Â鶹´«Ã½ÍŶÓ

En

IEMA Tystysgrif mewn Rheolaeth Amgylcheddol

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol

Dull Astudio
Dull Astudio
Dosbarth Rhithwir Mae astudio'n gyfwerth â chyrsiau ystafell ddosbarth wyneb yn wyneb, ond fe'i cyflwynir mewn amgylchedd ar-lein.
Lleoliad

Lleoliad
Oddi ar y safle

Sector

Sector
Sero Net a Chynaliadwyedd

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Yn gryno

Hoffech chi ddatblygu eich sgiliau arweinyddiaeth amgylcheddol i yrru newid ar lefel uwch? Efallai yr hoffech chi wella eich set sgiliau a chymhwyso fel ymarferydd amgylcheddol cymwys.

IEMA yw’r corff proffesiynol ar gyfer pawb sy’n gweithio ym meysydd yr amgylchedd a chynaliadwyedd. Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi chi i wneud gwahaniaeth cadarnhaol fel ymarferydd cynaliadwyedd. Mae’r cwrs yn ddelfrydol ar gyfer unrhyw un sy’n dymuno uwchraddio ei aelodaeth IEMA i Lefel Ymarferydd (PIEMA) ac Ymarferydd Amgylcheddol Cofrestredig (REnvP).

Mae sylabws cwrs Tystysgrif IEMA mewn Rheolaeth Amgylcheddol yn cynnwys ystod eang o faterion amgylcheddol a chynaliadwyedd er mwyn eich galluogi chi i ddod yn ymarferydd sy’n gallu gyrru newid mewn sefydliadau. Caiff ymagwedd ymarferol ei mabwysiadu i alluogi i sefydliadau wella eu perfformiad amgylcheddol a lleihau eu heffeithiau, yn strategol ac yn weithredol.

Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sydd â ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy’n addas i’w ffordd o fyw presennol (yn amodol ar gymhwysedd).

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

... unrhyw un 19+ oed, sy’n byw yng Nghymru, sydd mewn cyflogaeth. Nid yw’r uchafswm cyflog arferol o £32,371 yn berthnasol ar gyfer y cwrs hwn.

 ... unrhyw un y mae angen iddo gael dealltwriaeth ddwysach o egwyddorion rheolaeth amgylcheddol, gan gynnwys y rhai sydd wedi ennill Tystysgrif Sylfaen IEMA sy’n dymuno symud eu gyrfa ymlaen yn y sector hwn.

Cynnwys y cwrs

Cyflwynir y cwrs hwn gan ystafell ddosbarth rithwir. Mae ystafelloedd dosbarth rhithwir yn cyfateb i gyrsiau ystafell ddosbarth wyneb yn wyneb, ond fe'u cyflwynir mewn amgylchedd ar-lein. Hyd y Cwrs: 15 diwrnod fel 3 wythnos hollt

Cyflwynir y cwrs fel a ganlyn:

UNEDAU

Modiwl 1 – Gwybodaeth sylfaenol am gynaliadwyedd, busnes a llywodraethu

Modiwl 2 – Egwyddorion amgylcheddol, polisi a deddfwriaeth

Modiwl 3 – Rheolaeth amgylcheddol, adnoddau asesu a sgiliau

ASESIADAU Mae tri aseiniad sy’n seiliedig ar wybodaeth ar gyfer pob modiwl a addysgir. Mae hyn ar ffurf dogfen ysgrifenedig ar gyfer pob un o’r tri modiwl, i’w cwblhau ar ddiwedd pob modiwl o’r cwrs.

Yna, bydd angen i chi gwblhau Asesiad Cymhwysedd sy’n seiliedig ar brofiad gwaith; byddwch chi’n sefyll hwn ar ôl llwyddo i gwblhau pob modiwl arall. Trwy wneud hyn, byddwch chi’n cymhwyso ar gyfer Aelodaeth Ymarferydd IEMA (PIEMA).

Gofynion Mynediad

Tystysgrif Sylfaen IEMA neu wybodaeth/profiad ym maes Cynaliadwyedd.

Bydd angen mynediad i'r rhyngrwyd, cyfrifiadur windows a gwe-gamera/meicroffon arnoch

Gwybodaeth Ychwanegol

Bwriad y rhaglen PLA yw darparu cyngor ac arweiniad gyrfa o safon i gyfranogwyr cyn, yn ystod ac ar ôl eu dysgu.

Cyn i chi gofrestru ar eich cwrs a ariennir gan PLA, bydd cynllun dysgu unigol yn cael ei drafod gyda chi i sicrhau bod y dysgu cywir wedi'i ystyried. Bydd hyn yn cynnwys trafodaeth gyffredinol ar y pynciau canlynol:

  • addysg ffurfiol neu gymwysterau mewn meysydd
  • cysylltiedig profiad blaenorol o fewn y diwydiant neu faes
  • dyheadau gyrfa
  • ymroddiad o amser sydd ei angen

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio IEMA Tystysgrif mewn Rheolaeth Amgylcheddol?

MPLA0130AA
Oddi ar y safle

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.