IOSH Rheoli'n Ddiogel
Mae'r cwrs hwn wedi'i deilwra i gyflogwyr sydd yn edrych i hyfforddi grwpiau o'u staff. Ar gyfer hyfforddiant unigol, defnyddiwch ein chwiliwr cyrsiau os gwelwch yn dda.
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Yn unigryw i鈥檙 cyflogwr
Hyblyg
Lleoliad
Hyblyg
Sector
Adeiladu
Dyddiad Cychwyn
Hyblyg
Yn gryno
Os ydych chi'n rheolwr neu'n oruchwyliwr, bydd y cwrs hwn yn eich helpu i roi egwyddorion rheolaeth gadarn ar waith gyda materion diogelwch ac iechyd o fewn eich t卯m fel rhan o strategaeth reoli gyflawn. Gan ei fod yn gwrs modiwlaidd ei natur, gall gael ei deilwra i gwrdd 芒'ch anghenion busnes unigol.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
... rheolwyr o unrhyw sefydliad neu sector sydd angen rheoli'n effeithlon ac effeithiol yn unol 芒 pholisi diogelwch eu sefydliad a deddfwriaeth iechyd a diogelwch gyfredol.
Cynnwys y cwrs
Bydd y cwrs yn cymryd 3 diwrnod (22awr) i'w gwblhau, a bydd yn eich helpu i:
- Gymhwyso egwyddorion ac arferion i faterion iechyd a diogelwch.
- Gosod nodau iechyd a diogelwch ymarferol a bod yn gallu cynllunio a rhoi cyrsiau ar waith er mwyn cyflawni'r nodau hynny.
- Adnabod risgiau sy'n bodoli yn y gweithle a bod yn gallu dewis mesurau rheoli priodol.
- Cymryd i ystyriaeth y risgiau a achosir gan ffactorau dynol.
- Sicrhau bod gwybodaeth, cyfarwyddyd, hyfforddiant a goruchwyliaeth addas yn cael eu darparu o fewn y gweithle.
- Ymchwilio pob digwyddiad sy'n ymwneud 芒 niwed neu ddifrod聽i benderfynu'r achosion a chymryd camau adferol.
- Cyfathrebu'n effeithiol ar faterion iechyd a diogelwch gydag aelodau o staff h欧n, pobl yn y gwaith a gweithwyr proffesiynol iechyd a diogelwch
Byddwch yn cael eich asesu gan ddefnyddio papur prawf aml-ddewis ac atebion byr o 25 cwestiwn a phrosiect ymarferol, ac yn dilyn hynny byddwch yn derbyn tystysgrif Rheoli Diogel Sefydliad Diogelwch ac Iechyd Galwedigaethol (IOSH).
Gofynion Mynediad
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn, ond disgwylir i ymgeiswyr fod 芒 lefel dda o Saesneg.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
BCEM0048AA
Hyblyg
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a鈥檜 canslo os tybir nad yw鈥檔 bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu鈥檔 ansicr ai hwn yw鈥檙 cwrs addas i chi?
Cysylltwch 芒 ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch employers@coleggwent.ac.uk.