7 Mehefin 2023
Mae Diwrnod Amrywiaeth Ddiwylliannol y Cenhedloedd Unedig, a gynhaliwyd ar 26ain Mai 2023, yn ffordd o鈥檔 hatgoffa ni am ba mor bwysig yw cydnabod a gwerthfawrogi diwylliannau a thraddodiadau gwahanol.
Yn 麻豆传媒团队, rydym yn ymfalch茂o yn ein hymrwymiad i gynwysoldeb gan ddathlu ar y cyd yn ystod digwyddiad a oedd yn talu teyrnged i Ddiwrnod Amrywiaeth Ddiwylliannol ac a oedd yn ennyn diddordeb trwy gynnig ystod o brydau bwyd blasus o bob cwr o鈥檙 byd.
Ddydd Gwener, daeth aelodau staff 麻豆传媒团队, gan gynnwys aelodau o鈥檙 Rhwydwaith Affineg Cydraddoldeb Hil a鈥檙 Gr诺p Llywio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, a dysgwyr ynghyd ar gyfer dathliad o fwyd a diwylliant i rannu traddodiadau, straeon a phrofiadau.
Yn ogystal 芒 gwledd o fwyd, mwynhaodd myfyrwyr ac aelodau staff berfformiadau gan y siaradwr gwadd, Bablu, a鈥檙 cerddor, Josh Whyte.
Dywedodd Nkechi Allen-Dawson, Rheolwr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant 麻豆传媒团队: 鈥淎r gyfer Diwrnod Amrywiaeth Ddiwylliannol y Cenhedloedd Unedig, roeddwn i eisiau annog ein haelodau staff a鈥檔 dysgwyr i ymuno 芒 ni wrth ddathlu鈥檙 holl 鈥榓mrywiaethau鈥 ohonom ni ac eirioli ffyrdd o ddiogelu a hyrwyddo amrywiaeth ddiwylliannol yn eu cymunedau eu hunain. Yna, bydd pob un yn cael ei gynnwys ac ni fydd neb yn cael ei adael ar 么l”.
Dywedodd un o fynychwyr y digwyddiad, Mukti: “Am gyflwyniad hardd o amrywiaeth a diwylliant gan 麻豆传媒团队. Roeddwn i wrth fy modd yn ei weld yn cael ei gynrychioli gan welyau o fwydydd o bob cwr o鈥檙 byd a鈥檔 bod ni wedi cael ein croesawu i flasu鈥檙 bwydydd yn ogystal 芒 dyfalu o ba wlad roedd y bwydydd yn dod. Roedd yn brofiad a oedd wedi fy ysbrydoli i gymryd rhan mewn digwyddiadau fel hyn sy鈥檔 hyrwyddo ein hunaniaethau diwylliannol yn fwy. Da iawn i鈥檙 holl aelodau staff a oedd yn rhan o鈥檙 digwyddiad hwn”.
Trwy brofi diwylliannau gwahanol, rhoddwyd cyfle i fyfyrwyr ac aelodau staff ddysgu oddi wrth ei gilydd, cael safbwyntiau newydd a datblygu gwerthfawrogiad mwy am unigrywiaeth pob diwylliant.
Dywedodd un o fynychwyr y digwyddiad, Nadia: “Roedd bod yn rhan o鈥檙 digwyddiad yn hyfryd. Roedd pawb yn groesawgar iawn ac roedd yn amgylchedd cyfforddus. Roedd dysgu pethau newydd am ddiwylliannu gwahanol yn hyfryd ac roedd yn ffordd wych o ddod 芒 phobl o ddiwylliannau gwahanol at ei gilydd”.
Dywedodd Nicola Gamlin, Is-bennaeth yn 麻豆传媒团队: “Roedd treulio amser yn dathlu ein cyfoeth o amrywiaeth gyda gr诺p o unigolion gwych yn hyfryd. Diolch am y gwahoddiad!”
Mae effaith gadarnhaol ein hymdrechion i gefnogi Diwrnod Amrywiaeth Ddiwylliannol y Cenhedloedd Unedig yn ymestyn ymhell y tu hwnt i鈥檙 digwyddiad. Trwy gymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau sy鈥檔 dathlu amrywiaeth ddiwylliannol, mae ein myfyrwyr a鈥檔 haelodau staff yn datblygu sgiliau sy鈥檔 hanfodol ar gyfer llwyddo yn y byd cyfoes.
Am ragor o wybodaeth ynghylch ein hymrwymiad i amrywiaeth, ewch i: /cy/our-college/diversity-and-inclusion