12 Ebrill 2022
Yn 2020, dyfarnwyd y statws achrededig Safon Ansawdd mewn Cymorth i Ofalwyr (QSCS) i ni yng Ngholeg Gwent er mwyn cydnabod ein hymdrech arbennig wrth ofalu am ein gofalwyr ifanc yn y coleg. Nawr, rydyn ni鈥檔 falch o gyhoeddi ein bod ni hefyd wedi derbyn achrediad am ein gwaith parhaus wrth gefnogi ein cymuned o ofalwyr ifanc.
Nid yw llawer o ofalwyr ifanc yn ystyried eu hunain yn ofalwyr gan eu bod o鈥檙 farn eu bod yn gwneud yr hyn sy鈥檔 ddisgwyliedig ohonynt. Ond, gofalwr ifanc yw unrhyw berson o dan 18 mlwydd oed sy鈥檔 gofalu am berthynas sydd ag anabledd, cyflwr iechyd meddwl, salwch, neu broblem yn ymwneud 芒 chyffuriau/alcohol, ac oedolyn ifanc sy鈥檔 ofalwr yw rhywun rhwng 18 a 24 oed sy鈥檔 gofalu am berson arall. Gall y cymorth hwn amrywio o goginio, glanhau a gofalu am frodyr neu chwiorydd, i helpu perthynas wrth ymolchi, wrth wisgo neu wrth reoli meddyginiaeth.
Mae gofalu am berthynas yn gyfrifoldeb mawr, sy鈥檔 gallu achosi straen i ofalwr ifanc a鈥檌 wneud i deimlo鈥檔 flinedig ac ynysig. Er gwaethaf eu hymrwymiadau gofal yn y cartref, mae gan ofalwyr ifanc yr hawl i barhau 芒鈥檜 haddysg 鈥 mae鈥檔 rhan hanfodol o鈥檜 llesiant. Ond mae bod yn ofalwr yn gallu cael effaith ar waith coleg oherwydd mae鈥檔 bosib nad yw gofalwyr yn cael digon o amser i gwblhau gwaith cartref neu鈥檔 methu gwersi oherwydd eu gwaith gofalu. Rydyn ni yma yng Ngholeg Gwent er mwyn cefnogi gofalwyr ifanc i gyrraedd eu potensial.
Rydym wedi ymrwymo i鈥檆h cefnogi chi, ofalwyr ifanc, i gael mynediad at addysg, fel nad yw eich cyfrifoldebau fel gofalwyr yn tarfu ar eich cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Mae llwyddiannau addysgol a datblygiad gofalwyr ifanc yn gallu cael eu heffeithio鈥檔 sylweddol heb gefnogaeth, ac rydyn ni鈥檔 gwybod bod y pandemig wedi rhoi pwysau ychwanegol ar ein gofalwyr ifanc, gan gael effaith arwyddocaol ar eu hiechyd meddwl a鈥檜 llesiant. Ond mae ein drysau yn agored bob amser. Rydyn ni鈥檔 barod i fod yn glust i’ch profiadau, a chynnig cefnogaeth er mwyn i chi gymryd cam ymlaen.
Gallwch siarad 芒鈥檆h tiwtor personol os ydych chi angen cymorth neu gefnogaeth boed hynny o fewn neu y tu allan i鈥檙 coleg. Felly, os ydych chi’n ofalwr ifanc, gallwch hysbysu鈥檆h tiwtor personol o鈥檆h cyfrifoldebau fel gofalwr os na wnaethoch hynny eisoes wrth gofrestru. Yna, gall eich tiwtor personol gydweithio gydag Arweinydd Gofalwyr y Campws er mwyn dewis yr aelod o staff cymorth a fyddai鈥檔 gallu eich cefnogi.
Mae sawl ffordd y gallwn ni eich helpu chi, ofalwyr ifanc:
Mae鈥檙 cymorth a鈥檙 gefnogaeth ychwanegol hyn yn gwella llesiant a hunanwerth gofalwyr ifanc, ac yn eu cefnogi i fynychu鈥檙 coleg ac i ennill graddau da. Mae hyn yn hollbwysig ar gyfer gofalwyr ifanc, ac rydyn ni yn y coleg, yn falch o fod o gymorth wrth leihau鈥檙 bwlch addysgol ar gyfer gofalwyr ifanc gan gynnig cyfleoedd ychwanegol iddynt er mwyn eu galluogi i symud ymlaen at addysg uwch a chael gwaith.