10 Tachwedd 2022
Rydym wedi cael ymweliad arbennig iawn gan Iarll Wessex, heddiw, wrth iddo ymuno 芒 myfyrwyr o bob rhan o Dde-ddwyrain Cymru ar gyfer diwrnod her arbennig Mharth Dysgu Torfaen.
Croesawyd mwy na 50 o bobl ifanc o golegau ac ysgolion ledled De-ddwyrain Cymru, gan gynnwys cymysgedd o gyfranogwyr DofE a phobl ifanc sy鈥檔 awyddus i ddysgu mwy amdano. Yn ystod diwrnod her DofE ar ein campws yng Nghwmbr芒n, fe wnaethon nhw roi cynnig ar gymorth cyntaf, gwaith t卯m ac ymgyrchu, gyda deiliad y Wobr Aur ac Ymddiriedolwr DofE,聽 Iarll Wessex, yn ymuno 芒 nhw.
Cyfarfu鈥檙 Iarll 芒 dysgwyr o golegau ac ysgolion lleol wrth iddynt gymryd rhan mewn cyfres o heriau cyflym. Buont yn gweithio mewn timau i fynd i’r afael ag amrywiaeth o weithgareddau sy’n adlewyrchu pedwar rhan – Corfforol, Sgiliau, Alldaith a Gwirfoddoli. Roedd hyn yn cynnwys her gwaith t卯m, dysgu sgiliau cymorth cyntaf, dysgu gosod pebyll a phacio offer, a chreu eu hymgyrchoedd bach eu hunain ar faterion pwysig.
Roedd yn fraint cynnal y digwyddiad arbennig hwn ar ein campws mwyaf newydd, Parth Dysgu Torfaen. Rydym yn falch o gefnogi’r DofE, gan helpu ein pobl ifanc i lwyddo a ffynnu fel aelodau o’n cymuned. Roedd ymweliad arbennig yr Iarll, fel Ymddiriedolwr y DofE, yn ei gwneud yn ddiwrnod cofiadwy ac ysbrydoledig i ddysgwyr, gan ddangos gwerth y sgiliau gydol oes y maent yn eu datblygu trwy’r DofE.
Mae gweithgareddau allgyrsiol yn rhan bwysig o’ch profiad yng Ngholeg Gwent. Felly, rydym yn annog pob myfyriwr i gymryd rhan mewn clybiau, gweithgareddau a chwaraeon ochr yn ochr 芒鈥檆h cwrs, yn ogystal 芒 chynnig y DofE i鈥檆h helpu i ddatblygu set sgiliau cyflawn fel aelodau gwerthfawr o鈥檔 cymuned.
Ar adeg pan fo angen cyfleoedd hygyrch yn fwy nag erioed, mae DofE Cymru yn gweithio鈥檔 galed i ehangu mynediad i鈥檙 DofE ar gyfer pobl ifanc mewn addysg bellach, gyda鈥檙 elusen DofE yn anelu at gyrraedd miliwn o bobl ifanc ledled y DU erbyn 2026.
Bob blwyddyn, mae鈥檙 DofE yn ysbrydoli cannoedd o filoedd o bobl ifanc o bob cefndir i ddatblygu sgiliau, gwytnwch a hunanhyder. Mae鈥檙 DofE, sy鈥檔 agored i bob unigolyn ifanc 14-24 oed, yn cynnig cyfle i ddarganfod angerdd a doniau newydd, ennill sgiliau ymarferol fel datrys problemau a gwaith t卯m, gwneud gwahaniaeth i鈥檞 cymunedau, a datblygu hyder a gwytnwch – wrth weithio tuag at wobr gydnabyddedig a pharchus. Mae pobl ifanc yn dewis eu gweithgareddau eu hunain ac yn gosod eu nodau eu hunain, sy’n golygu y gall eu DofE gyd-fynd ag ymrwymiadau fel astudio, gwaith, cyfrifoldebau gofalu, a bywydau cymdeithasol. Mae’n ffordd wych o ennill sgiliau ar gyfer cyflogaeth ac am oes.
Darganfyddwch fwy am y gweithgareddau allgyrsiol, fel DofE, y gallwch chi gymryd rhan ynddynt ochr yn ochr 芒’ch astudiaethau yn ein digwyddiad agored nesaf .