Â鶹´«Ã½ÍŶÓ

En
Â鶹´«Ã½ÍÅ¶Ó Vocational Courses

Darganfod eich galwedigaeth yn Â鶹´«Ã½ÍŶÓ


20 Tachwedd 2023

Mae cymwysterau galwedigaethol fel cyrsiau BTEC yn gyrsiau sy’n seiliedig ar waith, yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch ar gyfer rôl swydd neu yrfa benodol. Mae’r cyrsiau hyn yn fwy ymarferol na Safon Uwch sy’n seiliedig ar ddamcaniaeth, ond nid yw hynny’n golygu eu bod yn haws.

Gyda chyrsiau BTECs byddwch yn cael profiad ymarferol a byddwch yn cael eich hyfforddi i’r safon uchel y mae cyflogwyr yn ei disgwyl, ac fel coleg sy’n perfformio orau ar y cyd ar gyfer cymwysterau galwedigaethol yng Nghymru, mae gennym ddetholiad eang o gyrsiau i chi eu harchwilio.

10 budd cymwysterau galwedigaethol:

  1. Cael profiad go iawn yn y maes sydd o ddiddordeb i chi
  2. Dysgu drwy wneud – mae cyrsiau galwedigaethol yn ymgymryd â dull ymarferol
  3. Ennill sgiliau ymarferol sydd eu hangen arnoch i wneud swydd ac i fod yn barod ar gyfer gwaith pan fyddwch yn gadael y coleg
  4. Dod o hyd i lwybr at gyflogaeth yn eich gyrfa ddewisol a chanolbwyntio ar eich diddordebau
  5. Cymhwyso theori i ymarfer mewn senarios a phrosiectau go iawn
  6. Ennill sgiliau ychwanegol ar gyfer cyflogaeth, fel cyfathrebu a rheoli amser
  7. Cael eich asesu mewn amrywiaeth o ffyrdd, fel gwaith cwrs, aseiniadau ymarferol a phrofion
  8. Mynd i’r brifysgol – Mae cymwysterau galwedigaethol Lefel 3 hefyd yn ennill pwyntiau UCAS
  9. Ennill cymhwyster a gydnabyddir y mae cyflogwyr yn chwilio amdano
  10. Astudio cyrsiau llawn amser a rhan amser uwch AM DDIM!

Felly, os ydych chi’n meddwl y byddai cymhwyster galwedigaethol yn fwy addas ar gyfer eich arddull chi o ddysgu o’i gymharu â chwrs academaidd, byddwch yn dod o hyd i’r cwrs cywir i chi yn Â鶹´«Ã½ÍŶÓ. Beth sydd gan rhai dysgwyr i’w ddweud:

Peirianneg Awyrofod

Aeronautical Engineering Learner Penderfynodd Macsen Davies astudio ar gwrs Peirianneg Awyrofod ar ôl mynychu digwyddiad agored Â鶹´«Ã½ÍŶÓ.

“Mae llawer o dechnegau addysgu gwahanol yn y coleg ac mae’r cyfleusterau’n dda iawn. Mae ganddyn nhw weithdai llawn offer ar gyfer gwaith ymarferol a llwyth o offer safon diwydianol fel; rhaglenni dylunio CAD 3D ac offer ar gyfer adeiladu cylchedwaith ar-lein. Ar hyn o bryd rwy’n cael fy noddi gan Tata Steel ac yn gobeithio cael cynnig prentisiaeth ar ôl y cwrs hwn.”

Therapiau Cyflenwol

COMPLEMENTARY THERAPIES LearnersMae Siân Samantha Howells, sy’n astudio ar gwrs Lefel 3 mewn Therapïau Cyflenwol, yn bwriadu bod yn berchennog ar ei busnes ei hun gan gyfuno ioga ac aromatherapi.

“Byddwn 100% yn argymell Â鶹´«Ã½ÍÅ¶Ó ar gyfer y cwrs Therapïau Cyflenwol. Mae’r cwrs hefyd yn eich helpu chi i fagu hyder am eich bod yn cwrdd â phobl newydd yn rheolaidd ac rydych chi’n dysgu llwyth o wybodaeth am y corff – mae’r cwrs yn fanwl iawn! Rwy’n edrych ymlaen at fynd i mewn i’r coleg.”

CYNNAL A CHADW A THRWSIO CERBYDAU

VEHICLE MAINTENANCE & REPAIR Mae Courntney Williams wedi meddu ar ddiddordeb mewn ceir ers amser hir ac roedd hi’n dymuno astudio ar gwrs Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau er mwyn troi ei hangerdd yn yrfa.

“Roeddwn yn nerfus iawn o ran dod i’r coleg fel myfyriwr hÅ·n yn gwneud rhywbeth hollol newydd ond dyna oedd fy mhenderfyniad gorau erioed. Ychydig o ferched yn unig sy’n astudio ar fy nghwrs ond, er gwaethaf hynny, teimlaf fy mod yn rhan o’r dosbarth – mae pawb wedi bod yn groesawgar. Rwy’n dwlu ar ddysgu am y diwydiant moduro. Mae’r cyfleusterau yma yn wych ac maent yn adlewyrchu safon y diwydiant ar gyfer garej.”

