Â鶹´«Ã½ÍŶÓ

En

EAL Diploma NVQ mewn Technegau Gwella Busnes Lefel 3

Mae'r cwrs hwn wedi'i deilwra i gyflogwyr sydd yn edrych i hyfforddi grwpiau o'u staff. Ar gyfer hyfforddiant unigol, defnyddiwch ein chwiliwr cyrsiau os gwelwch yn dda.

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Yn unigryw i’r cyflogwr

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Hyblyg
Lleoliad

Lleoliad
Hyblyg

Sector

Sector
Peirianneg

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Hyblyg

Yn gryno

Datblygwyd y cymhwyster hwn i alluogi dysgwyr i ddangos cymhwysedd yn eu galwedigaeth gwella busnes mewn modd darbodus a hynny fel arfer yn y maes peirianneg neu weithgynhyrchu.  

Mae'r cymhwyster yn berthnasol i amrywiaeth eang o alwedigaethau o fewn ystod o sectorau, yn dibynnu ar y llwybr a ddewiswyd. 

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

±«²Ô°ù³ó²â·É³Ü²Ô²õ²â'²Ô²µ²â´Ú°ù¾±´Ú´Ç±ô²¹³¾²µ²â´Ú°ù²¹²Ô²Ô³Ü²¹³Ù·É±ð±ô±ô²¹²¹²Ô²õ²¹·É»å»å²¹±è³ó°ù´Ç²õ±ð²õ³Ü²â²Ô²â²µ·É±ð¾±³Ù³ó±ô±ð.³Û°ù³ó²¹¾±²õ²â'²Ô³¦²¹±ð±ô±ð³Ü³¦²â´Ú±ô´Ç²µ¾±´Ú±ð±ô²µ´Ç°ù³Ü³¦³ó·É²â±ô·É²â°ù,²¹°ù·É±ð¾±²Ô·É²â°ù³Ùî³¾²Ô±ð³Ü³ó·É²â±ô³Ü²õ·É²â°ù²¹³¦²õ²â'²Ô²µ²â´Ú°ù¾±´Ú´Ç±ô²¹³¾²µ²â²Ô²Ô²¹±ô²µ·É±ð¾±³Ù³ó²µ²¹°ù±ð»å»å²¹³Ü²µ·É±ð±ô±ô²¹²ú³Ü²õ²Ô±ð²õ.Ìý

Cynnwys y cwrs

Mae hwn yn Gymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol (NVQ). Mae'n cynnwys y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer galwedigaethau gwella busnes, gan gynnwys y gallu i drefnu gwaith a nodi ac atal problemau.  

Rhaid i'r dysgwr gyflwyno tystiolaeth (wedi'i chofnodi mewn portffolio) sy'n dangos yn glir eu bod wedi bodloni meini prawf asesu a deilliannau dysgu'r unedau a ddewiswyd.  

Rhaid i'r dysgwr gyflawni'r unedau gorfodol a dewisol sy'n berthnasol i'w llwybr a'i rôl alwedigaethol.

Mae Lefel 3 yn ddelfrydol os ydych wedi bod yn gweithio mewn amgylchedd gwella busnes mewn modd darbodus ers peth amser a bod gennych lawer iawn o sgiliau technegol ynghyd â dealltwriaeth gadarn o gysyniadau a damcaniaethau darbodus. Rydych chi'n gweithio gyda’r mymryn lleiaf o oruchwyliaeth neu efallai y byddwch yn goruchwylio eraill.

Gofynion Mynediad

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn, fodd bynnag, bydd y cymhwyster yn cael ei farnu'n rhannol ar asesiadau a arsylwyd yn y gweithle felly mae'n rhaid i ddysgwyr weithio mewn amgylchedd a rôl gwella busnes. 

Gwybodaeth Ychwanegol

Cyflwynir y cymhwyster hwn yn y gweithle ac nid ar gampws i unigolion ei fynychu. Cytunir ar ddyddiadau darparu ymlaen llaw gyda chi a'ch cyflogwr.  

Mae'r cymhwyster hwn yn cynnwys 8 neu 9 uned. Gall gymryd rhwng 8 a 14 mis i'w gwblhau. Gall dysgwyr ei gwblhau yn ôl eu pwysau eu hunain ond bydd ein tîm o aseswyr yn rhoi cynllun cychwynnol ar waith i gwblhau uned bob mis ac mae'n bosib ei chwblhau'n gynt. 

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio EAL Diploma NVQ mewn Technegau Gwella Busnes Lefel 3?

BCEM0026AA
Hyblyg

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â ni ar 01495 333777
neu e-bostiwch employers@coleggwent.ac.uk.