麻豆传媒团队

En

Lean Six Sigma Rhithwir Ar-lein - Cwrs hyfforddiant Lean Six Sigma - Gwregys Melyn

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol

Dull Astudio
Dull Astudio
Dosbarth Rhithwir Mae astudio'n gyfwerth 芒 chyrsiau ystafell ddosbarth wyneb yn wyneb, ond fe'i cyflwynir mewn amgylchedd ar-lein.
Lleoliad

Lleoliad
Hyblyg

Sector

Sector
Busnes, Cyllid a Rheoli

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Yn gryno

Mae'r cwrs Lean Six Sigma (Gwregys Melyn) wedi'i greu ar gyfer unigolion a busnesau sy'n ceisio gweithredu methodoleg Lean Six Sigma yn eu prosiectau a'u cyfrifoldebau gwaith.

Mae鈥檙 cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy鈥檔 cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sydd 芒 ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy鈥檔 addas i鈥檞 ffordd o fyw presennol.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

... unrhyw un dros 19 oed, sy'n byw yng Nghymru, mewn cyflogaeth ac yn ennill llai na 拢32,371 y flwyddyn.

... unrhyw un sydd eisiau dysgu'r sgiliau a'r technegau sydd eu hangen i allu gweithio'n hyderus mewn t卯m sy'n canolbwyntio ar wella ansawdd, effeithlonrwydd a phrosesau o fewn sefydliad.

Cynnwys y cwrs

Cyflwynir y cwrs hwn gan ystafell ddosbarth rithwir. Mae ystafelloedd dosbarth rhithwir yn cyfateb i gyrsiau ystafell ddosbarth wyneb yn wyneb, ond yn cael eu cyflwyno mewn amgylchedd ar-lein.

Hyd y Cwrs: 2 ddiwrnod

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys:

  • Egwyddorion Sylfaenol Lean a Six Sigma
  • Manteision cymysgu'r ddau mewn dull unedig
  • Y Fethodoleg DMAIC
  • Meini prawf targedu prosiectau
  • Beth sy'n gwneud prosiect Lean Six Sigma gwych?
  • Cysyniadau ac offer Lean Six Sigma
  • Elfennau allweddol trawsnewidad Lean llwyddiannus
  • Dewis Prosiectau
  • Rolau t卯m
  • Llais y Cwsmer (VoC)
  • Mapio Ffrwd Gwerth
  • Gwerth Ychwanegol yn erbyn Dim Gwerth Ychwanegol
  • Dadansoddiad o wraidd y broblem
  • Diagramau Ishikawa
  • Siartiau Llif Darbodus a Chelloedd Gwaith
  • 5S鈥檚 (Trefnu, Sythu, Disgleirio, Safoni a Chynnal)
  • Offer Gweledol
  • Capasiti a Thagfeydd

Mae yna hefyd Arholiad Lean Six Sigma (Belt Felen).

Gofynion Mynediad

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol.

Bydd angen mynediad i'r rhyngrwyd, cyfrifiadur windows a gwe-gamera/meicroffon arnoch.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bwriad y rhaglen PLA yw darparu cyngor ac arweiniad gyrfa o safon i gyfranogwyr cyn, yn ystod ac ar 么l eu dysgu. Cyn i chi gofrestru ar eich cwrs a ariennir gan PLA, bydd cynllun dysgu unigol yn cael ei drafod gyda chi i sicrhau bod y dysgu cywir wedi'i ystyried.
Ble alla i astudio Lean Six Sigma Rhithwir Ar-lein - Cwrs hyfforddiant Lean Six Sigma - Gwregys Melyn?

MPLA0072AA
Hyblyg

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a鈥檜 canslo os tybir nad yw鈥檔 bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu鈥檔 ansicr ai hwn yw鈥檙 cwrs addas i chi?

Cysylltwch 芒 ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.