Celf a Dylunio

Art & Design Mae ein dysgwr sy’n astudio ar gwrs Lefel 3 mewn Celf a Dylunio yn gobeithio y bydd y cwrs yn ei helpu i ennill gyrfa greadigol yn y dyfodol.

“Byddwn yn argymell Â鶹´«Ã½ÍÅ¶Ó am eich bod chi’n derbyn safon dda o ddysgu un i un ac mae’r tiwtoriaid yn hyfryd iawn. Byddwn hefyd yn argymell y cwrs Celf a Dylunio am eich bod yn cael gwneud amrywiaeth o bethau bob dydd felly gallwch chi fod yn greadigol mewn sawl ffordd wahanol. Teimlais fod y llwybr hwn yn fwy addas i mi nag astudio yn y chweched dosbarth am ei fod yn gwrs mor greadigol.”

Gwasanaethau Cyhoeddus

Public Services Mae James Llewellyn yn gobeithio dilyn gyrfa yn yr Heddlu yn y dyfodol. Dewisodd astudio ar gwrs Lefel 3 mewn Gwasanaethau Cyhoeddus er mwyn ei helpu i ennill y sgiliau angenrheidiol ar gyfer ei swydd ddelfrydol.

“Nid oeddwn yn hoffi’r ysgol a meddyliais fod ystod ehangach o gyfleoedd ar gael yn y coleg gan allu ennill sgiliau mwy annibynnol. Byddwn 100% yn argymell Â鶹´«Ã½ÍÅ¶Ó ar gyfer cwrs Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae’n eich gosod ar y trywydd cywir i symud i’r lefel nesaf a rhoi’r addysg gywir er mwyn i chi ragori.”

Gofal Plant

ChildcareGan gynnwys cymysgedd o waith theori a gwaith ymarferol, mae’r cwrs Lefel 3 mewn Gofal Plant yn paratoi Emily Knorz i ennill y sgiliau ar gyfer ei gyrfa yn y maes hwn yn y dyfodol.

“Rwy’n hoffi dysgu am blant a mynd i’m lleoliad gwaith mewn ysgol gynradd ddau ddiwrnod yr wythnos er mwyn rhoi’r hyn fy mod wedi’i ddysgu ar waith wrth ryngweithio â’r plant. Mae ennill profiad gwaith ar gyfer y dyfodol yn wych.”

Y Cyfryngau Creadigol

Creative Media Roedd William Serna yn dymuno gwella ei sgiliau drwy astudio ar gwrs Lefel 2 mewn Cynhyrchu yn y Cyfryngau Digidol Creadigol.

“Es i ar daith Erasmus i Tenerife gyda’r coleg yn ddiweddar. Roedd yn gwrs byr er mwyn datblygu ein sgiliau ffotograffiaeth a phrofi diwylliannau eraill a dysgu amdanynt. Rwy’n hoff o’r rhyddid y mae’r athrawon yn ei roi i ni ac maent yn gymwynasgar iawn hefyd.”

Chwaraeon

SportMae gan Lowri Stephens angerdd am bêl-rwyd ac mae’n dymuno ennill gradd mewn Chwaraeon felly dewisodd astudio ar y cwrs Diploma mewn Datblygu a Hyfforddi Chwaraeon a Ffitrwydd.

“Nid wyf yn hoffi arholiadau felly dewisais gwrs BTEC. Mae’r coleg yn wahanol i’r ysgol, mae’r tiwtoriaid yn gefnogol iawn ond rydych chi’n cael eich trin fel oedolyn yn fwy.”

Adeiladu

Construction Mae Iwan Halliday yn mwynhau ochr ymarferol ei gwrs Lefel 2 mewn Plymio.

“Rwy’n mwynhau elfen ymarferol y cwrs plymio. Mae treulio diwrnod llawn yn gwneud gwaith ymarferol a dysgu am yr holl offer a gosodiadau yn dda. Rydym yn dysgu am elfennau sylfaenol plymio – megis plygu pibau a sodro – yn ogystal ag ystafelloedd ymolchi, gosod rheiddiaduron, landeri a phibelli carthion.”

Gwyddoniaeth

ScienceAeth Mudasser Younes Yacoub i gampws Casnewydd i astudio Gwyddoniaeth Gymhwysol ar ôl meddu ar ddiddordeb mewn gwyddoniaeth ers yn ifanc iawn.

“Rydym yn dysgu am bethau y gallwn ni eu defnyddio yn ein bywydau o ddydd i ddydd. Gan ddefnyddio bioleg, gallaf helpu rhywun a defnyddio fy ngwybodaeth i wella bywydau pobl eraill ac mae hynny’n fy ngwneud yn falch.”

Darganfod eich galwedigaeth yn Â鶹´«Ã½ÍŶÓ. Gwnewch gais nawr i astudio cwrs galwedigaethol a dechreuwch ar eich taith tuag at eich gyrfa ddewisol fis Medi yma gyda’n hystod o gymwysterau llawn amser a rhan amser uwch am ddim.