麻豆传媒团队

En
Learners with gold A star balloons

Diwrnod Canlyniadau Lefel A 2020


13 Awst 2020

麻豆传媒团队 yn cyflawni'r graddau A* - C gorau erioed er gwaethaf ansicrwydd COVID

Mae gennym reswm da iawn i ddathlu heddiw gyda blwyddyn arall o ganlyniadau Lefel A rhagorol, er gwaethaf amgylchiadau heriol dosbarth 2020. Cynhaliwyd ein cyfradd lwyddo ragorol o 98%, gyda’r graddau A* – C gorau erioed, cynnydd o 2.2% yn y graddau A*/A a dysgwyr o’r ddau gampws yn sicrhau llefydd ym Mhrifysgol Caergrawnt!

Eleni mae’r canlyniadau Lefel A wedi’u seilio ar raddau wedi’u cyfrifo, gan nad oedd yn bosibl cynnal yr arholiadau oherwydd COVID-19, a gyda’r cyfyngiadau a’r mesurau ymbellhau cymdeithasol yn dal i fod yn eu lle, cafodd ein holl ddysgwyr eu canlyniadau yn electronig drwy e-bost am 8am fore heddiw.

Derbyniwyd 913 o ganlyniadau Lefel A ar draws y coleg heddiw, gyda 76% o’r rheiny yn cyflawni graddau A* – C. Rydym hefyd yn dathlu cyfradd lwyddo o 100% mewn 46 pwnc lefel A – cynnydd trawiadol o 34 pwnc y llynedd.

Mae dysgwyr ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent wedi cyflawni cyfradd lwyddo gyffredinol wych o 98% yn y graddau A *- E, tra bod myfyrwyr campws Crosskeys yn dathlu cyfradd lwyddo gyffredinol o 97%. Rydym yn hynod falch o waith caled ac ymroddiad ein dysgwyr drwy gydol pandemig COVID, wrth i’r gr诺p blwyddyn hwn wynebu heriau nad ydym wedi gweld eu tebyg o’r blaen.

Dywedodd y Pennaeth, Guy Lacey: “Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr ar eu canlyniadau ardderchog eleni – rydym yn hynod falch o’ch gwaith caled a’ch cyflawniadau! Mae’r gr诺p blwyddyn hwn wedi wynebu heriau nad ydym wedi gweld eu tebyg o’r blaen yn sgil COVID-19, ond fel coleg sy’n canolbwyntio ar ddatrysiadau, rydym wedi ymgymryd 芒’r her yn llwyddiannus i barhau 芒 dysg drwy gydol y pandemig, ac yn sicr mae hynny i’w weld yn glir yng nghanlyniadau Lefel A eleni gyda’n graddau A* – C gorau erioed!

Bydd gwaith caled ac ymroddiad dosbarth 2020 yn fantais iddynt ar gyfer eu camau nesaf ar 么l y coleg. Dymunwn bob lwc iddynt ar gyfer y dyfodol”.

Rhagor am ddosbarth 2020 麻豆传媒团队:

Campws Crosskeys

Emily Curtis-JonesGydag uchelgais o ddod yn feddyg paediatrig, astudiodd Emily Curtis-Jones o Goed-duon Cemeg, Mathemateg, Bioleg a Bagloriaeth Cymru ar gampws Crosskeys a heddiw mae’n dathlu cyflawni graddau trawiadol, A a 3 B!

Mae’r coleg wedi helpu Emily i weithio tuag at ei nod ac ennill profiad gwaith gwerthfawr, ac mae hi bellach yn edrych ymlaen at astudio Biocemeg Feddygol ym Mhrifysgol Caerl欧r. Eglurodd:

“Mae athrawon 麻豆传媒团队 yn hynod barod i helpu. Roedd y gefnogaeth a gefais ganddynt yn rhagorol ac roedd y profiad gwaith yn Neville Hall ac Ysbyty Brenhinol Gwent yn amhrisiadwy, ac yn atgyfnerthu fy newis gyrfa. Rwyf wedi cael nifer o gyfleoedd yn y coleg ac wedi mwynhau fy nwy flynedd yno yn fawr iawn – edifar gennyf bod fy nghyfnod yno wedi dod i ben mor fuan. Rwyf wedi gwneud ffrindiau gwych a chefais brofiad cadarnhaol iawn.”

