15 Hydref 2020
Enw: Melika Ghorbankhani
Cartref: Casnewydd
Cwrs: ESOL (Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill) Mynediad 3
Campws: Campws Dinas Casnewydd
Breuddwyd Melika oedd bod yn feddyg, ac felly roedd yn rhaid i’r dysgwr Iranaidd wella ei sgiliau Saesneg a chyflawni sg么r IELTS o 6.5 i gael ei derbyn yn y brifysgol. Er mwyn gwireddu ei huchelgais, dewisodd gwrs ESOL 麻豆传媒团队, a llwyddodd Melika i fynd 芒’i hastudiaethau ymhellach na’r disgwyl gyda’r sgiliau y dysgodd hi, a bellach mae’n dilyn PhD!
Pam y dewisoch chi 麻豆传媒团队?
“Ac eithrio fy mod yn byw yng Nghasnewydd, roeddwn wedi clywed llawer o bethau da am 麻豆传媒团队. Roedd hyn yn cynnwys y cyrsiau a gynigwyd, bywyd cymdeithasol, a chyfleusterau. Argymhellodd fy ffrind i mi fynd i astudio i’r coleg ar 么l cael profiadau da yno, ac o fy safbwynt i, roedd astudio yn 麻豆传媒团队 yn gychwyn da i bobl sy’n bwriadu mynd i’r brifysgol neu gychwyn swydd newydd yn y DU.”
Beth oeddech chi’n ei hoffi fwyaf am eich cwrs?
“Derbyniais y cymorth gorau i wella fy Saesneg yn 麻豆传媒团队. Roeddwn yn hoff iawn o fy nhiwtor personol, Geraldine French. Mae hi wedi bod un o’r tiwtoriaid gorau a gefais erioed ac mae hi’n broffesiynol iawn yn ei maes. Roedd hi’n amyneddgar, cydymdeimladol, cwrtais ac yn barod i helpu a thrafod y materion o’n blaenau wrth astudio. Roeddwn yn hoff o’i harddull addysgu, ac roedd hi’n ein helpu ni i ddeall pynciau cyn gadael y dosbarth.
Roedd staff 麻豆传媒团队 hefyd yn ddefnyddiol a chefnogol. Roeddent yn treulio amser yn ateb ein cwestiynau ac yn ein harwain pan roeddem eu hangen nhw, ac roedd yn hapus gyda chyfleusterau’r dosbarth, cyfleusterau addysgu, etc.
Mae gennyf atgofion hapus iawn o 麻豆传媒团队. Cefais fynd ar ddwy daith wych i Lundain a Chaerfaddon gyda fy nhiwtor a chyd-fyfyrwyr, a chawsom ddathlu digwyddiadau arbennig fel y Nadolig a Blwyddyn Newydd yn y coleg a chreu nifer o atgofion melys – cawsom lawer o hwyl!”
Beth ydych chi’n ei wneud nawr a beth yw eich amcanion gyrfaol hir dymor?
“Ar hyn o bryd, rwy’n paratoi ar gyfer fy PhD. Gorffennais fy nghwrs Meistr mewn Diogelwch, Iechyd a Llesiant Galwedigaethol gydag anrhydedd ym Mehefin 2020. Derbyniais ganlyniad gwych ar gyfer thesis fy nghwrs Meistr, ac roedd hyn y gwneud i mi deimlo’n fwy hyderus i ddilyn fy PhD.
Rwyf wedi cael fy nerbyn ar gwrs PhD yn cychwyn fis Medi 2020, a byddaf yn parhau gyda fy astudiaethau yn y pwnc y mae gennyf ddiddordeb ynddo, gan amcanu i ddatblygu fy ymchwil ar y pwnc 鈥楽upporting the development of a psychological safety culture in the NHS workplace鈥.
Y peth mwyaf a gyflawnais drwy astudio yn 麻豆传媒团队 oedd y cymorth a dderbyniais i wella fy sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig yn Saesneg. Teimlais fy mod yn barod ac yn ddigon hyderus i fynd i’r brifysgol yn fuan ar 么l i mi orffen fy astudiaethau yn y coleg.”
Hyd yn hyn beth yw eich llwyddiant mwyaf?
“Fy llwyddiant mwyaf tra’n astudio yn 麻豆传媒团队 oedd cyflawni sg么r 7 yn IELTS. Astudiais yn galed iawn i gael marc uwch na 6.5, oedd yn ofynnol ar gyfer cael mynediad i brifysgol ac astudio ar lefel Meistr. Yn ffodus, llwyddais i sgorio 7 a chefais fy nerbyn i Brifysgol Metropolitan Caerdydd. Yn ogystal, derbyniais wobr am fy mhresenoldeb da a’m lefel perfformio yn y dosbarth tra’n astudio yn y coleg.”
