
Felly, os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio gyda cheffylau, datblygu’ch sgiliau, neu ddysgu rhywbeth newydd, beth am ddysgu am ein cyrsiau llawn amser, rhan amser ac Addysg Uwch a llawer mwy yn ein digwyddiad agored rhithiol nesaf!