麻豆传媒团队

En

Dathlu cefnogaeth a llwyddiant yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth


4 Ebrill 2024

Yn 麻豆传媒团队, rydym wedi ymrwymo i feithrin amgylchedd cynhwysol a chefnogol lle gall pob dysgwr ffynnu. Wrth i ni ddathlu Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth, hoffem daflu golau ar ymroddiad ac effaith wych staff cymorth megis Rhys Lewis a Stacey Godwin, sy鈥檔 dangos gwerthoedd ein coleg sef parch, uniondeb a chynwysoldeb.

Ers mis Medi, mae Rhys a Stacey wedi bod yn rhan hanfodol o gefnogi Kate, dysgwr ag Awtistiaeth, ar ein campws Parth Dysgu Torfaen. Mae eu hymroddiad a鈥檜 dulliau arloesol nid yn unig wedi helpu Kate i barhau 芒鈥檌 hastudiaethau ond maent hefyd wedi ei grymuso i ffynnu mewn ffyrdd a oedd yn anodd iddi ar un adeg.

Pan ddechreuodd Kate astudio yn y coleg, roedd hi yn aml yn teimlo ei bod wedi鈥檌 llethu ac roedd hi鈥檔 cau i lawr. Trwy eu rolau fel Hyfforddwr Awtistiaeth a Chydlynydd yr Ystafell Werdd, dechreuodd Rhys a Stacey weithio gyda Kate gan helpu i greu gofod cyfforddus iddi astudio yn ogystal 芒 dod o hyd i ffyrdd i鈥檞 chefnogi yn emosiynol.听

Un o鈥檙 prif strategaethau a gyflwynwyd oedd cadw dyddiadur. Ar y dechrau, roedd Kate yn betrusgar ond, cyn hir, roedd cadw dyddiadur yn adnodd hanfodol ar gyfer rheoli ei meddyliau a鈥檌 theimladau. Trwy arweiniad a chymorth Stacey, mae Kate bellach yn defnyddio ei dyddiadur yn hyderus ac mae hyd yn oed wedi cynnwys tudalen ar gyfer meddyliau cadarnhaol er mwyn llywio鈥檙 diwrnodau anodd.

Yn ogystal 芒 rhoi adnoddau i Kate reoli ei hachosion o gau i lawr, hefyd rhoddodd Rhys a Stacey ystyriaeth i sut i greu gofod astudio i Kate a oedd yn bodloni ei hanghenion. Esboniodd Kate fod eistedd ar y llawr yn fwy cyfforddus felly, gyda chymorth t卯m y llyfrgell, prynwyd matiau llawr arbennig a bwrdd symudol iddi. Mae鈥檙 matiau hyn bellach ar gael i ddysgwyr eraill eu defnyddio hefyd.

Er bod Kate wedi profi cynnydd sylweddol, mae Rhys a Stacey yn ystyried ffyrdd o roi cymorth iddi y tu allan i鈥檙 coleg. Mae Rhys a Stacey wedi gofyn am gymorth gan asiantaethau allanol i sicrhau ei bod hi鈥檔 derbyn y cymorth y mae ei angen arni yn ei chartref. Ar ben hynny, mae Stacey wedi helpu Kate i ennill r么l wirfoddoli, gan ddarparu cysondeb a sefydlogrwydd yn ystod gwyliau hanner tymor.

Yma yn 麻豆传媒团队, rydym wedi ymrwymo i greu amgylchedd cynhwysol sy鈥檔 groesawgar ac yn gefnogol ar gyfer dysgwyr ag Awtistiaeth ac aelodau staff. Mae hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant nid yn unig o fudd i鈥檔 myfyrwyr ag Awtistiaeth, mae hefyd yn cyfoethogi鈥檙 profiad dysgu i bawb.听

Wrth i ni ddathlu Wythnos Derbyn Awtistiaeth, gadewch i ni nid yn unig godi ymwybyddiaeth ond, hefyd, dathlu cyflawniadau a chyfraniadau unigolion megis Rhys, Stacey a Kate.听

Dewch o hyd i鈥檙 cymorth sydd ar gael i ddysgwyr ag Awtistiaeth yn 麻豆传媒团队 yma neu dewch i un o鈥檔 digwyddiadau agored sydd ar ddod i gyfarfod 芒鈥檔 staff cymorth.听

I gofrestru, ewch i www.coleggwent.ac.uk/agored听