VTCT Tystysgrif Mynediad i Therap茂au Esthetig Lefel 3
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch
Lefel
3
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Campws Crosskeys
Ffioedd
£84.00
Dyddiad Cychwyn
09 Ionawr 2025
Dydd Iau
Amser Dechrau
09:30
Amser Gorffen
16:00
Hyd
20 wythnos
Yn gryno
Cymhwyster therapi harddwch yw鈥檙 Dystysgrif VTCT (ITEC) Lefel 3 mewn Mynediad i Therap茂au Esthetig a anelir at y rheini sydd heb unrhyw gefndir ffurfiol mewn hyfforddiant therapi harddwch ac sydd am gael mynediad at astudiaeth ychwanegol o driniaethau therapi uwch ar lefelau 4 ac uwch.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
...y rheini sydd am gynnig triniaethau esthetig anfeddygol fel rhan o鈥檜 busnes
...y rheini sydd heb unrhyw gymwysterau therapi harddwch ffurfiol
Cynnwys y cwrs
Mae'r cymhwyster hwn yn cynnwys unedau ar lefel 2 a 3 a gyfunwyd i ddarparu chi 芒鈥檙 wybodaeth greiddiol sy鈥檔 ofynnol i chi allu symud ymlaen yn uniongyrchol i hyfforddiant moddolrwydd penodol ar lefel 4+.
Mae鈥檙 pynciau a gwmpesir ar y cwrs yn cynnwys:
- Cynnal iechyd a diogelwch yn y salon
- Dadansoddi croen a gofal croen yr wyneb
- Ymgynghoriad a gofal cleientiaid
- Anatomeg, ffisioleg a phatholeg
- Gwyddoniaeth drydanol
Drwy gydol y cymhwyster hwn, byddwch yn datblygu eich gwybodaeth a dealltwriaeth o ofynion iechyd a diogelwch perthnasol, anatomeg, ffisioleg, patholeg a gwyddor drydanol, ochr聽yn ochr 芒 phrotocolau dadansoddi croen a thriniaeth ddiogel ar gyfer gofal croen yr wyneb. Byddwch hefyd yn datblygu'r wybodaeth, y ddealltwriaeth a'r sgiliau a fydd eu hangen arnoch chi i ymgynghori 芒 chleientiaid a darparu cyngor penodol ar 么l-ofal a gofal cartref.
Cynhelir asesiadau ar ffurf arholiadau theori a osodir yn allanol, asesiadau ymarferol a phortffolio o dystiolaeth.
Gofynion Mynediad
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol, ond bydd angen lefel dda o allu academaidd arnoch chi i'ch cefnogi chi drwy'r cwrs hwn.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd yn ofynnol i chi wisgo gwisg glinig ac esgidiau addas.
Mae鈥檙 ffioedd cwrs yn cynnwys ffioedd dysgu a chofrestru. Mae鈥檙 ffioedd tiwtora yn ddyledus ar adeg archebu/ymrestru. Gellir talu hyn trwy ddebyd uniongyrchol dros bum rhandaliad os bydd angen. Os yw eich cyflogwr yn ariannu eich cwrs, bydd angen cadarnhad ysgrifenedig o hyn fel bod y coleg yn gallu trefnu i'w anfonebu.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
CPCE3775AC
Campws Crosskeys
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 09 Ionawr 2025
Ar 么l archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar 么l y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiat谩u os ydych chi鈥檔 bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.
Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw鈥檙 polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a鈥檜 canslo os tybir nad yw鈥檔 bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu鈥檔 ansicr ai hwn yw鈥檙 cwrs addas i chi?
Cysylltwch 芒鈥檔 T卯m Recriwtio Myfyrwyr