27 Medi 2018
Mae’r Coleg wedi lansio Canolfan Uwch Ddeunyddiau Dennison yn swyddogol. Dyma’r ganolfan gyntaf o’i math yng Nghymru!
Agorwyd y ganolfan newydd ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent yn swyddogol heddiw gan Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, gyda chwmn茂au megis British Airways, GKN Aerospace, Zodiac Aerospace, a llawer mwy. Mae’r ganolfan, a ariannwyd yn rhannol gan Lywodraeth Cymru, wedi’i henwi ar 么l Jon Dennison, a fu farw yn 2015. Arferai Jon fod yn Gyfarwyddwr Cyswllt 芒’r Llywodraeth yn GKN Aerospace, ac roedd yn arloeswr ym maes deunyddiau cyfansawdd. Ei weledigaeth oedd creu ‘Coridor Deunyddiau Cyfansawdd’ yn ne Cymru. Ei brif nod oedd hyfforddi unigolion yn ne Cymru fel bod ganddynt arbenigedd yn y sector, gan ganolbwyntio ar oedolion ifanc o gefndiroedd dan anfantais, er mwyn iddynt wireddu eu potensial.
Bydd y Coleg yn cyflwyno’r cwrs Prentisiaeth Uwch Ddeunyddiau Cyfansawdd cyntaf yng Nghymru. Bydd myfyrwyr yn gallu astudio’r cwrs o fis Ionawr 2019 ymlaen yn y ganolfan newydd, sy’n cynnwys pedair ystafell ddosbarth.
Beth yw deunydd cyfansawdd?Mae deunydd cyfansawdd wedi’i ffurfio o ddau neu ragor o ddeunyddiau; deunyddiau sydd 芒 phriodweddau ffisegol neu gemegol gwahanol iawn i’w gilydd fel arfer. Mae’r ddau ddeunydd yn gweithio gyda’i gilydd i roi priodweddau unigryw i’r deunydd cyfansawdd. Mae’r enghreifftiau o ddeunyddiau cyfansawdd yn cynnwys ffibr carbon, concrid cyfnerth a metelau a ddefnyddir mewn ceir rasio, ciwbiclau cawodydd a phontydd, a llawer iawn mwy.
Mae sector deunyddiau cyfansawdd Cymru yn werth 拢2.3 biliwn, ond mae ganddo’r potensial i dyfu i fod yn werth 拢12 biliwn erbyn 2030.
Mae gan ein myfyrwyr brofiad blaenorol o weithio gyda deunyddiau cyfansawdd gan eu bod wedi helpu i adeiladu car rasio y Coleg fel rhan o’u cwrs; byddant hefyd yn dysgu sut i gynnal a chadw a thrin y car ar y trac ac yn yr ystafell ddosbarth.
Dywedodd John Sexton, Cyfarwyddwr Campws Parth Dysgu Blaenau Gwent: “Ry’n ni’n falch iawn o gael bod y coleg cyntaf yng Nghymru, a’r pedwerydd coleg yn y DU, i gynnig y cwrs ‘Cyflwyniad i Ddeunyddiau Cyfansawdd’ i fyfyrwyr.
“Ry’n ni wedi bod yn cydweithio’n agos 芒’r Ganolfan Deunyddiau Cyfansawdd Genedlaethol ar gynnwys y cwrs a’r offer sydd ei angen, fel y gall y myfyrwyr fod yn hyderus eu bod yn dysgu’r technegau diweddaraf.”
Cyn cyflwyno’r cwrs i fyfyrwyr o fis Ionawr ymlaen, mae cwmni Zodiac Aerospace yng Nghwmbr芒n wedi cofrestru rhai aelodau o’i staff i dreialu’r cwrs, er mwyn uwchsgilio ei beirianwyr a’i weithwyr llawr gwaith.
“Ry’n ni’n ddiolchgar i Zodiac Aerospace Ltd, sydd wedi darparu ein carfan gyntaf o fyfyrwyr. Yn sicr, byddwn yn parhau i gydweithio’n agos 芒’r cwmni. Ein bwriad yw cyflwyno’r cwrs i gwmn茂au eraill yn y dyfodol agos, felly cadwch olwg am fwy o newyddion gennym cyn hir”, ychwanegodd John.