23 Mehefin 2022
Y ddoe, gwnaethom gynnal ein digwyddiad gwobrau blynyddol – dathliad o’n holl ddysgwyr ysbrydoledig a’u cyflawniadau drwy gydol y flwyddyn academaidd. Fel coleg, rydym yn hoffi cydnabod ymdrech, ymrwymiad a gwaith caled, a gwobrwyo llwyddiannau rhagorol wrth i ddysgwyr gyrraedd eu nodau. Felly, wrth i’r flwyddyn academaidd ddod i ben, gwnaethom fanteisio ar y cyfle i ddathlu ymrwymiad ein dysgwyr i’w hastudiaethau gyda’r cyflwynydd chwaraeon ysbrydoledig o Gymru, .
Cyflwynwyd yr enwebiadau ar gyfer gwobrau dysgwyr 2022 ar-lein gan diwtoriaid a staff ledled y coleg, un ai ar gyfer y dysgwr sydd wedi gwella fwyaf, goresgyn trallod neu gyflawniadau rhagorol. Gwnaethom dderbyn dros 450 o enwebiadau eleni, sy’n destament i’n dysgwyr anhygoel, eu gwytnwch a’u natur benderfynol i lwyddo.
I dderbyn gwobr, efallai bod dysgwyr wedi goresgyn trallod, wedi dangos agwedd gadarnhaol neu ddawn ragorol, neu efallai eu bod nhw wedi troi methiant yn llwyddiant. Cafodd nifer yr enwebeion eu cwtogi i 89 o enillwyr Gwobrau Cyflawniad Dysgwyr ar draws y tair ysgol yn 麻豆传媒团队. Dewiswyd pump o ddysgwyr hefyd ar gyfer gwobrau cydnabyddiaeth arbennig, gyda thri yn ennill Gwobrau Cyfarwyddwr y Gyfadran ar gyfer cynnydd a wnaed yn ystod eu hastudiaethau, enillodd un Wobr y Cadeirydd am oresgyn trallod, ac enillodd un Wobr y Pennaeth ar gyfer perfformiad rhagorol
Dywedodd y Dirprwy Bennaeth, Nikki Gamlin, “Rydym yn falch iawn o gyflawniadau ein dysgwyr, a’r t卯m o staff medrus, sy’n gweithio’n galed, sy’n cefnogi ein dysgwyr i gyflawni pethau gwych.”
Gydag ymddangosiad arbennig gan y siaradwr ysbrydoledig Jason Mohammad, a pherfformiadau gan ein dysgwyr talentog a myfyrwyr theatr gerddorol, roedd y noson wobrwyo yn noson i’w chofio. Roedd yn pwysleisio dawn anhygoel ein dysgwyr a’u gwytnwch yn ystod flwyddyn heriol. Er gwaethaf yr amhariadau ar wersi, gweithio o bell a’r ansicrwydd ynghylch asesiadau ac arholiadau, mae ein dysgwyr wedi profi dro ar 么l tro eu bod wedi ymrwymo i gyflawni eu nodau.
Mae’r pandemig wedi dysgu sawl gwers i ni ynghylch wynebu ein heriau heb oedi, ac rydym wedi dysgu, os ydym wir yn ymdrechu’n galed, gallwn lwyddo a chyrraedd ein nodau. Felly, llongyfarchiadau i’n holl enillwyr ac enwebeion gwobrau – rydych chi’n ein hysbrydoli ni bob dydd!
.
Gwobr Cyfarwyddwr y Gyfadran – Mia Vaughn, Toby Collins and Victoria Blanks
Gwobr y Cadeirydd – Isabelle Marshall
Gwobr y Pennaeth – Danni Haynes
Gwobr Cyflawniad Peirianneg
Gwobr Cyflawniad Cerbyd Modur
Gwobr Cyflawniad Adeiladu
Gwobr Cyflawniad Gwasanaethau Adeiladu
Gwobr Cyflawniad Celf a Dylunio
Gwobr Cyflawniad y Cyfryngau
Gwobr Cyflawniad Cerdd
Gwobr y Celfyddydau Perfformio
Gwobr Cyflawniad Sgiliau
Gwobr Cyflawniad Gofal Plant
Gwobr Cyflawniad Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Gwobr Cyflawniad Sgiliau Byw’n Annibynnol
Gwobr Cyflawniad Trin Gwallt
Gwobr Cyflawniad Harddwch
Gwobr Cyflawniad Colur Theatraidd
Gwobr Cyflawniad ESOL
Gwobr Cyflawniad Lletygarwch
Gwobr Cyflawniad Teithio a Thwristiaeth
Gwobr Cyflawniad Gwyddoniaeth
Gwobr Cyflawniad Mynediad
Gwobr Cyflawniad Sgiliau
Gwobr y Gymraeg
Gwobr Cyflawniad Lefel UG
Gwobr Cyflawniad Safon Uwch
Diploma Cenedlaethol mewn Gwyddoniaeth
Gwobr Cyflawniad Busnes
Gwobr Cyflawniad Cyfrifiadura
Gwobr Cyflawniad Chwaraeon
Gwobr Cyflawniad Gwasanaethau Cyhoeddus
Gwobr Cyflawniad Gofal Anifeiliaid
Gwobr Cyflawniad Nyrsio Milfeddygol
Gwobr Cyflawniad Astudiaethau Ceffylau
Gwobr Cyflawniad Mynediad
Gwobr Cyflawniad Sgiliau
Gwobr y Gymraeg