 

Dylan BevanDylan Bevan o Oakdale ar ben ei ddigon gyda’i 2A* a 2A mewn Mathemateg, Bioleg, Cemeg a Ffiseg, sy’n golygu y bydd yn mynd ymlaen i astudio Meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd fis Medi, gyda nod hirdymor o ddod yn llawfeddyg.

Dywedodd: “Mae COVID-19 wedi cael effaith enfawr ar flwyddyn olaf fy astudiaethau wrth i fy nysg ddod i ben yn sydyn ac ni chefais sefyll fy arholiadau terfynol, a oedd yn ysgytwad.”

“Ond mae’r coleg wedi bod yn dryloyw yngl欧n 芒’r sefyllfa a’r hyn sy’n digwydd, sydd wedi tawelu fy meddwl. Mae’r holl athrawon ar gampws Crosskeys yn rhagorol a diolch iddyn nhw y cefais amser pleserus iawn yn y coleg. Roedd pob athro a gefais yn gefnogol iawn a bob amser yn barod i helpu os oeddwn yn ei chael hi’n anodd.”

 

Sophie LongYn llawn cyffro yn mynd tua Phrifysgol Caergrawnt fis Medi, mae Sophie Long o Argoed yn dathlu cyflawni canlyniadau rhyfeddol, 3 A* mewn Llenyddiaeth Saesneg, y Gyfraith a Hanes!

Eglurodd: “Gyda’r gobaith o fynychu prifysgol sy’n cael ei hadnabod ar draws y byd, mae diwrnod canlyniadau yn achosi pryder ond hefyd yn gychwyn ar bennod newydd unigryw i mi.”

“Mae 麻豆传媒团队 wedi bod yn gam defnyddiol i fagu fy ymdrechion i gyflawni hyn, ac roedd gwneud cais mynediad cynnar i Gaergrawnt yn dangos pa mor ymroddedig yw’r coleg i lwyddiant ei fyfyrwyr. Ar y cyfan, yr agwedd fwyaf cadarnhaol ar y coleg yw’r rhwydwaith cefnogaeth a gafodd ei gynnig i mi fel myfyrwraig ymroddedig ac uchelgeisiol!”

 

Campws Blaenau Gwent

Alicia PowellAlicia Powell yw’r dysgwr cyntaf erioed o Barth Dysgu Blaenau Gwent i sicrhau lle ym Mhrifysgol Caergrawnt i astudio Llenyddiaeth Saesneg!

Gyda graddau ardderchog ym mhob pwnc – A* a 3A – mae hi’n edrych ymlaen at ei dyfodol. Roedd diwrnod canlyniadau yn destun pryder i Alicia gan na allodd baratoi ar gyfer arholiadau, a oedd yn siom iddi, ond mae ar ben ei digon gyda’i graddau ac yn teimlo bod ei gwaith caled wedi talu ar ei ganfed.

Dywedodd: “Rwyf wrth fy modd gyda fy nghanlyniadau ac ni allaf ddisgwyl mynd i Gaergrawnt. Y peth gorau am 麻豆传媒团队 yw’r cyfle am ddysg unigol, gan fod hynny wedi fy mharatoi ar gyfer fy ngham nesaf ar 么l coleg.”

 

Mackenzie MorganCafodd Mackenzie Morgan o Lynebwy gymorth gan 麻豆传媒团队 i fagu hyder a datblygu nifer o sgiliau defnyddiol i hybu ei chyflogadwyedd a sicrhau lle ym Mhrifysgol Caerwysg.

Mae hi’n hynod falch o fod wedi cyflawni 3 A yn y Gyfraith, Drama a Seicoleg a’i nod ar gyfer y dyfodol yw dod yn gyfreithiwr.

Heblaw am gefnogaeth academaidd, dywedodd Mackenzie: “Mae’r cyfleoedd sy’n cael eu cyflwyno gan 麻豆传媒团队 yn hynod ddefnyddiol ar gyfer fy nyfodol a’m helpu i ystyried fy nghyfleoedd addysgol ar 么l y coleg.”

“Credaf fod y cyflwyniadau a roddwyd yn y coleg yn ddefnyddiol yn ystod fy nghais UCAS ac mae’r cyfleoedd addysgol a roddwyd gan 麻豆传媒团队 yn rhyfeddol, ac yn berffaith i fyfyrwyr sy’n ansicr yngl欧n 芒’u dyfodol.”

