RTITB Tryc Codi Gwrthbwyso (Categori B1) - Gweithredwr Profiadol
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Oddi ar y safle
Sector
Trafnidiaeth a Logisteg
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Hyblyg
Yn gryno
Bydd y cwrs hyfforddi gweithredwr Tryc Codi Gwrthbwyso (y cyfeirir ato'n aml fel fforch godi) yn rhoi'r sgiliau i chi weithredu'r tryc codi yn ddiogel ac yn effeithlon, cynnal archwiliad cyn-ddefnydd, ac atgofio ac egluro achosion ansefydlogrwydd y tryc codi a鈥檙 llwyth.
Yn dilyn cyflawniad llwyddiannus byddwch yn cael trwydded achrededig gan yr RTITB (Road Transport Industry Training Board), sy'n eich galluogi i yrru peiriannau o hyd at 5 tunnell o bwysau.
Mae鈥檙 cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy鈥檔 cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sydd 芒 ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy鈥檔 addas i鈥檞 ffordd o fyw presennol.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
...unrhyw un dros 19 oed sy'n byw yng Nghymru, mewn cyflogaeth ac yn ennill llai na 拢32,371 y flwyddyn.
... unrhyw un sy'n chwilio am yrfa o fewn y sectorau diwydiannol neu logisteg, lle defnyddir tryciau codi yn rheolaidd
... unigolion sydd eisoes 芒 thrwydded cerbyd nwyddau mawr ac sydd am uwchsgilio eu cymhwyster
... gweithredwyr ar lefel brofiadol o sgiliau
Cynnwys y cwrs
Trwy gydol y cwrs byddwch yn astudio鈥檙 meysydd pwnc canlynol:
- Cyfrifoldebau gweithredwyr o dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974, PUWER 98 a LOLER 98
- Cod Diogelwch Gweithredwyr
- Ail-wefru neu ail-lenwi Ffyrch Codi Gwrthbwyso Disel, Nwy neu Drydan
- Gwiriadau cyn-ddefnydd
- Ffactorau sy'n effeithio ar sefydlogrwydd
- Rheolaethau symudol a hydrolig y Fforch Godi Gwrthbwyso
- Symud y Fforch Godi godi mewn mannau agored a chyfyng
- Pentyrru ar wahanol lefelau
- Dad-bentyrru gyda phaledi llwythog a di-lwyth
- Gweithio i mewn ac allan o racio gyda'r Fforch Godi Gwrthbwyso
Bydd gofyn i chi basio prawf theori ac asesiad ymarferol er mwyn cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus.
Gofynion Mynediad
Lefel sylfaenol o sgiliau darllen ac ysgrifennu Saesneg.
Argymhellir esgidiau diogelwch, ond nid yw hyn yn orfodol. Gan fod rhywfaint o hyfforddiant yn cael ei gwblhau yn yr awyr agored fe'ch cynghorir i wisgo'n briodol ar gyfer y tywydd.
Gwybodaeth Ychwanegol
Cwblheir y cwrs hyfforddi Gweithredwyr Profiadol dros 3 ddiwrnod.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
MPLA0160AA
Oddi ar y safle
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a鈥檜 canslo os tybir nad yw鈥檔 bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu鈥檔 ansicr ai hwn yw鈥檙 cwrs addas i chi?
Cysylltwch 芒 ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.