City & Guilds Diploma mewn Egwyddorion Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau Ysgafn Lefel 3
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Moduro
Lefel
3
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2025
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
Diploma Lefel 2 mewn Cynnal a Chadw Cerbydau
Ysgafn a chwblhau TGAU Mathemateg a Saesneg
i Radd C.
Yn gryno
Mae cerbydau a'u systemau cysylltiedig yn dodyn fwy cymhleth yn gyson. Mae technoleg cerbydau
modern sy'n datblygu'n gyson yn gofyn am
dechnegwyr sydd wedi'u hyfforddi'n briodol i
ganfod namau ar y cerbydau hyn. Bydd y cwrs
hwn yn rhoi technegau diagnostig amrywiol i
ddysgwyr a'r wybodaeth sydd ei hangen i wneud
diagnosis o namau ar gerbydau modern.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Ydych eisoes wedi cwblhau Diploma Lefel 2 mewn Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau
... Ydych eisiau cyfuniad o astudiaeth ymarferol a damcaniaethol
... Ydych yn dda am ddatrys problemau ac 芒 diddordeb ysol mewn cerbydau
Beth fyddaf yn ei wneud?
Caiff y cwrs hwn ei ardystio fel Diploma Technegol a鈥檌 fwriad yw diwallu elfen ddamcaniaethol y cwrs VCQ Lefel 3 mewn Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau Ysgafn. Mae hefyd yn diwallu gofynion y Fframwaith Prentisiaeth Uwch Cynnal a Chadw a Thrwsio (Cerbydau Ysgafn).
Byddwch yn cwblhau 8 modiwl trwy gyfuniad o elfennau ymarferol a damcaniaethol, gan astudio unedau fel:
- Iechyd, diogelwch a threfniadau da yn yr amgylchedd modurol
- Cymorth ar gyfer rolau swyddi yn yr amgylchedd modurol
- Deunyddiau, dulliau saern茂o, offer a dyfeisiadau mesur a ddefnyddir yn yr amgylchedd modurol
- Diagnosio a chywiro diffygion trydanol ategol mewn cerbydau
- Diagnosio a chywiro diffygion mewn injans cerbydau ysgafn
- Diagnosio a chywiro diffygion mewn systemau siasis cerbydau ysgafn
- Diagnosio a chywiro diffygion trawsyrru a diffygion llinellau gyriant mewn cerbydau ysgafn
- Archwilio cerbydau ysgafn trwy ddefnyddio dulliau penodol
Byddwch yn datblygu sgiliau cyflogadwyedd hanfodol, fel hunanreoli, gweithio mewn t卯m, ymwybyddiaeth busnes ac ymwybyddiaeth cwsmeriaid, datrys problemau, cyfathrebu, llythrennedd a rhifedd sylfaenol, ac agwedd gadarnhaol at waith.
Byddwch yn cael eich asesu trwy gyfrwng profion ar-lein, gwaith cwrs, aseiniadau, gwaith portffolio ac asesiadau ymarferol. Ar 么l cwblhau鈥檙 cwrs, byddwch yn ennill:
- Diploma Lefel 3 mewn Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau Ysgafn
- Cymhwyster/cymwysterau ategol priodol pan fo鈥檔 berthnasol i deilwra cynnwys y rhaglen er mwyn diwallu anghenion penodol y gymuned, eich anghenion penodol chi neu anghenion penodol y diwydiant.
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg
Beth a ddisgwylir ohonof i?
I ddilyn y cwrs hwn, byddwch angen Diploma Lefel 2 mewn Cynnal a Chadw Cerbydau Ysgafn.
Mae鈥檔 ofynnol ymrwymo鈥檔 llwyr i fynychu鈥檙 cwrs, a hefyd mae鈥檙 gallu i weithio鈥檔 annibynnol ac fel rhan o d卯m yn ofynnol. Dylech fod 芒 dymuniad cryf i weithio yn y diwydiant cerbydau modur, dylech gadw at ethos y coleg a dylech fod yn barod i wella eich lefel mewn pynciau academaidd.
Beth sy'n digwydd nesaf?
- Tystysgrif IMIAL Lefel 4 mewn Astudiaethau Modurol Uwch ar gyfer Prif Dechnegwyr
- Prentisiaeth addas
- Gwaith fel technegydd beiciau modur
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd angen ichi brynu Cyfarpar Diogelu Personol priodol, fel esgidiau ac ofer么ls, a fydd yn costio oddeutu 拢40.00. Hefyd, bydd angen ichi ddarparu eich defnyddiau ysgrifennu a鈥檆h ffolderi eich hun.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
CFDI0213AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2025
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a鈥檜 canslo os tybir nad yw鈥檔 bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu鈥檔 ansicr ai hwn yw鈥檙 cwrs addas i chi?
Cysylltwch 芒鈥檔 T卯m Recriwtio Myfyrwyr