VTCT Gwobr mewn Triniaethau Pilio Croen Lefel 5
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch
Lefel
5
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Campws Crosskeys
Ffioedd
£202.00
Noder, mae鈥檙 holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn
02 Mehefin 2025
Dydd Llun
Amser Dechrau
09:30
Amser Gorffen
17:00
Hyd
2 wythnos
Yn gryno
Mae'r Dyfarniad VTCT (ITEC) Lefel 5 mewn Triniaethau Plicio Croen yn gymhwyster uwch a anelir at ymarferwyr cymwys ar lefel 4 sydd yn 18 oed neu'n h欧n gyda'r nod o ychwanegu'r therapi hwn at eu repertoire o driniaethau i'w cynnig. Prif bwrpas y cymhwyster hwn yw paratoi dysgwyr ar gyfer cyflogaeth yn y diwydiant esthetig uwch drwy gynnig technegau nodwyddo croen.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
- y rheini sydd yn meddu ar gymhwyster Plicio Croen lefel 4.
- y rheini sydd yn 18 mlwydd oed neu'n h欧n.
Cynnwys y cwrs
Mae plicio cemegol, neu blicio croen, yn harneisio p诺er asidau naturiol a chynhwysion gweithredol sydd wedi'u profi'n glinigol i ddiblisgo'r croen, annog cynhyrchu colagen a thyfiant/trosiad celloedd croen i gael croen mwy disglair sy'n ymddangos yn iau. Fel cymysgedd o asidau ac ensymau, mae plicio croen yn diblisgo eich croen ac yn cychwyn trosiad celloedd; mae hyn yn golygu tynnu celloedd croen marw oddi ar yr haen uchaf ac annog tyfiant celloedd, gan ddadlennu鈥檙 croen mwy newydd a llyfnach o dan. Mae plicio hefyd yn annog creu colagen ac elastin i helpu lleihau llinellau a chrychau m芒n.
Yn y cwrs uwch hwn byddwch chi yn dyfnhau eich dealltwriaeth o'r wahanol fathau o blicio croen a'u defnyddiau, ochr yn ochr 芒'r sgiliau i gario allan plicio arwynebol i'r epidermis canolig yn Fitzpatrick 1-6. Yn ychwanegol, byddwch chi'n datblygu'r wybodaeth sy'n angenrheidiol i ddarparu cyngor ac 么l-ofal yn ogystal ag adnabod聽cymhlethdodau posib neu adweithiau croes, i sicrhau fod y cleient yn cael holl fuddion y driniaeth a chael y canlyniadau gorau posib.
Mae'r cwrs yn cynnwys:
- Ystyriaethau diogelwch
- Protocolau a chanllawiau
- Dadansoddi cynhyrchion
- Ymgynghoriad, cynllunio a pharatoi
- Cymhwyso triniaethau plicio croen arwynebol
Cynhelir asesiad drwy aseiniad, arholiad ymarferol a theori ac astudiaethau achos clinigol a byddwch yn ennill dyfarniad VTCT Lefel 5 mewn Plicio Croen.聽
Ar 么l cwblhau'r cwrs hwn byddwch yn symud ymlaen i gyrsiau Lefel 4 a 5 eraill megis:
- Dyfarniad Lefel 4 mewn Dermaplanio (Dermaplaning)
- Dyfarniad Lefel 4 mewn Nodwyddo Croen
- Dyfarniad Lefel 4 mewn Amledd Radio
- Dyfarniad Lefel 4 mewn Micro-lafnu Aeliau
Gofynion Mynediad
Bydd rhaid meddu ar Ddyfarniad Lefel 4 mewn Plicio Croen a bod yn 18 oed neu'n h欧n.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd gofyn i chi wisgo gwisg clinig ac esgidiau addas.
Mae cost y cwrs yn cynnwys ffioedd dysgu a chofrestru. Mae ffioedd dysgu yn ddyledus ar adeg cofrestriad/ymrestriad. Os bydd angen, gellir gwneud hyn trwy ddebyd uniongyrchol dros bum rhandaliad. Os yw eich cyflogwr yn ariannu eich cwrs, bydd cadarnhad o hyn yn ofynnol er mwyn i'r coleg allu trefnu i'w anfonebu.
Mae'n hanfodol eich bod chi'n gallu darparu 4 - 6 cleient fel astudiaethau achos ar gyfer eich asesiadau.
Manteision Masnachol a Busnes
Gwerthir triniaethau plicio croen yn aml am 拢60-100 y driniaeth, fodd bynnag, mae hyn ar ddiwedd is yr ystod prisio; mae'r rhain yn gweithio'n dda fel pecyn mewn cyfuniad 芒 thriniaethau eraill neu wedi'u gwerthu 芒 chynhyrchion gofal yn y cartref i wneud yr elw mwyaf posib.聽Gall triniaethau yn y DU costau rhwng 拢250 - 拢500
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
CPAW0630AB
Campws Crosskeys
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 02 Mehefin 2025
Ar 么l archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar 么l y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiat谩u os ydych chi鈥檔 bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.
Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw鈥檙 polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a鈥檜 canslo os tybir nad yw鈥檔 bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu鈥檔 ansicr ai hwn yw鈥檙 cwrs addas i chi?
Cysylltwch 芒鈥檔 T卯m Recriwtio Myfyrwyr