VTCT Dyfarniad mewn Estyniadau Amrannau Lefel 3
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch
Lefel
3
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Ffioedd
£205.00
Noder, mae鈥檙 holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn
07 Ionawr 2025
Dydd Mawrth
Amser Dechrau
16:15
Amser Gorffen
20:45
Hyd
14 wythnos
Gofynion Mynediad
I gael lle ar y cwrs hwn, rhaid i chi fod yn 19 oed neu hyn, a gyda diddordeb yn y diwydiant harddwch neu'n gweithio ynddo鈥檔 barod.
Yn gryno
Os ydych yn awyddus dilyn gyrfa yn y diwydiant harddwch, yna bydd y cwrs hwn yn eich addysgu chi sut i roi amrannau parhaol unigol, yn ogystal 芒 rhoi gwybodaeth gadarn i chi o iechyd a diogelwch mewn amgylchedd salon a hyrwyddo gofal cleientiaid a chyfathrebu gyda chleientiaid.
Dyma'r cwrs i chi os...
...unrhyw un sydd eisiau gwella eu sgiliau presennol a chynnig triniaethau diweddaraf y diwydiant.
...rheiny sydd eisiau dysgu proffesiwn newydd a gweithio yn y diwydiant harddwch.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae'r cwrs VTCT Dyfarniad Lefel 3 mewn Estyniadau Amrannau wedi'i ddylunio'n benodol i ddatblygu'ch sgiliau mewn therapi harddwch i lefel uwch, fel y gallwch gynnig eich gwasanaethau salon eich hun. Mae'r cymhwyster hwn wedi'i gymeradwyo a'i gefnogi gan Awdurdod y Diwydiant Trin Gwallt a Harddwch (HABIA), y corff gosod safonau ar gyfer cymwysterau trin gwallt, harddwch, ewinedd a sba.
Bydd angen i chi fod yn hunan-gymhellol, gweithgar, cyfeillgar ac yn meddu ar lefel uchel o gyflwyniad personol, a bod yn ymroddedig i bresenoldeb llawn a phrydlondeb yn yr holl sesiynau. Bydd disgwyl i chi weithio ar gleientiaid go iawn mewn amgylchedd masnachol a bod yn gyfrifol am ddatblygu'ch 'sylfaen o gleientiaid' eich hun.
Cewch eich asesu gan gyfuniad o waith arsylwi, datganiadau tystion, cyfryngau clyweledol, cwestiynau ysgrifenedig ac ar lafar, aseiniadau ac astudiaethau achos.
Ar 么l y cwrs hwn, gallech symud ymlaen i gymwysterau VTCT eraill, neu weithio yn y diwydiant yn gwneud triniaethau estyniad amrannau. Gallech gofrestru i wneud cyrsiau harddwch eraill neu gael gwaith fel technegydd amrannau.
Gwybodaeth Ychwanegol
Cod gwisg ein salon yw:
- Tiwnig gyda throwsus ac esgidiau duon
- Gwallt wedi'i glymu'n 么l yn daclus oddi wrth yr wyneb
- Ni ddylid gwisgo estyniadau gwallt a lliw ewinedd
- Dim tlysau - caniateir gwisgo modrwy briodas yn unig
Bydd disgwyl i chi wisgo gwisg y diwydiant harddwch neu ddillad addas a phrynu pecyn arlliwio fel amod o'ch lle ar y cwrs, sydd tua 拢80 i 拢100.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
EPAW0503AA
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 07 Ionawr 2025
Ar 么l archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar 么l y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiat谩u os ydych chi鈥檔 bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.
Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw鈥檙 polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a鈥檜 canslo os tybir nad yw鈥檔 bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu鈥檔 ansicr ai hwn yw鈥檙 cwrs addas i chi?
Cysylltwch 芒鈥檔 T卯m Recriwtio Myfyrwyr