CITB Cynllun Hyfforddiant Diogelwch Rheoli Safle - Gloywi (SMSTS-R)
Mae'r cwrs hwn wedi'i deilwra i gyflogwyr sydd yn edrych i hyfforddi grwpiau o'u staff. Ar gyfer hyfforddiant unigol, defnyddiwch ein chwiliwr cyrsiau os gwelwch yn dda.
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Yn unigryw i鈥檙 cyflogwr
Hyblyg
Lleoliad
Hyblyg
Sector
Iechyd a Diogelwch
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Hyblyg
Yn gryno
Mae'r cwrs hwn ar gyfer ymgeiswyr sydd wedi llwyddo yn y Cynllun Hyfforddiant Diogelwch Rheoli Safle neu gwrs gloywi dilynol yn flaenorol ac sy'n gallu darparu tystiolaeth o'u presenoldeb.
Ei nod yw cadw gwybodaeth am iechyd a diogelwch yn gyfredol, yn ogystal â rhoi trosolwg trylwyr o newidiadau deddfwriaethol a'u heffaith ar y gweithle.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
...unrhyw un sydd ar hyn o bryd yn dal tystysgrif Cynllun Hyfforddiant Diogelwch Rheoli Safle sydd ar fin dod i ben.
Cynnwys y cwrs
Mae'r cwrs 2 ddydd hwn yn darparu cyfle i ailymweld â'r ystod eang o bynciau o'r cwrs 5 diwrnod, gan gynnwys:
- Gosodiad y safle
- Rheoliadau CDM
- Asesiadau risg
- Datganiadau dull
- Sgaffaldwaith
- Trydan
- Gwaith cloddio
- Dymchwel
- Gweithio mewn llefydd cyfyng.
Byddwch yn cael eich asesu ar eich cyfranogiad drwy gydol y cwrs, gan gynnwys tasgau gr诺p ac arholiad 25 cwestiwn gyda chwestiynau aml-ddewis ac atebion ysgrifenedig byr.
Mae mynychu'r 2 ddiwrnod llawn yn orfodol.
Wedi i chi ei gwblhau'n llwyddiannus byddwch yn derbyn tystysgrif sy'n ddilys am 5 blynedd.
Gofynion Mynediad
Mae'n rhaid i ymgeiswyr fod yn dal tystysgrif Cynllun Hyfforddiant Diogelwch Rheoli Safle sy'n ddilys am hyd y cwrs.
Mae'n rhaid i fynychwyr fod yn rhugl o ran Saesneg ysgrifenedig ac ar lafar ar gyfer gweithredu'n effeithlon ar lefel rheoli safle.
Gwybodaeth Ychwanegol
Cost sylfaenol y cwrs hwn yw £390.
Mae’r cwrs hwn ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy’n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser, rhad ac am ddim sydd â ffyrdd hyblyg a chyfleus o ddysgu sy’n addas i’w ffordd o fyw bresennol (yn amodol ar gymhwysedd). ... unrhyw un dros 19 oed, sy'n byw yng Nghymru, sy’n gweithio, ac yn ennill llai na £30,596 y flwyddyn ac sy'n dymuno gwneud cais am y cwrs hwn fel rhan o'r fenter PLA defnyddiwch y ddolen isod i wneud cais os gwelwch yn dda:
/course/LA0016/citb-site-management-safety-training-scheme-smsts?uioid=504791
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
BCEM0053AA
Hyblyg
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a鈥檜 canslo os tybir nad yw鈥檔 bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu鈥檔 ansicr ai hwn yw鈥檙 cwrs addas i chi?
Cysylltwch 芒 ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch employers@coleggwent.ac.uk.