BPEC Systemau Storio Dwr Poeth Domestig (Heb eu hawyru)
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cyfrifon Dysgu Personol
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Hyblyg
Sector
Sero Net a Chynaliadwyedd
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Hyblyg
Yn gryno
Nod y cwrs hwn yw cynorthwyo plymwyr a pheirianwyr gwresogi sydd eisiau gosod Systemau Storio Dwr Poeth Domestig Wedi eu Hawyru a Heb eu Hwyru i gydymffurfio 芒'r Safonau a Rheoliadau Adeiladu priodol.
Mae BPEC yn ddarparwr arbenigol o asesiadau, cyrsiau hyfforddi, deunyddiau dysgu a chymwysterau sy'n cael eu cydnabod gan ddiwydiannau.
Mae鈥檙 cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy鈥檔 cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sydd 芒 ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy鈥檔 addas i鈥檞 ffordd o fyw presennol.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
...unrhyw un dros 19 oed, sy'n byw yng Nghymru ac mewn cyflogaeth. Nid yw'r terfyn cyflog o 拢32,371 yn berthnasol i'r cwrs hwn.
... peirianwyr plymio a gwresogi sydd eisiau gosod Systemau Storio Dwr Poeth Domestig, a bydd yn dangos eu cymhwysedd fel y gallant naill ai ymuno 芒 Chynllun Personau Cymwys, sy'n caniat谩u gosodiadau wedi'u hunan-ardystio, neu hysbysu'r adran Rheoli Adeiladu leol cyn dechrau ar y gwaith.
Cynnwys y cwrs
Mae'r cwrs hynod gynhwysfawr hwn yn dechrau gyda hyfforddiant dwys yn y pedwar modiwl, cyn cwblhau tri asesiad, gan gynnwys un asesiad ymarferol. Mae'n ofynnol i ymgeiswyr lwyddo yn y tri asesiad er mwyn cyflawni'r dystysgrif BPEC mewn Systemau Storio Dwr Poeth Domestig a'r cerdyn cymhwysedd.
Y pedwar modiwl hyfforddi yw:
- Systemau wedi'u Hawyru a heb eu Hawyru a'u hegwyddorion gweithredu
- Dylunio a gosod
- Cynnal a Chadw
- Cydymffurfio 芒 Rheoliadau Adeiladu eraill
Fel arfer, mae asesiadau鈥檔 cynnwys cyfuniad o arholiadau ymarferol a damcaniaethol.
Gofynion Mynediad
Rhaid i ymgeiswyr feddu ar gymhwyster crefft a gydnabyddir (e.e. NVQ/SNVQ Lefel 2 neu 3 mewn Plymio a Gwresogi neu Wresogi Domestig) NEU fod yn gweithio tuag at gymhwyster o'r fath NEU fod 芒 thystiolaeth o nifer o flynyddoedd o brofiad yn y diwydiant plymio neu wresogi.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae tystysgrifau fel arfer yn ddilys am 5 mlynedd. Mae ymgeiswyr yn gymwys i gael eu hailasesiad o fewn 12 mis i ddod i ben. Rhaid cyflwyno tystysgrifau blaenorol i'r ganolfan asesu fel tystiolaeth o feddu ar y cymhwyster cychwynnol.
Os byddwch yn dewis peidio ag ymuno 芒 chynllun Personau Cymwys bydd angen i chi hysbysu'r adran Rheoli Adeiladu lleol.
Os caiff ei gwblhau y tu allan i PLA, bydd y cwrs hwn yn costio 拢375 yr ymgeisydd.
Bydd dyddiadau cyrsiau yn cael eu trafod wrth wneud cais.
Cyflwynir y cwrs hwn yn ein Parth Dysgu Blaenau Gwent a champws Casnewydd yn seiliedig ar alw.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
MPLA0038AA
Hyblyg
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a鈥檜 canslo os tybir nad yw鈥檔 bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu鈥檔 ansicr ai hwn yw鈥檙 cwrs addas i chi?
Cysylltwch 芒 ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch pla@coleggwent.ac.uk.