Gradd Sylfaen mewn Darlunio
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Celf a Dylunio, y Cyfryngau, Ffotograffiaeth
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Dyddiad Cychwyn
17 Medi 2025
Gofynion Mynediad
Fel arfer, byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:
- 48 o bwyntiau UCAS - cyfrifiannell tariff UCAS聽
- Mynediad i Addysg Uwch os ydych wedi ennill Diploma Llwyddo gyda 45 Achos o Lwyddiant
Yn ogystal 芒: Llwyddo mewn tri phwnc TGAU ar radd C neu uwch, gan gynnwys Mathemateg ac Iaith Saesneg (neu gyfwerth).
Noder os nad ydych yn bodloni'r meini prawf gradd, efallai y rhoddir ystyriaeth i oed a phrofiad.
Yn gryno
Bydd y Radd Sylfaen mewn Darlunio yn eich addysgu sut i ddatblygu'n greadigol eich arddull eich hun, gan adlewyrchu'r ffordd ddyfeisgar yr ydych yn gweld y byd sy'n newid yn gyson, ac yn cyfathrebu ag ef.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Oes gennych ddawn greadigol
... Oes gennych sgiliau a diddordeb mewn darlunio
... Ydych eisiau datblygu eich sgiliau i symud ymlaen i yrfa mewn darlunio.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Byddwch yn archwilio cyd-destunau gwahanol o greu delweddau, o ddarlunio traddodiadol a defnydd masnachol hyd at lyfrau indie, graffeg gwybodaeth, cylchgronau, delweddau symudol, printiau argraffiad cyfyngedig, patrymau arwyneb a chynnyrch darluniadol.
Byddwch yn dysgu i weithio'n annibynnol, creadigol a beirniadol mewn amrywiaeth o gyd-destunau, wrth i ni gefnogi eich brwdfrydedd tuag at ddylunio, gweithgynhyrchu, marchnata a gwerthu eich gwaith eich hun.
Byddwn yn eich cefnogi wrth i chi ddatblygu eich sgiliau proffesiynol ym mhob aseiniad, gan gynnwys sgiliau datrys problem yn greadigol, rheoli prosiectau, a gweithio i friff a chwblhau gwaith i derfyn amser.
Drwy hunan-fyfyrio parhaus, byddwch yn datblygu ac yn adnabod cryfderau personol, gan eich helpu i gydnabod sgiliau trosglwyddadwy a sut y byddant yn ddefnyddiol ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol.
Ymhlith y modiwlau mae:
Blwyddyn 1
鈥 Sgiliau gweledol creadigol
鈥 Lliw a chyfathrebu ar gyfer darlunio
Egwyddorion ac ymarferion darlunio
鈥 Sgiliau astudio
鈥 Prosiect ymarferol y diwydiannau creadigol
Blwyddyn 2
鈥 Darlunio ar gyfer llenyddiaeth
鈥 Darlunio ar gyfer patrymau arwyneb
鈥 Profiad gwaith yn ymwneud 芒'r diwydiannau creadigol
鈥 Datblygu gyrfa
鈥 Astudiaethau cyfathrebu
Byddwch yn gweithio ar friffiau prosiectau go iawn ac yn elwa o ymweliadau gan ymarferwyr sy'n gweithio yn y diwydiant, a fydd yn darparu gweithdai, cynnig arweiniad gyda'r portffolio, a siarad am eu hymarfer eu hunain. Byddwn yn eich cyflwyno i archwilio ymarfer masnachol, yn eich annog i hyrwyddo eich hun yn broffesiynol ac archwilio hefyd eich syniadau eich hun drwy ddulliau hunan-gyfeiriedig a phroffesiynol, a fydd yn ehangu ffiniau eich iaith weledol. Wrth i chi ddatblygu eich diddordebau, gallwch ddewis addasu eich astudiaethau i astudio ystod o arbenigaethau creadigol, gan gynnwys darlunio golygyddol, llyfrau plant, cyhoeddi annibynnol, gwneud printiau, modelu, darlunio rhyngweithiol a phatrymau arwyneb.
Byddwch yn mwynhau rhaglen amrywiol o deithiau diwylliannol ac ysbrydoledig, yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, gan roi i chi'r cyfle i ymweld ag orielau a lleoliadau perthnasol eraill a fydd yn llywio ac yn gwella eich gwaith.
Byddwch yn rhan o amgylchedd creadigol amrywiol sy'n rhoi mynediad i chi at bob math o gyfleusterau i safon y diwydiant, gan elwa o offer traddodiadol ac uwch dechnoleg. Yn ystod y ddwy flynedd bydd gennych eich man gweithio eich hun o fewn y stiwdio ddarlunio a'r cyfle i weithio ag ystod o weithdai a chyfleusterau arbenigol eraill yn y coleg.
Cewch eich asesu drwy waith cwrs a phortffolio. Wedi i chi gwblhau'r cymhwyster byddwch yn ennill Gradd Sylfaen mewn Darlunio fydd yn cael ei hachredu gan Brifysgol De Cymru.
Beth a ddisgwylir ohonof i?
I gofrestru ar y cwrs hwn, byddwch angen llwyddo mewn tri phwnc TGAU ar radd C neu uwch, gan gynnwys Mathemateg ac Iaith Saesneg (neu gyfwerth). Bydd rhaid i chi hefyd fod ag o leiaf un o'r canlynol:
- 48 o bwyntiau UCAS - cyfrifiannell tariff UCAS聽
- Mynediad i Addysg Uwch os ydych wedi ennill Diploma Llwyddo gyda 45 Achos o Lwyddiant
Noder os nad ydych yn bodloni'r meini prawf gradd, gellir rhoi ystyriaeth i oed a phrofiad.
Dylech allu rheoli eich amser eich hun, bod yn ymwybodol o'ch rhaglen astudio, mynychu ac ymgysylltu yn eich dosbarthiadau, bod 芒 synnwyr o bwrpas bob amser a gofyn am gymorth pryd bynnag y byddwch ei angen.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Bydd y cwrs hwn yn rhoi i chi'r sgiliau, gwybodaeth a phrofiad ar gyfer gyrfa mewn darlunio neu symud ymlaen i'r rhaglen BA (Anrh) Darlunio ym Mhrifysgol De Cymru.
Gwybodaeth Ychwanegol
Masnachfreintir y cwrs hwn gan Brifysgol De Cymru.
- Y cod UCAS yw W224
- Y cod sefydliad yw W01
- Y cod campws yw G
Gallwch wneud cais yn uniongyrchol i'r coleg neu drwy UCAS am y cwrs hwn.
Offer Deunyddiau Darlunio, 拢85, gorfodol, Y
Taith Llundain, 拢50, gorfodol,Y
Taith Ryngwladol, 拢400-拢1,000, gorfodol, N
Costau Argraffu Arddangosiadau, 拢30-拢50, gorfodol, Y
Costau Teithio, 拢100, gorfodol, Y
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
Telerau a amodau
Darganfyddwch fwy
CFDG0061AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 17 Medi 2025
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a鈥檜 canslo os tybir nad yw鈥檔 bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu鈥檔 ansicr ai hwn yw鈥檙 cwrs addas i chi?
Cysylltwch 芒鈥檔 T卯m Recriwtio Myfyrwyr