Y peth gorau am astudio yn 麻豆传媒团队?
“O fy safbwynt i, roedd cael ffrindiau o’m cwmpas yn y coleg yn beth da, yn enwedig y rhai o’r un wlad 芒 mi – Iran. Roeddem yn treulio egwyliau gyda’n gilydd yn aml. Y pwynt diddorol yw bod y coleg yn cynnwys pobl o ddiwylliannau a chefndiroedd gwahanol. Gall pobl gwrdd 芒’i gilydd yno, dod i adnabod ei gilydd, a dysgu am ffordd o fyw a diwylliannau’r naill a’r llall.
O ran cymorth, mae’n rhaid i mi ddweud fod pobl yn dod yn fwy cyfforddus i ddysgu a chymryd y risg i drafod eu heriau personol pan maen nhw’n sylwi eu bod nhw ymhlith pobl gydymdeimladol a chefnogol, a bod pobl yn gwrando arnyn nhw. Un o’r pethau gorau i mi ei brofi yn y coleg oedd bod gennyf gyfle i rannu fy syniadau a theimladau bob amser. Roeddwn wastad yn gallu mynd i swyddfa’r tiwtor i drafod fy heriau a phrofiadau da ar y cwrs. Roeddynt yn rhoi amser i gwrdd a gwrando ar bob myfyriwr. Roeddem yn gallu siarad 芒 nhw’n rhwydd, ac roeddent wastad yn ymdrechu i gynorthwyo a’n harwain ni.
Hyd heddiw, rwyf mewn cysylltiad 芒 fy nhiwtor personol, Geraldine, gan ei bod hi’n athrawes arbennig yn ogystal 芒 ffrind a gwrand盲wr da. Ar 么l bob cyflawniad yn y coleg, rwy’n anfon e-bost ati i rannu fy llwyddiant gyda hi, am ei bod hi wedi fy helpu llawer i wella fy Saesneg. Mae hi bob amser yn bositif a gobeithiol, a chreodd hi lawer o atgofion gwych i ni. Rwyf wastad yn colli ein dosbarth a Geraldine. Roedd creu’r profiadau positif ac emosiynol hyn yn amhrisiadwy.”
A oedd gennych unrhyw heriau cyn mynychu 麻豆传媒团队? Os felly, sut wnaeth y coleg eich cefnogi?
“Roeddwn yn teimlo straen o orfod bod mewn amgylchedd newydd a chyfarfod pobl newydd cyn cychwyn yn y coleg, ond cefais groeso cynnes ac roeddwn wedi setlo gyda Geraldine a’m cyd-fyfyrwyr ar 么l ychydig oriau.
Ar y dechrau, roeddwn yn cael cryn drafferth ag ysgrifennu a siarad Saesneg yn dda. Er bod fy sgiliau ysgrifennu wedi gwella’n sylweddol yn y brifysgol, rhoddodd y coleg y sail i mi wella fy sgiliau ysgrifennu a siarad. Dysgais am ramadeg a phynciau eraill yn dda yn y coleg, a rhoddodd hyn yr hwb i mi fod yn hyderus i wella fy sgiliau darllen, ysgrifennu, siarad a gwrando.”
A oes gennych gyngor i fyfyrwyr sy’n ystyried astudio yn 麻豆传媒团队?
“O fy mhrofiad fy hun, 麻豆传媒团队 yw’r lle gorau i astudio i bobl sydd eisiau mynd i’r brifysgol a dysgu set newydd o sgiliau er mwyn cychwyn swydd newydd. Mae cymaint o ddigwyddiadau agored yn y coleg, ac mae’r staff yn gefnogol a chyfeillgar tu hwnt. Mae 麻豆传媒团队 yn lle croesawgar a chyfforddus i astudio ar gyfer pobl o wledydd a chefndiroedd gwahanol, fel fi.”
麻豆传媒团队 oedd y garreg gamu roedd Melika ei hangen i barhau 芒’i hastudiaethau a mynd i’r Brifysgol. Os oes gennych chi freuddwydion a chynlluniau mawr hefyd, cychwynnwch eich taith yn 麻豆传媒团队 ac ymgeisiwch nawr i astudio ESOL neu un o’n nifer o gyrsiau llawn amser a rhan amser.