EAL Diploma mewn Technolegau Peirianneg Lefel 2
Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Peirianneg
Lefel
2
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd
Dyddiad Cychwyn
01 Medi 2025
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
O leiaf pedwar TGAU gradd D neu uwch, gan gynnwys gradd C mewn Mathemateg; neu gymhwyster Diploma Peirianneg Lefel 1 priodol a TGAU gradd C mewn Mathemateg.
Yn gryno
Mae鈥檙 cwrs hwn yn cynnig dealltwriaeth ragarweiniol o Beirianneg Drydanol a Mecanyddol. Bydd yn cynnig sylfaen gadarn yn yr agweddau allweddol ar beirianneg fodern, a dyma un o鈥檙 llwybrau a argymhellir ar gyfer y rhai sy鈥檔 awyddus i gael gyrfa yn y maes peirianneg 鈥 maes creadigol ac uchel ei gyflog.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Ydych eisiau cael cyfuniad o astudiaeth ymarferol a damcaniaethol
... Ydych eisiau symud ymlaen at ddiploma estynedig
... Hoffech ddilyn prentisiaeth
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae鈥檙 cwrs yn gyfuniad o elfennau yn y labordy ac elfennau damcaniaethol. Byddwch yn dysgu trwy gwblhau prosiectau ac aseiniadau a fydd yn seiliedig ar sefyllfaoedd gweithle realistig. Byddwch yn astudio unedau a fydd yn cynnwys:
- 聽Gweithio mewn Amgylchedd Peirianneg
- Mathemateg Peirianneg ac Egwyddorion Gwyddoniaeth
- Technegau Gwella Busnes
- Egwyddorion Turnio a Llifanu
- Egwyddorion Trydanol a Thrydan
- Ymarfer Cynnal a Chadw Peirianegol
- Cynllunio a Chynnal Prosiect Peirianneg
- Gweithredu Gweithle Effeithlon
- Cyflwyniad i Gyfathrebu yn ymwneud 芒 Pheirianneg
- Dyfeisiau Electronig a Chymwysiadau Cyfathrebu
Byddwch yn datblygu sgiliau cyflogadwyedd hanfodol, fel hunanreoli, gweithio mewn t卯m, ymwybyddiaeth busnes, ymwybyddiaeth cwsmeriaid, datrys problemau, cyfathrebu, llythrennedd a rhifedd sylfaenol, ac agwedd gadarnhaol at waith.
Byddwch yn cael eich asesu trwy gyfrwng arholiadau, gwaith cwrs, aseiniadau, gwaith portffolio, ac asesiadau labordy neu asesiadau ymarferol. Ar 么l cwblhau鈥檙 cwrs, byddwch yn ennill:
- Diploma Lefel 2 mewn Peirianneg
- Cymwysterau ategol priodol i ehangu eich set sgiliau a diwallu anghenion y diwydiant
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg
Beth a ddisgwylir ohonof i?
I ddilyn y cwrs hwn, byddwch angen pedwar cymhwyster TGAU fan leiaf, Gradd D neu uwch, yn cynnwys Saesneg a Mathemateg Gradd C, neu Ddiploma Lefel 1 priodol mewn Peirianneg a TGAU Mathemateg Gradd C.
Bydd angen ichi fod yn rhifog ac yn greadigol, ynghyd 芒 meddu ar ddiddordeb ysol mewn peirianneg. Hefyd, disgwyliwn ichi feddu ar hunangymhelliant, ynghyd 芒 bod yn聽weithgar, yn brydlon ac yn llawn ymrwymiad.
Er mwyn ichi allu camu yn eich blaen at Lefel 3, bydd angen ichi sefyll TGAU Haen Uwch ochr yn ochr 芒鈥檙 cwrs hwn er mwyn codi eich gradd i B neu uwch.
Beth sy'n digwydd nesaf?
- BTEC Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Peirianneg Drydanol neu Peirianneg Mecanyddol
- Prentisiaeth addas
- Gwaith fel Technegydd Trydanol neu Electronig
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd angen ichi ddarparu eich defnyddiau ysgrifennu eich hun e.e. ffolderi, dalennau rhannu, pennau ysgrifennu, penseli, pren mesur a chyfrifiannell wyddonol.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
NFDI0402AB
Campws Dinas Casnewydd
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 01 Medi 2025
Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a鈥檜 canslo os tybir nad yw鈥檔 bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu鈥檔 ansicr ai hwn yw鈥檙 cwrs addas i chi?
Cysylltwch 芒鈥檔 T卯m Recriwtio Myfyrwyr