麻豆传媒团队

En
Reasons your business should take on an apprentice

5 rheswm pam y dylai eich busnes gyflogi prentis


6 Chwefror 2023

Ydych chi erioed wedi meddwl am gymryd prentis?

Mae yna reswm pam fo , o gymharu 芒 sefydliadau eraill, yn argymell cyflogi prentis! Yn wir, gallai ddod 芒 llawer o fanteision i’ch busnes a’ch prentis. Felly, darllenwch ymlaen i ganfod rhai rhesymau allweddol pam y dylai eich busnes ystyried cymryd prentis…

1. Mae cyllid ar gael

Wyddech chi, fel cyflogwr, y gallech fod yn gymwys i gael cymorth ariannol gan y llywodraeth i ariannu prentis? P鈥檜n a yw hynny鈥檔 golygu cyflogi aelod newydd o staff, neu ddysgu sgiliau ychwanegol i weithiwr presennol, mae prentisiaeth yn opsiwn cost-effeithiol sydd o fudd i鈥檆h sefydliad ac i鈥檆h prentis. Mae鈥檔 ffordd wych o ddatblygu鈥檙 sgiliau sydd eu hangen arnoch yn eich busnes a hyfforddi鈥檆h gweithlu ar gyfer y dyfodol heb iddo fod yn ddrud i chi. Ar yr un pryd, mae hyfforddiant yn y gwaith yn helpu i gadw’ch gweithwyr yn llawn cymhelliant ac yn eu helpu i ddatblygu eu gyrfaoedd a’u sgiliau eu hunain hefyd.

2. Mynd i’r afael 芒 bwlch mewn sgiliau

Cred , nifer uchel iawn, bod prentisiaethau wedi bod yn fodd iddynt ddatblygu sgiliau hanfodol sy鈥檔 berthnasol i鈥檞 busnes. Felly, os ydych wedi nodi bwlch yn sgiliau eich gweithlu, gallwch fynd i鈥檙 afael 芒 hynny gyda phrentisiaeth. Gallwch ddatblygu eich gweithlu presennol neu gyflogi gweithwyr newydd drwy gynllun prentisiaeth, er mwyn ennill y sgiliau, y wybodaeth a’r arbenigedd sydd eu hangen arnoch i’ch sefydliad ffynnu. Gallwch hyfforddi rhywun trwy gynllun prentisiaeth a llywio鈥檙 hyn a ddysgant. Fel hyn, bydd modd i chi deilwra eu sgiliau i gyd-fynd ag anghenion eich busnes a llenwi’ch bwlch sgiliau!

Reasons your business should take on an apprentice

3. Cael persbectif newydd

Gyda datblygiadau newydd a thechnoleg newydd ar draws pob sector, mae gofyn i chi sicrhau bod gan eich gweithlu’r wybodaeth, y sgiliau a’r technegau diweddaraf i gadw i fyny 芒’ch cystadleuwyr a chynnal y safonau uchel y mae eich cwsmeriaid yn eu disgwyl. Gall prentis ddod 芒 golwg newydd, ffres i鈥檆h cwmni, gan gynnwys syniadau newydd, yr hyn y maent wedi鈥檌 ddysgu a鈥檙 technegau diweddaraf, a鈥檙 wybodaeth ddiweddaraf am y sector. Ond yn fwy na hynny, gallant rannu’r hyn y maent wedi鈥檌 ddysgu er budd eich gweithlu cyfan a rhoi iddynt y wybodaeth ddiweddaraf am y maes hefyd! Bydd eich prentis yn defnyddio鈥檙 hyn y mae鈥檔 ei ddysgu yn yr ystafell ddosbarth wrth ei waith bob dydd, gan helpu i ddod 芒 phersbectif newydd a diogelu eich busnes at y dyfodol.

4. Gwella eich enw da

Mae prentisiaethau鈥檔 addas ar gyfer pobl ar sawl cam yn eu gyrfa. Felly, p鈥檜n a yw hynny鈥檔 berson ifanc sy鈥檔 gadael yr ysgol neu鈥檔 weithiwr aeddfed, mae yna lefel o brentisiaeth at ddant pawb. Golyga hyn y gallwch helpu pobl o bob oed i gael hyfforddiant a chyflogaeth ystyrlon, gan gael effaith gadarnhaol ar eich cyfrifoldeb cymdeithasol, corfforaethol. Nid llwybr i bobl ifanc 16 oed gael hyfforddiant yn y gwaith yn unig yw prentisiaeth; yn hytrach, mae, hefyd, ar gael i oedolion symud ymlaen yn y gweithle. Felly, gallwch gyflwyno wynebau newydd i’ch sefydliad a’u hyfforddi i’r safon sydd ei hangen arnoch neu roi i staff sydd eisoes yno yr hyn sydd eu hangen arnynt i ddringo’r ysgol yrfa. Byddwch yn sicrhau enw da fel cyflogwr gwych sy’n cyflwyno sgiliau ychwanegol i bobl leol.

Reasons your business should take on an apprentice

5. Rhoi Hwb i waith cynhyrchu

Mae prentisiaid wedi cael effaith gadarnhaol ar gynhyrchiant i gyda phrentisiaeth gyffredin yn cynyddu cynhyrchiant busnes 拢214 yr wythnos! Mae yna ddau reswm am hyn, hefyd. Nid yn unig y mae hyfforddiant yn helpu staff i ddod yn fwy cymwys a hyfedr yn eu gwaith, ond gall prentis hefyd ryddhau amser fel bod staff uwch yn canolbwyntio ar feysydd allweddol o鈥檜 gwaith, tra bod y prentis yn gofalu am dasgau bob dydd i weithio tuag at ei gymhwysedd sgiliau. Mae’n rhoi cyfle i brentisiaid ddysgu sylfeini allweddol eu crefft, tra bod staff uwch yn sianelu eu hymdrechion i mewn i brosiectau pwysig sy’n sicrhau’r adenillion holl bwysig hynny o fuddsoddi!

Gyda鈥檙 holl resymau hyn i ysbrydoli cyflogwr i gyflogi prentis, does ryfedd ei fod yn opsiwn mor boblogaidd i gyflogwyr. Os yw prentisiaeth yn swnio鈥檔 opsiwn delfrydol i鈥檆h sefydliad chi, cysylltwch heddiw i gael gwybod mwy am gyflogi prentis trwy Goleg Gwent!