Â鶹´«Ã½ÍŶÓ

En

CompTIA Hanfodion TG CompTIA

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol

Dull Astudio
Dull Astudio
Dosbarth Rhithwir Mae astudio'n gyfwerth â chyrsiau ystafell ddosbarth wyneb yn wyneb, ond fe'i cyflwynir mewn amgylchedd ar-lein.
Lleoliad

Lleoliad
Hyblyg

Sector

Sector
Cyfrifiadura a Thechnolegau Digidol

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Yn gryno

Mae CompTIA yn ffynhonnell wybodaeth annibynnol, niwtral o ran gwerthwyr, ar gyfer amrywiaeth eang o bynciau technoleg, yn cynnwys seiberddiogelwch; addysg, hyfforddiant ac ardystio’r gweithlu technoleg byd-eang; technolegau newydd a datblygol; deddfwriaethau a pholisïau sy’n effeithio ar y diwydiant a data’r gweithlu, datblygiadau a thueddiadau.

Bydd y cwrs hwn yn eich helpu i benderfynu ai gyrfa yn y maes TG yw’r dewis iawn i chi, gan eich helpu hefyd i ddeall y sector yn well; felly, mae’n gwrs delfrydol i weithwyr proffesiynol annhechnegol.

Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sydd â ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy’n addas i’w ffordd o fyw presennol.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

... unrhyw un dros 19 oed, sy'n byw yng Nghymru ac sy’n gweithio. Nid yw'r terfyn cyflog o £32,371 yn berthnasol i'r cwrs hwn.

…y rhai sy’n awyddus i ddatblygu gwybodaeth dda a meithrin sgiliau sylfaenol mewn TG

Cynnwys y cwrs

Cyflwynir y cwrs hwn gan ystafell ddosbarth rithwir. Mae ystafelloedd dosbarth rhithwir yn cyfateb i gyrsiau ystafell ddosbarth wyneb yn wyneb, ond yn cael eu cyflwyno mewn amgylchedd ar-lein. Hyd y Cwrs: 3 diwrnod Mae cwrs Hanfodion TG CompTIA+ yn darparu sgiliau a gwybodaeth TG sylfaenol, ac yn creu pwynt mynediad i ardystiadau CompTIA pellach, mwy datblygedig fel A+, Network+ a Security+.

Drwy gydol y cwrs byddwch yn ymdrin â’r pynciau canlynol:

  • Cysyniadau a Therminoleg TG
  • Seilwaith
  • Cymwysiadau a Meddalwedd
  • Datblygu Meddalwedd
  • Hanfodion Cronfeydd Data
  • Diogelwch

Gofynion Mynediad

Nid oes yna unrhyw ofynion ffurfiol, ond byddwch angen diddordeb brwd yn y pwnc.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bwriad y rhaglen PLA yw darparu cyngor ac arweiniad gyrfa o safon i gyfranogwyr cyn, yn ystod ac ar ôl eu dysgu.

Cyn i chi gofrestru ar eich cwrs a ariennir gan PLA, bydd cynllun dysgu unigol yn cael ei drafod gyda chi i sicrhau bod y dysgu cywir wedi'i ystyried.

Bydd hyn yn cynnwys trafodaeth gyffredinol ar y pynciau canlynol:

  • addysg ffurfiol neu gymwysterau mewn meysydd cysylltiedig
  • profiad blaenorol o fewn y diwydiant neu faes
  • dyheadau gyrfa
  • ymroddiad o amser sydd ei angen mynediad i'r rhyngrwyd, cyfrifiadur windows a gwe-gamera/meicroffon

Bydd hyn hefyd yn cynnwys trafodaeth benodol ar y meysydd isod ar gyfer y cwrs hwn:

  • unrhyw brofiad blaenorol o lywio cyfrifiadur – e.e. sgiliau llygoden a bysellfwrdd

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio CompTIA Hanfodion TG CompTIA ?

MPLA0137AA
Hyblyg

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.