BTEC Diploma 90 Credyd mewn Rheoli Ceffylau Lefel 3
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Astudiaethau Tir, Gofal Anifeiliaid a Cheffylau
Lefel
3
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Brynbuga
Dyddiad Cychwyn
01 Medi 2025
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, gan gynnwys Mathemateg/Rhifedd, Gwyddoniaeth a Chymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg; neu radd Teilyngdod mewn cymhwyster Diploma Lefel 2 priodol gyda TGAU yn cynnwys gradd C neu uwch mewn Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg
Yn gryno
Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i ateb y galw yn y diwydiant ceffylau am unigolion cymwys, wedi eu hyfforddi鈥檔 dda.
Dyma'r cwrs i chi os...
...Rydych chi'n symud ymlaen o Ddiploma Lefel 2 mewn Gofal Ceffylau
...Rydych yn symud ymlaen o gwrs Lefel 2 yn y Gwaith
...Mae gennych brofiad perthnasol ac yn dymuno datblygu eich sgiliau
Beth fyddaf yn ei wneud?
Byddwch yn ymdrin ag unedau mewn:
- Marchogaeth ar y gwastad a thros glwydi
- Dysgu
- Sgiliau hwsmonaeth ac iechyd datblygedig
- Gwyddor ceffylau ac atgynhyrchu
- Profiad gwaith a sgiliau allweddol
Mae鈥檙 cwrs hefyd yn cynnig y cyfle i baratoi ar gyfer a sefyll arholiadau BHS (Cymdeithas Geffylau Prydain) hyd at lefel Hyfforddwr Cynorthwyol (BHSAI).
Byddwch yn cael budd o鈥檙 cyfleusterau ardderchog yn y ganolfan geffylau sy鈥檔 ganolfan arholiad BHS cymeradwy hyd at lefel hyfforddwr canolig. Mae鈥檔 uned geffylau fach, gyda chyfarpar da, yn cynnwys iard stabl sy鈥檔 lletya hyd at 15 o geffylau i chi eu defnyddio ar gyfer eich sesiynau marchogaeth a sesiynau ymarferol. Mae dau arwyneb maint llawn modern ar gyfer pob tywydd, un ohonynt dan do, neidiau sioe, ardal hyfforddi draws gwlad a chaeau pori. Mae鈥檙 ganolfan wedi ei staffio gan d卯m profiadol cymwys iawn sy鈥檔 eich goruchwylio a chefnogi wrth i chi ymgymryd 芒 dyletswyddau iard a phrofiad gwaith. Wrth weithio yn iard y coleg bydd eich dealltwriaeth o ofal ceffylau yn ehangu.
Byddwch yn cael eich asesu trwy aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig a byddwch yn ennill:
- Diploma Lefel 3 mewn Rheoli Ceffylau
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg
- Cymwysterau perthnasol eraill i wella eich set sgiliau
Beth a ddisgwylir ohonof i?
I fynd i mewn i鈥檙 cwrs, bydd angen isafswm o 5 TGAU gradd C neu uwch i gynnwys Mathemateg/Rhifedd, Gwyddoniaeth a Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf; neu gymhwyster Diploma Lefel 2 priodol ar radd Teilyngdod gyda chymwysterau TGAU i gynnwys Mathemateg/Rhifedd neu Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf ar radd C neu uwch.
Mae angen ymrwymiad llawn at bresenoldeb. Parch at eraill, brwdfrydedd dros y pwnc a hunangymhelliad, ynghyd ag angerdd am astudiaethau ceffylau yw鈥檙 rhinweddau hanfodol y disgwyliwn weld yn ein holl ddysgwyr. Byddwch yn cael eich asesu鈥檔 barhaol ac mae disgwyl y byddwch yn parhau 芒鈥檆h astudiaethau a gwaith cwrs/lleoliad gwaith yn ystod eich amser eich hun.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Bydd cwblhau鈥檙 Diploma Blwyddyn 1 90 Credyd yn llwyddiannus yn eich galluogi i symud ymlaen i鈥檙 ail flwyddyn a chwblhau鈥檙 Diploma Estynedig llawn. Oddi yno, mae llwybrau symud ymlaen yn cynnwys Gradd Sylfaen mewn pynciau sy鈥檔 gysylltiedig 芒 cheffylau, cymwysterau BHS uwch neu gyflogaeth yn y diwydiant ceffylau.
听
Gwybodaeth Ychwanegol
Sylwch nad cwrs ymarferol yn unig yw hwn, mae swm o waith ysgrifenedig wedi ei gynnwys.
Bydd angen chwistrelliad tetanws cyfredol arnoch chi cyn dechrau鈥檙 cwrs.
Bydd angen cyfarpar diogelu personol (PPE) arnoch chi ar gyfer agweddau ymarferol y rhaglen gan gynnwys esgidiau marchogaeth, Cl么s pen-glin a het farchogaeth i鈥檙 safonau diogelwch cyfredol. Bydd angen i chi brynu鈥檙 rhain cyn i鈥檙 cwrs ddechrau.
Bydd arholiadau BHS yn gost ychwanegol y bydd angen aelodaeth BHS arni hefyd.
听
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
UFDI0309AC
Campws Brynbuga
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 01 Medi 2025
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a鈥檜 canslo os tybir nad yw鈥檔 bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu鈥檔 ansicr ai hwn yw鈥檙 cwrs addas i chi?
Cysylltwch 芒鈥檔 T卯m Recriwtio Myfyrwyr