BTEC Diploma Cenedlaethol mewn Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol Lefel 3
Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Celf a Dylunio, y Cyfryngau, Ffotograffiaeth
Lefel
3
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2025
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
O leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, gan gynnwys Mathemateg/Rhifedd a Saesneg/Cymraeg Iaith 1af, neu radd Teilyngdod mewn cymhwyster Diploma Lefel 2 priodol gyda TGAU gradd C neu uwch mewn Mathemateg/Rhifedd a Saesneg/Cymraeg Iaith 1af.
Yn gryno
Byddwch yn dysgu i ddangos sut y gellir cyfleu syniadau, teimladau ac ystyron o fewn y gwahanol feysydd o鈥檙 Cyfryngau drwy astudio鈥檙 cwrs hwn.
Dyma'r cwrs i chi os...
...mae gennych allu mewn maes creadigol
...mae gennych ddawn greadigol wych
...rydych eisiau gyrfa yn defnyddio eich sgiliau celf a dylunio
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae鈥檙 Cyfryngau鈥檔 parhau i fod yn opsiwn dymunol i fyfyrwyr sy'n dymuno dilyn gyrfaoedd creadigol 'traddodiadol', o fewn ffilm, teledu, radio a newyddiaduriaeth. Fodd bynnag, mae'r rhyngrwyd wedi gweld ffrwydrad o rolau newydd cyffrous yn ymddangos.
Byddwch yn archwilio amrywiaeth o syniadau ac adnoddau perthnasol sy鈥檔 ymwneud 芒鈥檙 cyfryngau a ffilm a chreu ymatebion ymarferol iddynt, gan arddangos dealltwriaeth o wahanol arddulliau, genres a thraddodiadau. Bydd llyfrau braslunio/llyfrau gwaith/cyfnodolion yn sail i鈥檆h gwaith prosiect a bydd pwyslais ar ffilmio/ golygu a chynhyrchu cyfryngau.
Mae tiwtoriaid yn gyfredol ac yn berthnasol wrth iddynt barhau i weithio yn eu meysydd arbenigol eu hunain, a'r ethos proffesiynol a'r profiad galwedigaethol hynny fydd yn gwneud yr holl wahaniaeth i'ch astudiaethau.
Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau mewn cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth gan ddefnyddio rhifau, cynllunio a gwaith t卯m.
Ymhlith modiwlau Cyfryngau mae:
- Hysbysebu
- Dylunio Pecyn
- Graffeg Gyfrifiadurol
- Technegau Amlgyfryngol
Byddwch yn cael eich asesu drwy gwblhau gwaith cwrs.
Pan fyddwch yn ei gwblhau, byddwch yn ennill:
- Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Cyfryngau Creadigol
- Gweithgareddau cynorthwyol priodol er mwyn ehangu eich set sgiliau a bodloni anghenion y diwydiant
- Cymhwyster Bagloriaeth Cymru
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Er mwyn cael mynediad ar y cwrs, byddwch angen o leiaf 5 TGAU gradd C neu uwch, yn cynnwys Mathemateg/Rhifedd a Saesneg/Cymraeg Iaith 1af
NEU
Cymhwyster Diploma Lefel 2 priodol ar radd Teilyngdod gyda TGAU Gradd C neu uwch mewn Mathemateg/Rhifedd a Saesneg/Cymraeg Iaith 1af.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Ar 么l cwblhau鈥檙 cwrs hwn, bydd cyfle i chi symud ymlaen at addysg uwch neu i weithio mewn diwydiannau megis Teledu a Ffilm, Ffotograffiaeth, Newyddiaduriaeth a Hysbysebu.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
CFBE0036AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2025
Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a鈥檜 canslo os tybir nad yw鈥檔 bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu鈥檔 ansicr ai hwn yw鈥檙 cwrs addas i chi?
Cysylltwch 芒鈥檔 T卯m Recriwtio Myfyrwyr