29 Awst 2018
Mae’r myfyriwr Abigail Parker yn gwneud defnydd da o’i chymhwyster ffasiwn drwy ddylunio a gwerthu ei chrysau T a’i bagiau llaw ei hun.
Mae Abigail o Gasnewydd, sy’n 18 oed, eisoes wedi gwerthu rhai o’i chrysau T a’i bagiau unigryw wedi eu printio gyda sgrin sidan ar-lein, ar Depop ac yn siop Black Bear Vintage yng Nghasnewydd. Ym mis Medi, bydd Abigail yn dechrau ar ei chwrs Diploma Cenedlaethol Uwch mewn Ffasiwn a Thecstilau ar Gampws Crosskeys.
Dywedodd Abigail, “Dewisais astudio diploma lefel 3 mewn ffasiwn a dillad i ddechrau am fy mod wrth fy modd yn gwneud dillad ers fy mod yn ifanc, pan wnaeth fy Mam-gu sgert binc debyg i un dywysoges i mi.
“Nid Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth oedd fy nghryfderau ond roeddwn yn teimlo fel fy mod yn perfformio’n dda mewn pynciau creadigol fel celf a dylunio.”
Fe lwyddodd Abigail, sydd wedi bod yn astudio yn y Coleg ers 2016, i gael D*DD yn ei diploma a dewisodd ddechrau astudio cwrs prifysgol yn y Coleg am nad oedd hi’n teimlo fel ei bod hi’n barod i fynd i’r Brifysgol.
Mae hi’n defnyddio printio sgr卯n sidan fel rhan o’i dyluniad, techneg brintio lle mae rhwyll yn cael ei defnyddio i drosglwyddo inc ar y ffabrig. Mae rhannau o’r rhwyll yn cael eu blocio gan doddiad, gan ymddwyn fel stensil. Dyma un o’r technegau y gall disgyblion ei ddysgu ar y cwrs.
“Mae fy nyluniadau wedi eu hysbrydoli gan gymryd elfennau o fy mhrosiect mawr terfynol, gyda dyluniadau llawrydd a hefyd o grysau print eraill rwyf wedi eu hoffi. Dewisais greu bagiau a chrysau T oherwydd roeddwn eisiau creu rhywbeth ffynci i wisgo pob dydd ac am fy mod eisiau dechrau gyda darnau sylfaenol i weld sut y byddent yn gwerthu,’ ychwanegodd Abigail.
Mae Abigail yn gobeithio dechrau ei busnes ei hun yn gwerthu gwisgoedd g诺yl ffynci yn y dyfodol, gallwch edrych ar ei chynnyrch ar ei chyfrif Depop.
Mae gennym nifer o gyrsiau Ffasiwn a Thecstilau a chyrsiau addysg uwch ar gael yma yn y Coleg.