11 Ionawr 2021
Mae Esports yn sector sydd yn tyfu鈥檔 gyflym. Gyda dros 36 miliwn o chwaraewyr yn y DU mae tua 6.5 miliwn ohonom nawr yn gwylio neu鈥檔 cymryd rhan mewn esports (). Felly, bob blwyddyn, rydym yn gweld cynulleidfaoedd mwy, mwy o gyfranogwyr a chronfeydd gwobrwyo mwy yn y twrnameintiau gorau, ac mae’n sector sy’n dod yn fwyfwy poblogaidd gyda phobl ifanc uchelgeisiol. Yn wir, mae bellach mor boblogaidd nes bod y prif ddarparwyr rhyngrwyd wedi profi wedi i declynnau newydd Xbox a gemau Game of Duty fynd ar werth!
Yn ddiweddar, trefnodd dysgwyr ar ein cwrs Esports yn Parth Dysgu Blaenau Gwent eu digwyddiad chwarae poblogaidd a llwyddiannus eu hunain ar 18 Rhagfyr, lle roedd chwarewyr yn cystadlu mewn timau yn erbyn s锚r rygbi rhyngwladol Cymru.
Yn ystod ein cwrs Echwaraeon dros ddwy flynedd yng Ngholeg Gwent, mae’n ofynnol i ddysgwyr ddatblygu digwyddiadau chwarae drwy gydol eu hastudiaethau, gan ddarganfod bod angen llawer o amser ac ymdrech i鈥檞 cynnal. Ond mae hefyd yn rhoi cyfle gwych iddynt ddatblygu sgiliau gwerthfawr a gweithio gyda gweithwyr proffesiynol fel 聽, sy’n brofiad gwych ac yn ychwanegiad i’w CV.
Roedd y digwyddiad a gynhaliwyd gan ein dysgwyr yn nodi lansiad t卯m Echwaraeon newydd Gleision Caerdydd. Mae llawer o d卯m Gleision Caerdydd yn chwarae gemau fel Call of Duty yn eu hamser hamdden, gan ei fod yn ffordd wych o ymlacio. Fodd bynnag, ar yr un pryd, gallant bellach fod yn chwarae ac yn rhyngweithio 芒 chefnogwyr neu’n cystadlu 芒 thimau chwaraeon eraill sydd 芒 changen Echwaraeon. Roedd y digwyddiad a gynhaliwyd gan ein dysgwyr yn galluogi t卯m echwaraeon newydd Gleision Caerdydd i gystadlu yn erbyn selogion a chefnogwyr echwaraeon eraill, gan ei wneud yn ddigwyddiad poblogaidd a chyffrous, gan ddod 芒 phobl at ei gilydd yn rhithiol yn ystod cyfnod heriol pandemig COVID.
Fel rhan o gydweithrediad rhwng EDN Esports – gr诺p chwarae a rheoli a sefydlwyd gan ein dysgwyr fel rhan o’u cymhwyster – a , gwelodd y digwyddiad dimau o bedwar yn cystadlu i gyrraedd y safle uchaf wrth chwarae Call of Duty Warzone – g锚m frwydr am ddim. Daeth deuddeg t卯m i mewn i’r digwyddiad am ddim, gyda phob t卯m yn chwarae pedair g锚m ac yn ennill pwyntiau yn seiliedig ar ble y gwnaethant orffen a nifer y gorchfygiadau a gyflawnwyd ganddynt.
Gan na allai chwaraewyr i gyd ddod at ei gilydd yn yr un lle oherwydd cyfyngiadau COVID, chwaraeodd timau gemau rhwng 8pm ac 11.30pm ar yr un diwrnod. Anfonon nhw sgrinluniau o’u byrddau sg么r yn dangos lle roeddent yn gorffen a nifer y trechiadau a gyflawnwyd ganddynt, felly gellid cyfrifo pwyntiau yn seiliedig ar hynny.
Gyda’r digwyddiad a noddwyd gan HyperX, sgoriodd y garfan fuddugol – Esports Wales – 805 o bwyntiau a chawsant benwisgoedd HyperX fel y wobr gyntaf, tra dyfarnwyd nwyddau HyperX eraill i’r timau yn yr ail a鈥檙 trydydd safleoedd – My Nana鈥檚 Cuppa ac Esports Gleision Caerdydd. Ond teimlwn mai’r gwir enillwyr oedd ein dysgwyr Echwaraeon ymroddedig, am wneud y digwyddiad yn gymaint o lwyddiant ac am dderbyn adborth arbennig!
Mae鈥檙 Darlithydd Echwaraeon, Steve Hunt, yn hynod falch o’r dysgwyr am yr holl waith a wnaethant i sefydlu eu sefydliad EDN a threfnu a chynnal y digwyddiad gwych eu hunain. Gyda phopeth sy鈥檔 mynd ymlaen gyda COVID a’r cyfyngiadau clo, roedd yn ffordd wych i gefnogwyr ymgysylltu 芒 chwaraewyr eraill a rhyngweithio a chefnogi ei gilydd.
Mae’r diwydiant Echwaraeon yn farchnad sy’n tyfu ac yn ehangu’n gyflym, sydd yn sicr am dyfu ymhellach, ac yn dilyn llwyddiant y digwyddiad chwarae, mae ein dysgwyr Echwaraeon bellach yn edrych ymlaen at gynnal yr un nesaf ar 15 Ionawr 2021, gyda鈥檙 llwyfan ar-lein . Mae’r digwyddiad cyffrous hwn sy’n seiliedig ar amser yn gystadleuaeth Call of Duty sy’n agored i dimau o dri (18+ oed), lle bydd timau’n hela s锚r rygbi o d卯m Echwaraeon Gleision Caerdydd. Am ffi fechan a fydd yn mynd tuag at y brif gronfa wobrau yn y digwyddiad a chwarae yn erbyn Gleision Caerdydd {1>drwy ein platfform chwarae partner ar-lein
Os ydych chi’n chwilfrydig am yrfa ym myd cynyddol echwaraeon, darganfyddwch fwy o’n cyrsiau yn Parth Dysgu Blaenau Gwent neu Campws Crosskeys, a鈥檔 Gradd Sylfaen nawr!