 

Katie Stokes with Mum Helena StokesAstudiodd Katie Stokes o Abertyleri ystod o Lefelau A ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent, gan gynnwys Mathemateg, Addysg Gorfforol a Seicoleg.

Er iddi gael cynnig diamod gan ei dewis cyntaf, sef Prifysgol Abertawe, roedd yn teimlo’n bryderus am ddiwrnod canlyniadau a’i gobaith oedd y byddai ei graddau yn adlewyrchu ei gwaith caled yn ei hastudiaethau.

Heddiw, mae Katie wrth ei bodd o gyflawni 2 A* ac A yn ei Lefelau A ac yn teimlo’n gyffrous am fynd ymlaen i astudio Mathemateg yn y brifysgol fis Medi.聽 Dywedodd: “Y peth gorau am astudio yn 麻豆传媒团队 yw’r tiwtoriaid a’r gefnogaeth maent yn ei darparu.

Mae gennyf berthnasau cryf gyda fy nhiwtoriaid ac roeddynt bob amser ar gael i fy helpu neu fy annog i anelu’n uwch.”

 

Martyna NawrockaGydag angerdd am bynciau STEM, cafodd Martyna Nawrocka o Dredegar ddewis o amrywiaeth difyr o bynciau Lefel A ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent.

Heddiw, cyflawnodd A*AB mewn Mathemateg, Bioleg ac Addysg Gorfforol, gan agor y drws iddi i radd Bioleg ym Mhrifysgol Caerfaddon.

Eglurodd Martyna: “Y peth gorau am astudio yn 麻豆传媒团队 yw cael defnyddio’r adnoddau gwych sydd ar gael. Mae gan y llyfrgell yr holl lyfrau angenrheidiol ar gyfer pob cwrs.”

“Yn ogystal, mae’r staff bob amser yn fodlon helpu gydag ymholiadau ar unrhyw bryd, ac mae’r coleg yn cynnig cyfarpar a chyfleusterau arbenigol ar gyfer gwaith ymarferol, gan eich caniat谩u chi i gynnal arbrofion yn broffesiynol.”

 

Hannah JamesI Hannah James o Lynebwy, byddai diwrnod canlyniadau yn penderfynu ym mha brifysgol y bydd hi’n astudio ym mis Medi.

Ar 么l gweithio’n galed tu hwnt, cyflawnodd ganlyniadau gwych – 2 A*, gan sicrhau lle i astudio Gradd Meistr integredig mewn Mathemateg ym Mhrifysgol St Andrews.

Mae’r coleg wedi helpu Hannah i dyfu mewn sawl ffordd. Dywedodd: “Mae astudio yn 麻豆传媒团队 wedi rhoi’r cyfle i mi ddatblygu fy sgiliau astudio annibynnol a’m hyder, a fydd yn hanfodol ar gyfer fy nyfodol fel myfyrwraig prifysgol a chyflogai.”

 

Dychwelodd Maggie Smith i’r coleg fel dysgwr aeddfed yn 53 oed i ddilyn ei diddordeb mewn Ffotograffiaeth fel Lefel A.

Dywedodd bod 麻豆传媒团队 yn groesawgar a bod y staff yn barod iawn i helpu, gan egluro: “Bu iddynt wneud i mi deimlo’n gartrefol ac roeddynt bob amser yn agos atoch, croesawgar a chyfeillgar, ac fe gafodd staff y llyfrgell gynhwysfawr argraff arnaf. Mae ystod arbennig yno, ac nid llyfrau a chylchgronau yn seiliedig ar y pwnc cynradd yn unig, ond yn seiliedig ar sgiliau astudio ac ysgrifennu hefyd – sy’n ddefnyddiol iawn i ddysgwr sy’n ail-gydio ym mhethau.”

Mae cyflawni gradd A* mewn Ffotograffiaeth Lefel A wedi rhoi hwb i hyder Maggie ac wedi bod o fudd i’w chyflogaeth gyfredol ac ar gyfer y dyfodol.

Llongyfarchiadau i’n dosbarth 2020 sydd wedi wynebu heriau heb eu tebyg yn ystod eu blwyddyn Lefel A, a phob lwc ar gyfer eich cam nesaf, boed hynny’n astudiaeth bellach neu gyflogaeth!

Gydag ystod o gyrsiau Addysg Uwch ar gael yn 麻豆传媒团队, nid yw’n rhy hwyr gwneud cais nawr i ymuno ag un o golegau gorau Cymru fis Medi.